Argyhoeddiadau Athronyddol anghrefyddol yn yr Ystafell Ddosbarth Cynradd
Ewch i:
Ysgol Gymunedol Westwood - Amira Mattar
Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Westwood, yn Sir y Fflint, yn ysgol gynradd gyda thua 230 o ddisgyblion. Mae 53% o ddisgyblion yn nodi nad oes ganddynt 'unrhyw grefydd', mae 4% yn nodi eu bod yn credu mewn 'crefydd arall' ac mae 22% yn nodi eu bod yn Gristnogion.
Ffocws y prosiect oedd argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol. Y bwriad oedd cyflwyno sesiynau gyda chynhwysiant argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol i'r dosbarth ffocws ac arwain datblygiad proffesiynol i gydweithwyr i'w cefnogi i integreiddio argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn eu haddysgu.
Pam wnaethoch chi ddewis y ffocws hwn?
Yn dilyn y cyfarfod cychwynnol yng Nghaerdydd fel rhan o'r Rhwydwaith Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (RVE), meddyliais beth allwn i ei wneud a fyddai'n wahanol ac yn werthfawr i addysgwyr ledled Cymru. Roeddwn i'n teimlo bod addysgu am grefyddau eraill eisoes yn digwydd yn fy ysgol ond roedd yr elfen anghrefyddol yn rhywbeth yr oedd angen ei archwilio a'i ddatblygu yn unol â'r cwricwlwm newydd. Hefyd, trwy ddarllen canllawiau'r Dyniaethau yn y Cwricwlwm i Gymru, daeth yr ymadrodd "argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol" i fyny lawer gwaith, ond roeddwn yn dal i deimlo bod angen mwy o wybodaeth am yr hyn yr oedd hyn yn ei olygu, yn enwedig i gefnogi cydweithwyr nad oedd eu harbenigedd yn gorwedd ym maes RVE. Roeddwn hefyd eisiau archwilio'r maes hwn ar gyfer fy natblygiad proffesiynol fy hun. Yn ogystal, gan dynnu ar gyfansoddiad cred ein hysgol, roedd yn amlwg bod angen darparu addysg sy'n darparu ar gyfer y rhai sy'n nodi eu bod yn 'anghrefyddol' yn ogystal â darparu ar gyfer demograffig cred Sir y Fflint a'r ardaloedd cyfagos.
Pa newidiadau ydych chi wedi'u gwneud?
I ddechrau, gofynnais i staff lenwi holiadur yn canolbwyntio ar yr hyn yr oeddent eisoes yn ei wybod am argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol. Trwy drafodaethau, roedd yn amlwg bod gwybodaeth yn gyfyngedig iawn, ac roedd staff yn amharod i ymateb gan mai dim ond tri o bob deg aelod o staff addysgu a roddodd yr holiadur i mewn. Felly, deuthum i'r casgliad bod angen help ar staff iddynt ddysgu gwersi RVE effeithiol yn hyderus yn eu hystafelloedd dosbarth.
Cynlluniais a chyflwynais sesiwn hyfforddi HMS. Yn dilyn hyn, roedd y staff yn teimlo'n fodlon yn eu dealltwriaeth o beth oedd argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol, a sut y gallent ei ymgorffori yn eu haddysgu. Rhoddwyd gwybodaeth i'r staff am rai o'r argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol sy'n bodoli yn y byd heddiw a chawsant gyfle hefyd i gynllunio pwnc, a oedd yn ymgorffori argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol.
Yna edrychais ar weithredu argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn amgylchedd yr ystafell ddosbarth, sef rhywbeth nad oedd wedi digwydd yn bwrpasol o'r blaen. Dysgais bwnc y Creu a chanolbwyntiais ar addysgu pedair stori/damcaniaeth creu: Cristnogaeth, Islam, Sikhaeth a Theori Wyddonol. O hyn, bu'n rhaid i'r plant lunio eu stori creu eu hunain, gan gadw un elfen o stori yr oeddent eisoes wedi clywed amdani yn y sesiwn flaenorol, ond hefyd yn meddwl sut y gallent atal dynoliaeth rhag niweidio'r blaned, gan fynd i'r afael â'r Nodau Byd-eang. Roedd y wers hon yn agored iawn, a chafodd y plant gyfle i ddyfeisio eu straeon eu hunain yn y ffurf ysgrifenedig, rhai yn dewis cwblhau bwrdd stori, a dewisodd rhai dynnu lluniau a datblygu animeiddiad stop-ffrâm. Yn fy sefyllfa fel yr athro, roedd yn hynod ddiddorol i weld barn a chredoau pawb a gymerodd ran a sylwi ar sut aeth pob plentyn â'r gweithgaredd i gyfeiriad gwahanol. Roedd y plant hefyd yn gwrando ar syniadau ei gilydd ac yn awyddus i wrando ar sut y gallai'r syniadau ar bwnc syml y Creu fod mor amrywiol oddi wrth ei gilydd.
