Iacháu
Yr hyn a gredwn
Mae’r weinidogaeth iacháu ar gyfer pawb; mae ar bawb ohonom angen ein hiacháu mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Drwy’r weinidogaeth iacháu, mae Iesu Grist yn cwrdd â ni ar bwynt ein hangen. Medrir helpu pob math o ddioddefaint mewn rhyw ffordd neu’i gilydd drwy’r weinidogaeth hon. Efengyl Teyrnas Duw yw’r newyddion da am iachâd a ddatganodd Iesu Grist i unigolion, cymunedau a’r byd. Awgrymodd hynny pan ddywedodd:
Nid ar y cryfion, ond ar y cleifion y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn yr wyf fi wedi dodMarc 2:17
Roedd ei wyrthiau iacháu yn dangos effeithiau teyrnas Duw yn torri drwodd i’r byd hwn.
Felly, hefyd, medrir disgrifio gweinidogaeth yr Eglwys fel un o iacháu – ein hiacháu ein hunain, a’n perthynas gyda Duw, gyda’n gilydd a gyda’n hamgylchedd. Dyna pam y clywn ymadroddion megis “iacháu cymdeithas” neu “iacháu ein rhaniadau”.
Beth y medrwn obeithio amdano?
Gweinidogaeth iacháu yw adnabod cariad Duw yn ein hadfer yn mhob cell o’n bod, pob syniad yn ein meddwl a phob dafn o emosiwn i’n galluogi ar bob cam o daith bywyd.Dr Gareth Tuckwell
Credwn fod Duw yn ein caru ac yn ewyllysio’r gorau oll i ni yn ei deyrnas. Ond gwyddom hefyd fod dioddefaint a marwolaeth yn gyflyrau na fedrwn ddianc rhagddynt yn y bywyd hwn. Nid yw Duw ymhell oddi wrthym yn hynny. Yn Iesu Grist fe rannodd ddioddefaint a marwolaeth y bywyd hwn ar y groes, a gall ddod yn agos atom mewn amserau fel hyn.
Fodd bynnag, mae ei atgyfodiad yng ngrym yr Ysbryd Glân yn rhoi gobaith i ni y medrwn gael rhagflas o’i deyrnas yma ac yn awr ac y byddwn drwy weinidogaeth yr Eglwys yn derbyn ei gariad, ei nerth a’i gyffyrddiad iachaol.
Ni fedrwn ddweud ym mha ffurf y bydd yr iachâd hwnnw. Gall:
- Ein cynorthwyo i fynd â ni drwy salwch hir neu anabledd
- Roi inni adferiad cyflymach nag a ddisgwylid
- Ddileu, trwy gariad Duw, ein hofn o farwolaeth
- Roi inni iachâd sydd mor annisgwyl fel ein bod am ei alw yn “wyrth”
- Roi inni ymwybyddiaeth gynyddol o heddwch meddwl a chyflawnder.
Lle medrwn ganfod hyn?
Gweinidogaeth iacháu yw gweinidogaeth gweddi, gair, sacrament a gofal bugeiliol lle y mae’r Eglwys yn gweithredu fel sianel i ras iachaol Crist i roi cyflawnder bywyd i bobl y mae’n ei fwriadu iddynt.Esgob Dominic Walker
O fewn yr ymdeimlad cyffredinol o iacháu, mae dyletswydd neilltuol ar yr Eglwys i weddïo dros iacháu’r cleifion. Mae “Ewch a phregethu’r Efengyl … Ewch ac iacháu’r cleifion” yn crynhoi’r comisiwn a roddodd Crist i’w Eglwys, ac felly galwyd bob amser ar Gristnogion i fod â chonsyrn arbennig dros y rhai sydd yn glaf mewn meddwl, corff ac ysbryd.
Am ganrifoedd lawer roedd yr Eglwys yng nghanol y gofal am y claf, fel y tystir gan y ffaith mai Cristnogion a sefydlodd lawer o’n hysbytai. Gyda datblygu’r proffesiynau meddygol, nyrsio a gofal arall, newidiodd rôl yr Eglwys. Yr ydym yn dal i gydweithredu’n agos â’r proffesiynau hyn (y mae llawer o’u haelodau yn Gristnogion) ond hefyd i weddïo dros y cleifion a chyda hwy.
Yn aml mae gweddi o’r fath yn cyd-fynd â dulliau Sacramentaidd o iacháu: bedyddio, derbyn y Cymun Bendigaid, cyffesu a rhoi maddeuant, ac yn arbennig arddodi dwylo, weithiau drwy eneinio. Rhaid inni beidio ag anghofio, fodd bynnag, y gall pethau megis cyfeillgarwch, maddeuant, gwrando, derbyn a chadarnhau hefyd rannu gras iachâd, yn ogystal â chwnsela medrus. Felly, mewn gwahanol ffyrdd, gall pob un ohonom gymryd rhan yng ngweinidogaeth iacháu’r Eglwys, gan edrych ymlaen mewn ffydd at y math o iacháu y mae Ef yn ei ewyllysio ar gyfer y rhai yr ydym yn gweddïo drostynt.
Mae’r ffordd y defnyddir gwasanaethau yng ngweinidogaeth iachau’r Eglwys yn amrywio o blwyf i blwyf. Mae’n cynnwys:
- ymweld â phobl sy’n wael gartref neu mewn ysbyty
- gweddïo dros y cleifion mewn gwasanaethau cyhoeddus
- gweinidogaeth sacramentaidd yn ystod gwasanaeth cyhoeddus neu ar ei ôl
- gweinidogaeth sacramentaidd mewn grwpiau bach
- gweinidogaeth gwrando yn breifat, yn cynnwys gweddi ac efallai sacramentau
- dulliau eraill, mwy anffurfiol, o weinidogaeth i’r claf.