Archwilio amrywiaeth o gredoau gan gynnwys argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol
Ewch i:
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain - Beth Edwards
Mae ysgol Llanfechain yn ysgol fechan Wirfoddol a Reolir gan yr Eglwys yng Nghymru. Mae ganddi rôl sylweddol yn y gymuned y mae'n ei gwasanaethu. Mae gan y pentref boblogaeth o tua 500 o bobl ac mae wedi'i leoli yng ngogledd sir Powys yng nghefn gwlad canolbarth Cymru.
Roedd ffocws y prosiect yn ymwneud ag archwilio amrywiaeth o gredoau gan gynnwys argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol.
Pam wnaethoch chi ddewis y ffocws hwn?
Nododd yr athro dosbarth â chyfrifoldeb am arwain y grwpiau blwyddyn iau, ddiffyg dealltwriaeth gyffredinol o ffydd a chredoau heblaw am Gristnogaeth. Nid oedd llawer o gyfle i ddysgwyr archwilio amrywiaeth o safbwynt "bywyd go iawn". Roedd y dysgwyr yn gallu cael gafael ar wybodaeth am grefyddau eraill ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol o ffynonellau eilaidd fel y rhyngrwyd neu lyfrau stori, ond prin oedd y cyfle i gael mynediad at unrhyw wybodaeth drostynt eu hunain.
Pa newidiadau ydych chi wedi'u gwneud?
Y man cychwyn oedd 'Prosiect Taith Adfent' yr Eglwys yng Nghymru. Defnyddiwyd hyn i gefnogi'r cysyniad o 'groeso'. Defnyddiwyd Genedigaeth Crist fel ysgogiad i archwilio naratif Mary a Joseff a'u baban newydd-anedig. Archwiliodd y dysgwyr naratif y teulu sy'n ffoi o Fethlehem i ddod o hyd i loches a diogelwch.
Trwy'r is-lens Gwerthoedd a Moeseg Crefydd Perthynas a Chyfrifoldeb, archwiliodd y dosbarth y gwahanol berthnasoedd yn stori’r Geni ac yna symudodd o hyn i archwilio eu perthnasoedd eu hunain. Roedden nhw'n meddwl am yr hyn sy'n eu helpu nhw i fyw gydag eraill.
Fel ysgol fach mae'r plant yn rhyngweithio'n dda wrth gydweithio â'u cyfoedion ledled yr ysgol. Mae Sesiynau Anogaeth Wythnosol a gynhelir bob prynhawn Gwener yn annog y dysgwyr i archwilio gwahanol werthoedd; fel hyder, tosturi a dyfalbarhad. Fe wnaethom hefyd fyfyrio ar werth 'Heddwch' a sut y gall hyn ddechrau gyda phob un ohonom.
Trwy is-lens Hunaniaeth a Pherthnasedd edrychodd y dysgwyr ar 'Beth sy'n gwneud pobl yr hyn ydyn nhw?' Fe'u hanogir i archwilio tebygrwydd a gwahaniaethau. Roedd y dosbarth yn gweithio ar weithgaredd lle roedden nhw'n edrych ar esgidiau gwahanol ac yn ystyried i bwy yr oedd yr esgidiau'n perthyn. Roedd hyn yn gyfle i archwilio pobl a lleoedd y gallai'r esgidiau fod wedi cael eu gwisgo. Ystyriodd y plant y rhagdybiaethau y gallwn eu gwneud am bobl. Gofynnwyd cwestiynau megus – ar gyfer pwy yw'r rhain? Fe wnaeth hyn ein helpu i feddwl yn feirniadol am sut y gall pobl fod yn wahanol a'r hyn sy'n ein gwneud ni i gyd yn unigryw. Trwy hyn mae'r plant yn dechrau bod yn ymwybodol o sut maen nhw'n cael eu siapio gan y bobl a'r cymunedau o'u cwmpas.
Gosododd y dysgwyr yn y Criw Cymraeg dasg ysgol-gyfan lle roeddem yn rhannu pwysigrwydd ein hunaniaeth Gymreig a sut y gall hyn edrych yn wahanol i wahanol bobl. Creodd y dysgwyr bosteri 'Croeso' gan gynnig croeso cynnes i bawb sy'n ymweld ac yn ymuno â chymuned ein hysgol.
Beth oedd effaith y newidiadau?
Erbyn hyn mae gwell dealltwriaeth o sut i weithio o safle presennol y plant, a sut mae angen iddynt symud ymlaen. Canolbwyntir ar eu cymuned leol, gan ehangu’r ffocws i ddealltwriaeth fwy byd-eang o gymuned.
Rydym yn symud i ffwrdd o ffocws llwyr ar Gristnogaeth i edrych ar wahanol grefyddau ac argyhoeddiadau anathronyddol. Rydym yn bwriadu gwahodd amrywiaeth o wahanol bobl i'n sesiynau Nurture, lle gellir archwilio'r gwerthoedd cyffredin gyda phobl o wahanol grefyddau a chredoau, gan gynnwys Dyneiddiaeth. Hoffem ymweld ag addoldai amrywiol, a fyddai'n cefnogi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gynyddol o amrywiaeth a sut y gall eu profiadau o berthyn fod yn debyg i eraill, ac yn wahanol iddynt.
Beth wnaeth ddylanwadu arnoch chi?
Roedd darllen y llyfr Reforming RE, a olygwyd gan Mark Chater yn rhoi'r hyder i mi feddwl am sut mae cyd-destun ein hysgol fach yn bwysig. Defnyddiwyd hyn fel man cychwyn i archwilio sut olwg sydd ar amrywiaeth yn ein cymuned a sut yr ydym i gyd yn unigryw, sut i helpu'r plant i gydnabod hyn, a sut i ddefnyddio hyn fel man cychwyn i ddysgu am bobl o wahanol grefyddau a chredoau. Roedd hefyd yn sicrhau ffocws ar sut y gall y gwerthoedd rydyn ni'n eu rhannu yn ein helpu ni i drin ein gilydd â thosturi.
Y tri chanfyddiad gorau
- Roedd defnyddio arweiniad Cefnogi RVE yr Eglwys yng Nghymru wedi helpu i ganolbwyntio'r gwaith yr oeddem yn ei wneud
- Sylweddoli bod y plant yn gallu gweithio gyda chysyniadau heriol
- Sicrhau bod cyfle i archwilio amrywiaeth o fewn ein cymunedau, gan wahodd pobl sydd â phrofiad byw i ymweld â'n lleoliad