Haelioni
Dod yn bobl hael
• Lawrlwythwch Dod yn Bobl Hael (PDF)
Mae haelioni yn dechrau a diweddu gyda Duw.
Mae pobl yn rhoi’n aberthol ac yn hael i’r pethau maen nhw’n eu hystyried o werth; pan maen nhw’n deall cymaint mae Duw wedi ei roi iddynt; a phan maen nhw’n gwneud y cyswllt rhwng ffydd ac arian. Mae cynulleidfaoedd yn ymateb i ddiwylliant o haelioni. Ar y llaw arall, heb weledigaeth, heb ddiwinyddiaeth sy’n rhoi pwyslais ar roi, a heb unrhyw synnwyr o sut mae ffydd yn effeithio ar arian, mae plwyfi yn mynd i drafferthion ariannol.
Mae adnoddau ar gael i helpu plwyfi i fynd i’r afael â’r materion hyn, ond roeddem ni’n teimlo bod angen casglu’r cyfan ynghyd mewn un man. Ein nod yw darparu adnoddau hawdd eu defnyddio ar eich cyfer – gan helpu i ysgafnhau’r pwysau yn hytrach nag ychwanegu ato. Rydym wedi mynd ati gam wrth gam, gan sylweddoli bod plwyfi mewn gwahanol sefyllfaoedd – i rai mae’n fater o barhau a goroesi, i eraill mae’n awydd i dyfu.
Rydym yn darparu dewislen o opsiynau ac anogwn eich eglwys i ddewis un opsiwn bob blwyddyn a neilltuo rhywfaint o amser i’w archwilio yn ystod y flwyddyn honno. Gan fod pedwar opsiwn, efallai y gallech edrych ar yr opsiynau dros gyfnod o bedair blynedd. Gyda rhai o’r opsiynau, yn ogystal â dilyn y dull cyflawn, mae ffordd ysgafnach o fynd ati.
Er mwyn i chi allu teilwra’r dull o fynd ati i gydweddu ag anghenion a dyheadau eich eglwys, rydym wedi defnyddio deunydd o wahanol ffynonellau. Ein gobaith yw, beth bynnag fo dull eich eglwys, y dowch chi o hyd i rywbeth a fydd yn gweithio i chi.
Gobeithio y bydd hyn yn eich cynorthwyo:
- I ddarparu adnoddau ar gyfer unigolion/aelodau eglwysig/disgyblion.
- I ddarparu adnoddau ar gyfer haelioni cyfunol yr eglwys.
Mae ymrwymo i wneud un peth bob blwyddyn am y pedair blynedd nesaf yn golygu y bydd:
- Lefelau rhoi yn codi.
- Llif arian yn gwella.
- Dylai rhyddhad o bwysau ariannol alluogi eich eglwys i ganolbwyntio ar genhadaeth y tu mewn yn ogystal â’r tu allan i’r eglwys.
- Bydd eich eglwys wedi mynegi gweledigaeth glir ar gyfer y tymor byr a’r tymor canolig.
- Bydd y weledigaeth hon wedi’i seilio ar asesiad realistig o’r adnoddau sydd ar gael.
- Bydd diwylliant o haelioni yn datblygu o fewn eich cynulleidfa.
- Bydd eich eglwys yn arddangos haelioni yn y ffordd mae’n rheoli ei harian.
- Bydd gan eich eglwys bolisi ynglŷn â sut i wneud y defnydd gorau o gymynroddion.
- Bydd cymynroddion yn dod yn fwy cyffredin.
- Ac os nad yw hynny’n ddigon, mae’r holl adnoddau ar stiwardiaeth yn rhad ac am ddim.
Y peth pwysicaf yw gwneud rhywbeth, a’i wneud yn dda.