Hafan Cyrsiau Arolygon Adran 50 Canllaw i'r broses arolygu

Canllaw i'r broses arolygu

Canllawiau ar gyfer Arolygwyr Adran 50

Sut rydym yn arolygu

Ni fydd arolygwyr Adran 50 yn rhoi gradd na graddau cyffredinol ar gyfer pob maes arolygu. Bydd testun yr adroddiad yn adlewyrchu gwerthusiad trylwyr o Gydaddoliad yr ysgol, ethos Cristnogol, Crefydd, gwerthoedd a moeseg sy'n berthnasol i gyd-destun yr ysgol, ac effaith arweinyddiaeth ar ethos Cristnogol yr ysgol. Yn y bôn, mae arolygwyr yn edrych ar ba mor dda yw'r ysgol fel ysgol yr Eglwys yng Nghymru.

Bydd adroddiadau'n dilyn yr un templed sylfaenol, fodd bynnag, bydd amrywiad ar yr hyn y mae arolygwyr yn adrodd arno ym mhob maes arolygu yn dibynnu ar gyd-destun yr ysgol a'r priodoleddau arwyddocaol a geir ym mhob ysgol.

Gall arolygwyr roi gwybod 'trwy eithriad' os oes cryfderau neu wendidau nodedig.

Craffu ar ddogfennau, gan gynnwys, er enghraifft, hunanwerthuso, polisïau, cynlluniau, a dysgwyr yn gweithio mewn crefydd, gwerthoedd a moeseg, fel rhan o'r broses casglu tystiolaeth.

Pan fydd arolygwyr yn nodi unrhyw arfer diddorol neu arloesol sy'n deilwng o'i rannu'n ehangach, byddant yn gwahodd yr ysgol i gwblhau astudiaeth achos. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.

Asesu ar gyfer dysgu / Dilyniant mewn Crefydd, gwerthoedd a moeseg

Wrth werthuso ansawdd yr adborth gan athrawon ac ymarferwyr eraill, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae adborth llafar ac ysgrifenedig yn helpu dysgwyr i wybod pa mor dda y maent yn ei wneud, yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella, a sut y gallant wella eu gwaith.

Dylai arolygwyr seilio eu gwerthusiad o ddysgu disgyblion ar dystiolaeth o arsylwadau gwersi, teithiau cerdded dysgu, trafodaethau gyda disgyblion a chraffu ar eu gwaith ysgrifenedig, ymarferol, creadigol a digidol.

Cwricwlwm Crefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM)

Dylai arolygwyr werthuso cwricwlwm CGM yr ysgol mewn ffordd hyblyg a chadarnhaol. Nid oes model cwricwlwm penodol ar gyfer CGM, fodd bynnag, dylai ysgolion ddilyn Canllawiau Cefnogi'r Eglwys yng Nghymru ar gyfer CGM. Dylai arolygwyr hefyd ystyried cwricwlwm CGM yng nghyd-destun cyffredinol yr ysgol fel ysgol eglwysig a gweithrediad ehangach y Cwricwlwm i Gymru.

Wrth werthuso cwricwlwm ysgol, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae'r ysgol yn alinio datblygiad a darpariaeth eu cwricwlwm â'r ethos Cristnogol a gweledigaeth ddiwinyddol yr ysgol. Dylai arolygwyr ystyried sut mae'r dewisiadau a wneir gan arweinwyr a staff yn cyd-fynd â'r weledigaeth hon i gefnogi disgyblion i wneud cynnydd yn eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o CGM.

Addysgu ac Asesu

Wrth werthuso addysgu ac asesu, dylai arolygwyr nodi nad oes unrhyw fethodoleg ddewisol y dylai athrawon ei dilyn, ac y gall athrawon ddefnyddio ystod o wahanol ddulliau dros amser. Y brif ystyriaeth yw a yw ymarfer yn yr ystafell ddosbarth yn llwyddo i ennyn diddordeb pob dysgwr a datblygu eu sgiliau, gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiadau mewn CGM i lefel briodol o uchel wrth iddynt symud drwy'r ysgol.

Wrth werthuso addysgu ac asesu, dylai arolygwyr ddefnyddio'r ystod lawn o dystiolaeth sydd ar gael iddynt. Mae hyn yn debygol o gynnwys tystiolaeth o waith dysgwyr (gan gynnwys yr hyn a gwblhawyd ar-lein/yn ddigidol), cynllunio athrawon, cofnodion asesu, gwybodaeth am gynnydd dysgwyr a thrafodaethau gyda dysgwyr a staff, yn ogystal ag arsylwi gwersi a theithiau cerdded dysgu.

Canllaw i'r Broses Arolygu