Cronfa Twf yr Eglwys
Mae’n gyfnod tyngedfennol yn ein hanes. Mae Cronfa Twf yr Eglwys yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gyfarparu efengylu hyderus a chyson ledled y dalaith. Ei nod yw gweld pobl yn dod i gysylltiad ag Iesu, dod i ffydd, cael eu bedyddio a dod yn ddisgyblion. Bydd y Gronfa yn galluogi'r Eglwys yng Nghymru i ddatblygu ffyrdd newydd a chyffrous o rannu'r newyddion da am Iesu Grist - neges gyda'r pŵer i drawsnewid bywydau a chymunedau ledled Cymru.
Mae £100 miliwn o gronfeydd cyfalaf wedi'u neilltuo i fuddsoddi mewn efengylu drwy'r gronfa hon dros y 10 mlynedd nesaf.
Lansiwyd y Gronfa ym mis Hydref 2023. Cytunwyd ar y meini prawf ar gyfer gweinyddu'r Gronfa gan Grŵp Dyrannu Cronfa Twf yr Eglwys, sydd hefyd yn gyfrifol am asesu a chymeradwyo ceisiadau am grant.
Mae dwy haen o gyllid gan Gronfa Twf yr Eglwys:
- Mae'r gyntaf, haen 1, ar gyfer ceisiadau grant £10,000 neu lai, yn bennaf gan ardaloedd gweinidogaeth/cenhadaeth, ar gyfer gwaith sy'n arloesol yn lleol ac yn bosibl i’w ddyblygu yn genedlaethol. Rhowch sylw manwl i gymal g yn y ffurflen gais, sy'n esbonio na ellir defnyddio'r ffrwd Haen 1 i gefnogi costau staffio neu brosiectau adeiladu.
- Mae'r ail, haen 2, ar gyfer ceisiadau grant dros £10,000. Dim ond esgobaethau unigol, esgobaethau sy'n gweithio mewn partneriaeth neu'r chwe chadeirlan fel grŵp all wneud ceisiadau.
Defnyddiwch y dolenni isod i ddod o hyd i ganllawiau manylach ar gyflwyno ceisiadau grant Haen 1 a Haen 2.
Gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am geisiadau grant i Gronfa Twf yr Eglwys yma: Cwestiynau Cyffredin - Cronfa Twf yr Eglwys.
Gallwch ddod o hyd i ddyddiadau cyfarfodydd Grŵp Dyrannu Cronfa Twf yr Eglwys yma: Dyddiadau cyfarfodydd taleithiol
Os na allwch ddod o hyd i ateb i'ch cwestiwn neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â thîm Cronfa Twf yr Eglwys drwy ebostio churchgrowthfund@cinw.org.uk.