Hafan Cyrsiau Ymchwil a Gwybodaeth Dysgu seiliedig ar gyd-destun - Dŵr a Ffydd

Dysgu seiliedig ar gyd-destun - Dŵr a Ffydd

Ysgol Gynradd Alderman Davies, yr Eglwys yng Nghymru - Holly Kent

Mae Ysgol Gynradd Alderman Davies, wedi'i lleoli yng Nghastell-nedd, yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir, ac yn un o ysgolion yr Eglwys Yng Nghymru. Mae ganddi 288 o ddysgwyr ar y gofrestr.  Mae'r ysgol yn ffinio ag eglwys Dewi Sant ac mae wedi ei lleolo yng nghanol y dref gyda mynediad at lawer o gyfleusterau a'r brif ganolfan siopa.

Ffocws y prosiect oedd datblygu arddull dysgu sy'n seiliedig ar gysyniad o Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (RVE), a hynny o fewn gwerthoedd Parch yr ysgol gyfan. Mewn grwpiau bach, cafodd y plant y dasg o ddylunio gwers er mwyn dysgu eu cymheiriaid yn y dosbarth am arwyddocâd dŵr mewn ffydd.

Pam wnaethoch chi ddewis y ffocws hwn?

Rhoddodd y strategaeth ddysgu hon gyfle i ddatblygu ac arddangos sgiliau meddwl trefn uwch a'r sgiliau hynny sy'n rhan annatod o bedwar diben Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn wedi bod yn ffocws parhaus yn ein Hawdurdod Lleol trwy gyd-destun RVE.

Pa newidiadau ydych chi wedi'u gwneud?

Cyn y rhwydwaith RVE, defnyddiodd addysgu RVE ddull arwahanol gan ddefnyddio Deall Cristnogaeth yn bennaf. Nid oedd llawer o gysylltiad â themâu'r dosbarth presennol, crefyddau eraill nac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol. Pan gyflwynwyd cysyniadau tymhorol, daeth yn amlwg bod angen i'r gwerthoedd eu hunain ddod yn gysyniadau ar gyfer addysgu a dysgu, er mwyn ymgorffori gwerthoedd yr ysgol. Ar yr un pryd, canolbwyntiodd dysgu proffesiynol parhaus ar sgiliau meddwl o natur uwch (HOTS) ac roeddwn hefyd yn rhan o gynllun peilot addysgu a dysgu Awdurdod Lleol a oedd yn cefnogi'r dull hwn. Wrth archwilio is-lensys RVE ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau (AoLE) daeth yn amlwg mai'r elfennau hyn fyddai fy ffocws.

Cysyniad ysgol gyfan Tymor yr Haf oedd Parch, gyda Blwyddyn 5/6 yn canolbwyntio ar Afonydd, Crefydd a Phgarch. Gan ganolbwyntio ar gynefin, dechreuodd y dysgu yn ddaearyddol gan ganolbwyntio ar afon Nedd sy'n rhedeg trwy ein hardal leol.

Edrychom ar sut mae'r afon hon yn rheswm dros fodolaeth ein tref, ac ochr yn ochr â hyn roedd y dysgwyr yn dangos dealltwriaeth o "Parch yw..." trwy ddysgu gwerthoedd integredig ac addoli ar y cyd. O'r pwynt hwn, amcan y dysgu oedd delweddu afon o'i tharddle gan ddefnyddio gweithgaredd modelu graffig a oedd yn cynnwys casglu gwybodaeth allweddol a geirfa benodol allan o destun penodedig oedd yn berthnasol i’r pwnc. Cyflwynwyd elfen addysgeg newydd trwy addysgu gweithgarwch yn ymwneud yn benodol â Chychod ar daith afon. Roedd hyn er mwyn ymgorffori geirfa benodol ar bwnc ymhellach. Pwrpas y gweithgaredd oedd dysgu am bwysigrwydd dŵr mewn gwahanol barthau.

Gweithgaredd dadansoddi 'Gweld, Meddwl, Rhyfeddu' o ddelwedd o bobl yn addoli ar lan afon, er mwyn rhoi cyfle i archwilio, damcaniaethu a dyfalu. Yna cyflwynwyd y dysgwyr i'w tasg o weithio tuag at wersi dan arweiniad disgyblion ar dasg grŵp Dŵr mewn Ffydd gan ddefnyddio dysgu blaenorol lle mae plant yn:

  • Trefnu eu grŵp mewn rolau gwahanol
  • Cynllunio gwers i ddysgu eraill am ddŵr mewn un ffydd neu mewn un argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol
  • Creu cynllun gwers
  • Dyfeisio a chynhyrchu adnoddau deniadol
  • Traddodi gwers i gyfoedion
  • Gwerthuso gan ddefnyddio triongl adlewyrchiad

Nid oedd yr adnodd dŵr mewn ffydd yn cynnwys unrhyw argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, felly wedyn defnyddiwyd dealltwriaeth Dyneiddiaeth ar y gerdd 'The Starfish Thrower' i wneud cysylltiadau â chredoau a gweithredoedd.

Beth oedd effaith y newidiadau?

Nid yw RVE bellach yn cael ei addysgu ar wahân ym Mlwyddyn 5/6. Mae gwrando ar ddysgwyr o bob rhan o'r ysgol wedi dangos y gall plant siarad am eu dysgu a'u dealltwriaeth yn RVE a bod HOTS yn amlwg mewn cynlluniau a llyfrau’r dysgwyr. Y camau nesaf yw ymgorffori is-lensys i fap cwricwlwm RVE fel ei fod yn esblygu, ac arwain sesiwn ddysgu broffesiynol i roi adborth ar gyfweliadau dysgwyr a rhannu sut y gall RVE eistedd o fewn cynllunio ac asesu cysyniad ysgol-gyfan.

Beth wnaeth ddylanwadu arnoch chi?

Dylanwadodd sesiynau Rhwydwaith RVE yr Eglwys yng Nghymru yn fawr ar feddwl, deall ac yn y pen draw hyder o sut olwg allai fod ar RVE da. Cefnogaeth gan dîm yr Esgobaeth wrth ddatblygu map y cwricwlwm. Roedd mynychu hyfforddiant Duw a'r Glec Fawr yn ehangu meddwl RVE i mewn i AoLE y Dyniaethau ac ymhellach i AoLEs eraill fel Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Bod yn rhan o Gynllun Peilot Addysgu a Dysgu Castell-nedd Port Talbot ar gyfer cynllunio cysyniadau, asesu, strategaethau addysgu a HOTS.

Y tri chanfyddiad gorau

  1. Defnyddio gwefan yr Eglwys yng Nghymru a dadansoddi is-lensys wrth gynllunio a phenderfynu ar asesu
  2. Parhau i ddatblygu dealltwriaeth o addysgeg o amgylch RVE fel ei fod yn parhau i gael ei ymgorffori mewn cysyniadau a dod yn gyfle i ddatblygu sgiliau sy'n rhan annatod o'r pedwar diben
  3. Mae’r ardal leol, cyd-destun ac ethos yr ysgol mor bwysig wrth wneud RVE yn ystyrlon i blant. Mae angen iddynt hefyd deimlo'n ddiogel er mwyn bod yn chwilfrydig a gofyn cwestiynau am y byd o'u cwmpas a fydd yn y pen draw yn siapio dinasyddion sy'n wybodus yn foesegol