Y Byd Naturiol a Phethau Byw
Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu, ac i adar y nefoedd fynegi i ti, neu i blanhigion y tir dy hyfforddi, ac i bysgod y môr dy gyfarwyddo. Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gyd mai llaw'r ARGLWYDD a'u gwnaeth? Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw, ac anadl pob un meidrol.Job 12 7-10
Mae'r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig yn bennaf: ‘Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol' ac 'Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol’. Gellir archwilio cysylltiadau gyda datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ynghyd â Meysydd eraill, drwy'r is-lens hon hefyd.
Canllawiau ar yr Is-Lens
Dull Enghreifftiol
Mae'r adran hon yn darparu enghreifftiau o ffyrdd y gellid datblygu taith ddysgu blwraliaethol. Gallai'r daith ddechrau ar unrhyw gam ac ni ddylid ei chyfyngu i'r enghreifftiau a roddir. Anogir cwestiynau er mwyn hwyluso datblygiad sy'n cael ei ddylanwadu gan y dysgwr.
Mae pob enghraifft yn ymwneud â cham datblygu penodol ond dylid ei haddasu yn unol â gofynion dysgwyr.