Hafan Cyrsiau Arolygon Adran 50 Cwestiynau allweddol ar gyfer arolygon Adran 50

Cwestiynau allweddol ar gyfer arolygon Adran 50

Prif amcan arolwg Adran 50 yw gwerthuso arbenigrwydd ac effeithiolrwydd yr ysgol fel ysgol Eglwysig.

Bydd canlyniadau prosesau gwella ysgol Eglwysig, a wirir drwy arolwg, yn ceisio barnu pa mor dda y mae cymeriad a gwerthoedd Cristnogol unigryw yr ysgol yn sicrhau datblygiad a chyflawniad y dysgwr cyfan.

Dylai'r arolygwyr chwilio am atebion i bedwar cwestiwn allweddol:

  1. Pa mor dda mae'r ysgol, trwy ei chymeriad Cristnogol unigryw, yn diwallu anghenion pob dysgwr?
  2. Beth yw effaith addoli ar y cyd ar gymuned yr ysgol?
  3. Pa mor effeithiol yw crefydd, gwerthoedd a moeseg?
  4. Pa mor effeithiol yw arweinyddiaeth yr ysgol fel ysgol eglwysig?

O fewn pob cwestiwn allweddol, mae nifer o ffactorau y dylai arolygwyr eu hystyried wrth ddod i gasgliadau. Gofynnir i arolygwyr ddod i gasgliad cyffredinol ar gyfer pob cwestiwn allweddol, nid ar gyfer pob ffactor.

Darperir ffurflen grynhoi i'w cynorthwyo i ffurfio'r casgliad cyffredinol hwnnw.

Cwestiwn Allweddol 1: Cymeriad Cristnogol

Pa mor dda mae'r ysgol, trwy ei chymeriad Cristnogol unigryw yn diwallu anghenion pob dysgwr?

Ffactorau i'w hystyried:

  • Sut mae dysgwyr a phob aelod o gymuned yr ysgol yn cael cyfleoedd drwy werthoedd Cristnogol unigryw'r ysgol, i ddeall a dathlu eu natur unigryw ac i ddatblygu eu hunaniaeth?
  • Sut mae dysgwyr yn cael cyfleoedd drwy werthoedd Cristnogol yr ysgol, a thrwy gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol, i ddatblygu empathi, cydymdeimlad a thosturi at y rhai y maent yn eu hadnabod a'r rhai nad ydynt erioed wedi eu cyfarfod?
  • Sut mae dysgwyr yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu perthynas ag eraill trwy waith tîm?
  • Ym mha ffyrdd mae dysgwyr yn cael eu hannog i ymgysylltu â'r byd o'u cwmpas i ryfeddu at harddwch y byd naturiol ac i ddatblygu ymdeimlad o gyfrifoldeb/stiwardiaeth tuag ato?
  • Sut mae dysgwyr yn cael eu hannog i ddatblygu eu creadigrwydd eu hunain a chael cyfleoedd i ymateb yn emosiynol i ganlyniadau creadigrwydd dynol?
  • I ba raddau, trwy gymeriad Cristnogol arbennig yr ysgol y rhoddir cyfle i blant, pobl ifanc a phob aelod o gymuned yr ysgol i ddatblygu dealltwriaeth o'r cysyniad o'r tu hwnt/trosgynnol ac ymgysylltu ag ef?
  • Sut mae dysgwyr yn datblygu ymwybyddiaeth o'u lle yn y byd a bod gan fywyd broses?

Cwestiwn Allweddol 2: Addoli ar y cyd

Beth yw effaith addoli ar y cyd ar gymuned yr ysgol?

Mae'r adran hon yn ymdrin ag effaith addoli ar y cyd ar holl aelodau cymuned yr ysgol. Mae'n ystyried sut mae pwysigrwydd addoli ar y cyd yn cael ei ddangos ym mywyd yr ysgol a pha mor dda y mae'n datblygu dealltwriaeth dysgwyr o draddodiadau ac arferion yr Eglwys yng Nghymru.

Ffactorau i'w hystyried:

  • I ba raddau y mae addoli ar y cyd yn cynnal ffocws cyson ar draddodiadau diwinyddol sylfaen Gristnogol yr ysgol?
  • Sut mae addoli ar y cyd yn cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant a pherthnasoedd cadarnhaol gyda phwyslais ar ddatblygiad ysbrydol i gymuned yr ysgol gyfan?
  • Sut mae addoli ar y cyd yn defnyddio cyfuniad o ddulliau sy'n berthnasol i gyd-destun ac anghenion dysgwyr?
  • Sut mae cyfuniad o ymagweddau at addoli ar y cyd yn hyrwyddo creadigrwydd a meddwl beirniadol, sy'n cynnig cyfle i bob aelod o gymuned yr ysgol ddatblygu eu hysbrydolrwydd?
  • Pa dystiolaeth sy'n bodoli bod yr ysgol yn defnyddio cyd-destunau dilys ar gyfer addoli?
  • Ym mha ffyrdd mae'r ysgol yn ymgysylltu â materion ac yn dewis adnoddau ar gyfer addoli ar y cyd sy'n ymgysylltu ac yn adeiladu ar wybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad blaenorol plant o draddodiadau Cristnogol?
  • I ba raddau mae'r ymdeimlad o gynefin wedi'i wreiddio mewn addoliad ysgol?
  • Sut mae arweinwyr yr ysgol (gan gynnwys Llywodraethwyr) yn sicrhau bod addoli ar y cyd yn gynhwysol, yn wahoddiadol ac yn ysbrydoledig?
  • Ym mha ffyrdd mae'r ysgol yn annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain drwy arwain, monitro a gwerthuso addoli ar y cyd?
  • Sut mae cydweithio yn cael ei annog drwy addoli ar y cyd?

