Dod o hyd i obaith yn wyneb colled
Gall colli rhywun agos fod yn anodd iawn, ac mae’ch Offeiriad Plwyf ar gael i gynnig cymorth, cysur a chefnogaeth.
Mae gwasanaethau angladdol fel rheol yn cynnwys cofio’r sawl sydd wedi marw, darlleniadau o’r Beibl, gweddïau (yn ymwneud â’r sawl sydd wedi marw a’i deulu a’i ffrindiau), ac emynau neu gerddoriaeth arall.
Yr ydym wedi dod ynghyd i gyflwyno ein brawd/chwaer (E) i ddwylo Duw hollalluog, ein Tad nefol. Yn wyneb angau, mae gan Gristionogion sail sicr i obaith a hyder, ie, i lawenydd, am fod yr Arglwydd Iesu Grist, a fu byw a marw fel dyn, wedi atgyfodi, gan orchfygu angau, ac yn byw byth. Ynddo ef, gan hynny, y mae ei bobl yn etifeddion bywyd tragwyddol, a chan gredu hyn, yr ydym yn gosod ein holl ymddiried yn ei ddaioni a’i drugaredd.O Drefn yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer Angladdau Cristnogol