Taith Bywyd
Oherwydd myfi sy'n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,’ medd yr ARGLWYDD, ‘bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol.Jeremeia 29:11
Mae'r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig yn bennaf: ‘Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd' ac 'Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl’. Gellir archwilio cysylltiadau gyda datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ynghyd â Meysydd eraill, drwy'r is-lens hon hefyd.
Canllawiau ar yr Is-Lens
Dull Enghreifftiol
Mae'r adran hon yn darparu enghreifftiau o ffyrdd y gellid datblygu taith ddysgu blwraliaethol. Gallai'r daith ddechrau ar unrhyw gam ac ni ddylid ei chyfyngu i'r enghreifftiau a roddir. Anogir cwestiynau er mwyn hwyluso datblygiad sy'n cael ei ddylanwadu gan y dysgwr.
Mae pob enghraifft yn ymwneud â cham datblygu penodol ond dylid ei haddasu yn unol â gofynion dysgwyr.