Cwestiwn Allweddol 3: Crefydd, gwerthoedd a moeseg

Pa mor effeithiol yw Crefydd, gwerthoedd a moeseg?

Mae'r adran hon yn ymdrin â'r ddarpariaeth, ansawdd yr addysgu a'r dysgu a'r lefelau cynnydd i ddysgwyr yng nghwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg yr ysgol.

Ffactorau i'w hystyried:

  • I ba raddau y mae addysgu mewn CGM yn darparu lefelau priodol o her a chefnogaeth a sicrhau bod pob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag ADY a'r rhai y mae tlodi ac anfantais yn effeithio'n andwyol arnynt yn gwneud cynnydd priodol?
  • Pa mor dda y mae addysgu mewn CGM yn defnyddio cwestiynu ac adborth i gefnogi cynnydd dysgwyr a'u helpu i ddeall eu cryfderau a'u meysydd eu hunain i'w gwella?
  • I ba raddau y mae addysgu mewn CGM yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr weithio'n annibynnol ac ar y cyd?
  • I ba raddau mae'r amgylchedd dysgu yn ysgogi ac yn ennyn diddordeb sy'n adlewyrchu pwysigrwydd CGM o fewn y cwricwlwm?
  • I ba raddau mae'r cwricwlwm yn darparu ehangder a dyfnder dysgu addas i ddysgwyr mewn CGM?
  • I ba raddau y mae'r cwricwlwm CGM yn cyfrannu at ddatblygu dealltwriaeth o dreftadaeth ieithyddol, amrywiaeth ethnig, hunaniaethau a phrofiadau a safbwyntiau byw o'u hardal leol, Cymru a'r byd ehangach?
  • I ba raddau y mae'r cwricwlwm CGM yn cefnogi datblygiad ymwybyddiaeth ysbrydol, foesol, gymdeithasol a diwylliannol disgyblion?
  • I ba raddau y mae'r cwricwlwm CGM yn meithrin agweddau cadarnhaol a pharchus?
  • I ba raddau y mae cwricwlwm ac ddysgu crefydd, gwerthoedd a moeseg yn wrthrychol, yn feirniadol ac yn blwraliaethol?

Cwestiwn Allweddol 4: Arweinyddiaeth

Pa mor effeithiol yw arweinyddiaeth yr ysgol fel ysgol eglwysig?

Mae'r adran hon yn ystyried effaith ac effeithiolrwydd arweinyddiaeth ysgol Eglwysig. Bydd hyn yn cynnwys i ba raddau y mae arweinwyr ar bob lefel, gan gynnwys llywodraethwyr, yn mynegi ac yn hyrwyddo gweledigaeth neilltuol ar gyfer yr ysgol yn seiliedig ar ei chymeriad Cristnogol.

Ffactorau i'w hystyried:

  • I ba raddau y mae arweinwyr wedi sefydlu a chyfathrebu gweledigaeth Gristnogol glir, ddiwinyddol ar gyfer yr ysgol, sy'n ddilys i gyd-destun yr ysgol ac yn weledigaeth y mae holl aelodau cymuned yr ysgol yn ei deall?
  • Pa mor dda y mae arweinwyr yn pennu disgwyliadau uchel ar gyfer holl aelodau'r gymuned ysgol, yn cynnwys nhw eu hunain, ac yn mynd ati i hyrwyddo lles holl aelodau'r gymuned ysgol, yn cynnwys nhw eu hunain?
  • Pa mor dda y mae arweinwyr yn ymgysylltu â'r holl staff yng nghyswllt dysgu proffesiynol sy'n cefnogi datblygiad eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o grefydd, gwerthoedd a moeseg ac sy'n cynnig cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau arwain yng nghyd-destun arweinyddiaeth ysgol Eglwysig?
  • Pa mor dda y mae llywodraethwyr ac yn arbennig llywodraethwyr sefydledig yn deall ac yn cyflawni eu cyfrifoldebau fel llywodraethwyr yn benodol i ba raddau y maent yn:
    • Cyflawni eu cyfrifoldebau statudol o ran arolygu Adran 50
    • Cyfrannu at ddatblygiad ethos Cristnogol yr ysgol
    • Cyflawni eu cyfrifoldebau statudol fel yr Awdurdod Derbyn (VA)
    • Cefnogi tîm arweinyddiaeth yr ysgol i gynnal adeiladwaith yr adeilad y mae ganddynt gyfrifoldeb amdano o fewn cyfyngiadau cyllidebol (VA)
  • Pa mor dda y mae arweinwyr yn sefydlu ac yn hyrwyddo perthynas gadarnhaol â chymuned yr Eglwys leol, yr esgobaeth a'r Eglwys yng Nghymru a sut mae'r perthnasoedd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar weledigaeth yr ysgol ac yn galluogi pawb i ffynnu?
  • Pa mor dda y mae arweinwyr yr ysgol yn sefydlu ac yn hyrwyddo perthynas gadarnhaol gyda theuluoedd a chymuned ehangach yr ysgol?