Dod yn bobl feddylgar
Annog rhodd barhaol
Yn ystod 2010, cafodd gwerth bron i £2.5miliwn o gymynroddion eu derbyn ar draws yr Eglwys yng Nghymru. Mae bod â pholisi clir yn ei le yn rhoi arwydd clir i roddwyr bod croeso i roddion o’r fath, bydd yn codi cyfleoedd i drafod ac yn rhoi sicrwydd iddynt y bydd eu rhodd yn cael ei defnyddio’n ddoeth.
Mae gwneud Ewyllys yn sicrhau bod yr hyn rydych yn ei adael yn mynd i’r bobl y dymunwch iddo fynd iddynt, ac yn sicrhau bod eich rhodd yn eu cyrraedd yn gynt – ac eto mae llawer o aelodau eglwysig heb wneud Ewyllys hyd yn hyn.
Yn ystod y flwyddyn bydd eich eglwys yn:
- Annog pob aelod i wneud neu i adolygu eu Hewyllys.
- Yn gofyn i’r Cynghorau Plwyf Eglwysig gytuno ar bolisi ynglŷn â chymynroddion.
- Defnyddio’r adnoddau sydd ar gael gyda’r gynulleidfa.
Adnoddau sydd ar gael
- Sesiwn addysgu am faterion diwinyddol ac eglwysig sy’n cwmpasu cymynroddion
- Awgrymiadau ar sut i fynd ati i gyflwyno rhaglen yn trafod ymwybyddiaeth o gymynroddion – a sut i beidio â mynd ati!
- Arweiniad cam wrth-= gam ar sut i ddefnyddio’r deunyddiau:
- Taflen Cynghorau Plwyf Eglwysig
- Taflen i iGynulleidfaoedd
- Adnoddau pregethu a gweddïo
- Pytiau ar gyfer cylchgrawn y plwyf
- Nodau tudalen
- Posteri
Adnoddau pellach sydd ar gael: Adnoddau Cymynroddion y Plwyf, Cymynrodd Eglwysig