Goruchwylwyr Ffyddlon
Gellir dod o hyd ar waelod y dudalen hon i fanylion ynglŷn â sut i gofrestru ar gyfer y sesiynau i ystyried yr adroddiad Goruchwylwyr Ffyddlon.
Y Comisiwn Athrawiaethol Sefydlog
Diben y Comisiwn
Diben y Comisiwn Athrawiaethol Sefydlog yn bennaf oll ydy cynghori Mainc yr Esgobion ynglŷn â materion yn ymwneud ag athrawiaeth ac i ymgymryd â gwaith diwinyddol yn ôl cyfarwyddyd y Fainc.
Yn ogystal, mae’r Comisiwn yn ceisio annog yr Eglwys i ymddiddori mewn athrawiaeth ac i ddefnyddio’n helaeth y drysorfa ddiwinyddol a ymddiriedwyd iddi.
Mae angen i waith y Comisiwn Athrawiaethol fod yn ddilys o safbwynt academaidd drwy elwa’n greadigol o waith yr awduron diwinyddol gorau a thrwy anelu at safonau uchel wrth ymchwilio ac ysgrifennu. Fodd bynnag, nid ysgolheictod pur yw ei ffocws ond gwaith sy’n cysylltu mewn ffordd ystyrlon â’r Eglwys yn gyffredinol er mwyn cynnig adnoddau ar gyfer ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth.
Aelodaeth
Cadeirydd y Comisiwn Athrawiaethol Sefydlog ydy’r Parch. Ddr Mark Clavier, Canon Trigiannol Eglwys Gadeiriol Aberhonddu a’i Ysgrifennydd Cofnodion ydy’r Parch. Dominic Cawdell OGS, Ficer Treffynnon a Maes-glas yn Ardal Genhadaeth Aber a Mynydd yn Esgobaeth Llanelwy. Nid oes gan y Comisiwn unrhyw aelodau parhaol eraill gan fod unigolion yn cael eu henwebu i wasanaethu gan Fainc yr Esgobion drwy gydol y dasg benodol sydd dan sylw yn ôl eu harbenigedd penodol. Enwebir arsylwyr i’r Comisiwn gan yr enwadau Cristnogol eraill yng Nghymru a gwerthfawrogir eu cyfraniad yn fawr. Ar hyn o bryd, mae’r Athro Josef Lössl (Prifysgol Caerdydd) a Dr Catrin Williams (Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant) yn gwasanaethu. Mae’r Parch. Ddr Ainsley Griffiths, Cyfarwyddwr Ffydd, Trefn ac Undod, yn cynorthwyo’r Comisiwn ac yn cydlynu â’r Fainc yn ôl y galw, yn ogystal â rhannau eraill o’r Eglwys yng Nghymru.
Gwaith diweddar
Mae’r Comisiwn wedi ymgymryd â dau brosiect mawr yn ystod y degawd diwethaf:
- Yn gyntaf, cynhyrchodd bapurau diwinyddol manwl am yr opsiynau sydd ar gael i’r Eglwys yng Nghymru wrth geisio cydnabod a chadarnhau perthynas pobl o’r un rhyw. Yn sgil hyn, yn 2014 cyhoeddodd adroddiad mawr, sef Yr Eglwys yng Nghymru a Phartneriaethau o’r Un Rhyw (PDF)
- Yn fwy diweddar, bu’r Comisiwn yn gweithio ar ddiwinyddiaeth y weinidogaeth ordeiniedig wrth i’n strwythurau plwyfol hynafol gael eu trawsffurfio i fod yn ardaloedd gweinidogaeth / cenhadaeth. Casgliad o ddeg traethawd diwinyddol ar agweddau gwahanol o’r weinidogaeth driphlyg ydy’r adroddiad terfynol ac mae’n dwyn yr enw Goruchwylwyr Ffyddlon mewn Eglwys sy’n Newid: Deall y Weinidogaeth Ordeiniedig yng ngoleuni Golwg 2020. Cyflwynir yr adroddiad yng nghyfarfod y Corff Llywodraethol yn Ebrill 2021. Mae’r adroddiad ar gael yma, yn ogystal â rhifyn astudio estynedig. Ar hyn o bryd dim ond yn Saesneg y cyhoeddir yr adroddiad.
Ystyried ‘Goruchwylwyr Ffyddlon’
Yn ogystal â chyhoeddi’r adroddiad, mae’r Comisiwn wedi cynhyrchu pum fideo yn cynnwys cyfweliadau ag awduron y traethodau. Mae’r pedwar cyntaf yn Saesneg a’r un olaf yn Gymraeg. Gallwch ddod o hyd i’r fideos Saesneg ar y dudalen gyfatebol yma a’r un yn Gymraeg isod:
Ceir hefyd cyfle i holi’r awduron mewn galwad Zoom fyw:
Nos Lun 21 Mehefin am 7.00pm
- Ystyried yr adroddiad yn Gymraeg.
- Yn cadeirio’r drafodaeth fyw hon fydd y Gwir Barch. Andy John ac yn cymryd rhan fydd y Parch. Ganon Ddr Trystan Owain Hughes, y Barch. Ddr Manon Ceridwen James a’r Parch Ddr Ainsley Griffiths.
- Er mwyn cofrestru cliciwch yma.