Ar ôl cyflwyno'r sesiwn i staff yn yr ysgol, cefais gyfle i rannu'r sesiwn staff gyda phenaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr yr Eglwys yng Nghymru. Cyflawnwyd hyn yn nhymor yr haf 2023 a thymor yr hydref 2023 yn Wrecsam, y Trallwng, Llanelwy a Chaernarfon.
Roedd y sesiynau'n amrywio o ran nifer y mynychwyr ac roedd yr ymatebion a roddwyd yn wahanol ym mhob sesiwn. Fel yr oeddwn wedi ei wneud yn y sesiwn ar gyfer fy nghydweithwyr ysgol, gofynnais y cwestiwn ar ddechrau pob sesiwn
"Beth sy'n dod i'r meddwl pan fydd rhywun yn sôn am RVE?"
Er bod y rhan fwyaf o'r ymatebion a roddwyd dros y sesiynau yn canolbwyntio ar yr ymatebion disgwyliedig fel "moesau," "moeseg," "gwerthoedd," "crefydd," "credoau" a "chymuned," roedd rhai o'r ymatebion a roddwyd yn bethau fel "panig," "llethu" a "llwyth gwaith."
Roedd hyn yn dangos i mi fod RVE yn faes o'r Cwricwlwm i Gymru sy'n achosi pryder i staff.
Beth oedd effaith y newidiadau?
Roedd y newidiadau a wnaed yn effeithio ar addysgu a dysgu. Roedd addysgu hyn yn fy nosbarth fy hun yn gyfle i mi weld y plant yn rhannu eu safbwyntiau personol eu hunain ar greu, tra hefyd yn gallu gwrando gydag empathi a dealltwriaeth o farn pobl eraill. Newidiais y sefyllfa ddysgu a'i rhoi yn nwylo'r disgyblion. Cawsant gyfle i ddatblygu eu straeon eu hunain, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a'u dychymyg. Arweiniwyd y dysgu gan ddisgyblion a oedd yn ennyn diddordeb dysgwyr ac arweiniodd at drafodaethau cyfoethog.
Wrth gyflwyno'r sesiwn i benaethiaid a Chadeiryddion y Llywodraethwyr, rwyf wedi eu hannog i gwestiynu eu persbectif a'u meddyliau ar RVE, gan roi mwy o hyder iddyn nhw hefyd. Mae pryderon o hyd ynghylch dealltwriaeth o rywfaint o'r iaith yng nghanllawiau'r cwricwlwm.
Drwy wneud yr ymchwil hwn, rwyf wedi dod i ddeall bod argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn hynod werthfawr i addysgu a dysgu yng Nghymru.
Beth wnaeth ddylanwadu arnoch chi?
Dylanwadwyd arnaf gan ymchwil flaenorol yr oeddwn wedi'i wneud ar gyfer fy nhraethawd hir israddedig yn 2017, a oedd â'r teitl "A yw RE yn addas i'r diben?" Roedd hyn yn cynnwys edrych ar REforREal, a oedd yn astudiaeth a gynhaliwyd yn 2015. Dangosodd yr astudiaeth hon beth oedd y problemau yn AG bryd hynny, ac er bod yr astudiaeth yn canolbwyntio ar gyd-destun Lloegr, mae'n tynnu sylw at y problemau a allai fod yn digwydd yn RVE.
Rwyf hefyd wedi cael fy ndylanwadu gan y testun "Reforming RE" yn enwedig y bennod "Tirweddau, go iawn, a dychmygus"
Y tri chanfyddiad gorau
- Mae creu mannau diogel mewn ystafelloedd dosbarth yn rhan hanfodol o ddarparu sesiynau RVE o ansawdd da. Mae hyn yn caniatáu i ddysgwyr holi a darganfod pethau newydd am grefyddau ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol.
- Gellir cydblethu argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol â chredoau crefyddol, ac felly maent yn rhoi hyd yn oed mwy o gyfle i drafod ac ymchwilio yn amgylchedd yr ystafell ddosbarth. Byddai hyn yn caniatáu i'n disgyblion fod yn ddinasyddion hyd yn oed yn fwy moesegol wybodus
- Mae angen hyfforddiant a chymorth ychwanegol gan athrawon ledled Cymru i gefnogi'r gwaith o ddarparu RVE yn llwyddiannus.