Ffydd
Beth mae'r Eglwys yn ei gredu?
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn credu ac yn datgan Newyddion Da Iesu Grist, yn benodol:
- fod Duw yn weithredol ac yn bersonol, Tad sy’n gofalu am ei greadigaeth, ac am bob un o’r hil ddynol fel ei blentyn annwyl;
- fod Duw wedi ei ddatguddio ei hun ym mherson hanesyddol Iesu Grist, a
- thrwy fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad yr un person hwn, fod Duw wedi datgan ei gariad tuag at y byd, ac wedi agor ffordd, y gellir trwy ein ymateb mewn ffydd, ymgyrraedd ei gariad a’i fywyd a’i alluogi i dreiddio i’n bywydau.
- fod Duw yn weithgar yn y byd heddiw, fel Ysbryd, yn ysgogi ffydd, cyfiawnder a gwirionedd
- ein bod yn credu fod Duw wedi galw ar bawb sy’n ymateb iddo i fod yn bobl iddo, ac i weithio gyda’u gilydd fel llysgenhadon i’w waith o iacháu yn y byd.
Mae hyn yn Newyddion Da, oherwydd ei fod yn ein annog bob un i sylweddoli fod Duw yn ein caru ni, ei fod ymdrechu i gwrdd â ni ym mherson ei Fab, a thrwyddo ef yn ein derbyn fel ag yr ydym. Mae’n gofyn i ni ddefnyddio ei nerth i fyw bywyd hyd yr eithaf, ac i ddod â iachâd i’r byd. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni i rannu’r Newyddion Da hwn.