Datganiadau ffurfiol y ffydd
Y Cyfansoddiad
Cymdeithas o esgobaethau o fewn i’r Eglwys Lân Gatholig yw’r Eglwys yng Nghymru, wedi ei sefydlu yn Dalaith o’r Cymundeb Anglicanaidd. Y mae’n cadw’r urdd driphlyg a dderbyniodd – esgobion, offeiriaid a diaconiaid – ac yn cydnabod yr Ysgrythur Lân yn ben awdurdod iddi ym materion ffydd fel y dehonglir hi yn y Credoau Catholig ac yn y ffurfiaduron hanesyddol Anglicanaidd, hynny yw, yn y Namyn Un Deugain Erthyglau Crefydd, y Llyfr Gweddi Gyffredin ac Urddo Esgobion, Offeiriaid a Diaconiaid fel y cyhoeddwyd hwy yn 1662. Ei galwedigaeth yw meithrin gw(r a benywod yn ffydd Iesu Grist a’u cynorthwyo i dyfu yng nghymdeithas yr Ysbryd Glân, fel y gellir cyhoeddi’r newyddion da am ras Duw yn eglur yn y byd ac y gellir anrhydeddu a hyrwyddo Teyrnas Dduw.
Credo Nicea
Credwn yn un Duw,
Y Tad hollalluog,
gwneuthurwr nef a daear,
a phob peth gweledig ac anweledig.
Credwn yn un Arglwydd Iesu Grist,
unig Fab Duw,
a genhedlwyd gan y Tad cyn yr holl oesoedd,
Duw o Dduw, Llewyrch o Lewyrch,
gwir Dduw o wir Dduw,
wedi ei genhedlu, nid wedi ei wneuthur,
yn un hanfod â’r Tad,
a thrwyddo ef y gwnaed pob peth:
yr hwn er ein mwyn ni ac er ein hiachawdwriaeth
a ddisgynnodd o’r nefoedd,
ac a wnaed yn gnawd trwy’r Ysbryd Glân
o Fair Forwyn,
ac a wnaethpwyd yn ddyn,
ac a groeshoeliwyd hefyd drosom dan Pontius Pilat.
Dioddefodd angau ac fe’i claddwyd.
Atgyfododd y trydydd dydd yn ôl yr Ysgrythurau,
ac esgynnodd i’r nef,
ac y mae’n eistedd ar ddeheulaw’r Tad.
A daw drachefn mewn gogoniant
i farnu’r byw a’r meirw:
ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.
Credwn yn yr Ysbryd Glân,
yr Arglwydd, rhoddwr bywyd,
sy’n deillio o’r Tad a’r Mab,
yr hwn gyda’r Tad a’r Mab
a gydaddolir ac a gydogoneddir,
ac a lefarodd trwy’r proffwydi.
Credwn yn un Eglwys lân gatholig ac apostolig.
Cydnabyddwn un Bedydd er maddeuant pechodau.
A disgwyliwn am atgyfodiad y meirw,
a bywyd y byd sydd i ddyfod. Amen.
Yr Lambeth Quadrilateral
Cynhadledd Lambeth 1888, Penderfyniad 11
Bod, ym marn y Gynhadledd hon, yr Erthyglau dilynol yn rhoi sylfaen ar gyfer gwneud dynesiad, drwy fendith Dyw, tuag Aduno Cartref
- Bod yr Ysgrythurau Sanctaidd yr Hen Destament a’r Testament Newydd yn cynnwys popeth angenrheidiol at waredigaeth ac yn rheol a safon eithaf ffydd
- Cred yr Apostolion, fel y Symbol Bedyddiol, a Chredo Niceo, fel y datganiad digonol o’r ffydd Gristnogol.
- Y ddwy Sagrafen a ordeiniwyd gan Grist – Bedydd a Swper yr Arglwydd – a weinyddwyd gyda defnydd di?feth geiriau Crist am Sefydliad, a’r elfennau a ordeiniwyd ganddo Ef.
- Yr Esgobaeth Hanesyddol, a addaswyd yn lleol yn ei ddulliau o weini i anghenion amrywiol cenhedloedd a phobloedd a alwyd gan Dduw i Undod ei Eglwys Ef.