Dod yn bobl sy'n rhoi
Annog rhoi rheolaidd
Mewn eglwys o stiwardiaid ffyddlon, newydd-ddyfodiaid neu ymwelwyr yn unig ddylai fod yn rhoi arian ar y plât casglu. Dylai rhoddwyr rheolaidd gael eu hannog i ddefnyddio ffyrdd eraill o roi.
Mae Rhoi’n Uniongyrchol (Gift Direct) yn sicrhau bod rhodd fisol reolaidd yn mynd i gyfrif banc y plwyf, ynghyd ag unrhyw rodd cymorth. Mae’r cynllun yn cael ei weinyddu gan y Swyddfa Daleithiol ac mae’n rhad ac am ddim i blwyfi. Mae Rhoi’n Uniongyrchol yn lleihau llwyth gwaith yr Ysgrifennydd Rhoddion Cymorth ac yn gwella llif arian.
Mae Rhoi Uniongyrchol hefyd wedi bod yn ffordd ddefnyddiol o alluogi’r gymuned i gynnig cymorth ariannol i’r eglwys.
Yn ystod y flwyddyn, ewch ati i annog pobl i roi i’r eglwys mewn ffordd drefnus reolaidd, waeth beth fo’u patrwm mynychu. Cynllun Rhoi’n Uniongrychol yw un o’r ffyrdd gorau i sicrhau hyn.