Eciwmeniaeth
Dyma oedd gweddi Iesu dros ei ddilynwyr: ‘Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un, O Dad….er mwyn i’r byd gredu…’Ioan 17:21
Eciwmeniaeth yw’r gair a ddefnyddiwn i ddisgrifio’r ymdrechion y mae’r amrywiol eglwysi yn eu gwneud i weithio gyda’i gilydd ac uno mewn cariad a’r gwirionedd.
Mae’r Eglwys yng Nghymru’n ymroddedig i eciwmeniaeth ac yn llawenhau yn yr amryfal ffyrdd y mae eglwysi Cristnogol yn closio at ei gilydd i addoli a gwasanaethu’r gymuned.
Mae llawer o blwyfi’n rhan o grwpiau CYTÛN lleol – ac yn cynllunio a chymryd rhan mewn gwasanaethau cyd-addoli, yn trefnu grwpiau mewn tai dros y Garawys, yn ymuno i gyd-dystio adeg y Pasg, ac yn y blaen.
Er na fydd achosion o anghytuno’n diflannu dros nos, yr ydym o leiaf yn gwybod ychydig mwy nag yr oeddem am y doniau arbennig sydd gennymi i’w cynnig i’n gilydd.
Mae croeso i aelodau sy’n gymunwyr, ac sydd wedi’u bedyddio mewn eglwysi eraill, i dderbyn cymun yn ein heglwysi ni.
Pan fydd pobl sy’n wreiddiol o eglwysi eraill yn addoli gyda ni yn rheolaidd ac yn dymuno bod yn rhan o fywyd yr eglwys, fe ellir, gyda chaniatâd ysgrifenedig esgob eu hesgobaeth, rhoi eu henwau ar rôl etholwyr eu plwyf. Gellir defnyddio eu doniau a’u penodi’n swyddogion yn eglwys y plwyf – mantais fawr i eglwysi bychain.
Rydyn ni bellach yn caniatáu rhannu ffurfiol rhwng plwyfi Anglicanaidd ac Eglwysi Rhyddion (neu anghydffurfiol) lleol. Mae rhai plwyfi’n perthyn i Bartneriaethau Eciwmenaidd Lleol, tra bod eraill yn gweithio gyda’i gilydd ar sail lai ffurfiol. Mae Canonau (rheolau’r eglwys) sy’n awdurdodi’r meysydd hynny lle gellir rhannu gweinidogaethau.
Mewn caplaniaethau ym myd addysg drydyddol, ysbytai, diwydiant a charchardai, bydd clerigwyr yr Eglwys yng Nghymru’n gweithio gyda chlerigwyr a gweinidogion o’r Eglwys Gatholig Rufeinig a’r Eglwysi Rhyddion, ac yn gweithio mewn timau sy’n cynnwys aelodau’r Eglwysi hyn.
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i annog cydweithredu rhwng eglwysi ar nifer o lefelau: trwy CYTÛN yng Nghymru; trwy Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon (CTBI) ym Mhrydain ac Iwerddon; trwy Gynhadledd Eglwysi Ewrop (CEC) yn Ewrop; a thrwy Gyngor Eglwysi’r Byd (WCC) yn fyd-eang.
Cynhaliwyd Cymanfa Gyffredinol Cyngor Eglwysi’r Byd yn ninas Karlsruhe yn yr Almaen ym mis Medi 2022, gyda chynrychiolaeth dda o’r Eglwys yng Nghymru. Ceir adroddiad ar y cynulliad sylweddol byd-eang hwn yma.
Nid ymarfer mewn diplomyddiaeth yw trafodaethau eciwmenaidd bob amser; unwaith y byddwn ni’n eu hystyried felly, os bydd unrhyw beth yn newid yn y sefyllfa ddi-ddatrys hon, byddwn yn credu i hynny ddigwydd am fod rhywun wedi gwneud consesiwn, wedi cyfaddawdu ei egwyddorion, wedi glastwreiddio’r gwir. Mae hon yn ddelwedd drychinebus. Nid diplomyddiaeth yw eciwmeniaeth go iawn: mae’n golygu penlinio a gwrando, ym mhresenoldeb Duw, gyda brodyr a chwiorydd yng Nghrist y mae damweiniau mewn hanes wedi’n gwahanu ni oddi wrthynt, a gofyn i Dduw sut y gallwn ni ddysgu oddi wrth ein gilyddYr Athro Parchedig Henry Chadwick
Mae’r Eglwys yng Nghymru mewn cymundeb llawn â rhai o’r Eglwysi Lutheraidd yn Sgandinafia a gwledydd y Baltig trwy Gytundeb Porvoo. Rydyn ni hefyd mewn cymundeb llawn ag yr Hen Eglwys Gatholig , Eglwys Mar Thoma (India), Eglwys Annibynnol Ynysoedd y Philippines ac Eglwysi Gogledd a De India, Pacistan, Bangladesh, Eglwys Esgobol Ddiwygiedig Sbaen a’r Eglwys Lusitanaidd (Portiwgal) ac Eglwysi eraill y Cymundeb Anglicanaidd.
Mae’r Eglwys yng Nghymru hefyd wedi bod ‘mewn cyfamod’ â’r Eglwys Bresbyteraidd, yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig ac Eglwys Bedyddwyr Cyfamodedig cenedlaethol Cymru ers 1975. Yn 2004, fe ail-gysegrodd pob un ohonynt ei hun i rannu gweinidogaethau ei gilydd yn llawn, ac i sicrhau’r defnydd gorau posibl o ddarpariaethau pob eglwys, gan ymgymryd â gwaith newydd ar y cyd bob amser, ac eithrio pan oedd yn rhaid ei wneud ar wahân ar sail cydwybod; a chyfuno adnoddau er mwyn tystio fel un i Gymru; gan wrando ar yr hyn mae’r genedl yn ei ddweud wrth yr Eglwys.
Ar sail ‘ein hanes a’n treftadaeth cyffredin’, mae’r Eglwys yng Nghymru ynghyd ag Eglwys Lloegr ac Eglwysi Efengylaidd yr Almaen hefyd wedi tanysgrifennu ‘Datganiad Meissen’, sy’n ceisio sicrhau ‘undod llawn a gweledol’.
Yr ydym yn cydnabod nad yw ein rhaniadau’n foddhaol i Dduw a’u bod yn rhwystro ein tystiolaeth a’n cenhadaeth. Anogwn, felly, eglwysi o wahanol enwadau i weithio gyda’i gilydd. Yr ydym hefyd yn annog trafodaethau diwinyddol ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n gweithio i wireddu gweddi’r Iesu ar inni gyd fod yn un.