Rhestr wirio i blwyfi
Er mwyn bod yn bresenoldeb sy’n iacháu yn y gymuned leol, dylai’r eglwys:
- edrych i mewn iddi hi ei hunan – trafod ei hangen ei hun am iacháu, yn cynnwys materion yn ymwneud â’i strwythurau;
- prosesau a grwpiau sy’n gweithio yn erbyn iacháu, e.e. gwrthdaro, perthynas dan bwysau, diffyg cydweithredu, cam-drin awdurdod, amharodrwydd i wrando, rhagfarn, bwlio ysbrydol;
- sicrhau fod y weinidogaeth ar gael i bawb o fewn y gynulleidfa, nid dim ond y rhai gwael iawn neu ofidus; pregethu a gweinidogaethu’n effeithiol am iacháu pob aelod o’r gynulleidfa; eu helpu i ymwybod yn llawn â’u hangen eu hunain am iachâd;
- edrych allan: beth yw’r angen am iacháu o fewn y plwyf? Edrychwch ar y cyd-destun cymdeithasol, economaidd a diwylliannol – ffactorau amgylcheddol, hanes a gobeithion. Edrychwch am ffactorau cudd yn ogystal â’r rhai amlwg, e.e. unigolion neu grwpiau gydag anghenion arbennig;
- peri i’r weinidogaeth iacháu gyfateb i anghenion y bobl leol;
- edrych y tu hwnt: sut y mae’r weinidogaeth hon yn effeithio ar genhadaeth a gweinidogaeth ehangach y plwyf? Ystyriwch sut y mae addoli, gofal bugeiliol, gweinyddiaeth gydweithredol a threfn adeiladau yn annog iacháu, a sut y dylid datblygu’r meysydd hyn i ateb anghenion iacháu lleol;
- meddwl yn eciwmenaidd; canfod ffyrdd o fynegi’r weinidogaeth iacháu yn eciwmenaidd: datblygu’r weinidogaeth hon gydag enwadau eraill o fewn y gymuned leol;
- cymryd golwg fyd-eang: darganfod sut y gall eglwys y plwyf gefnogi iáchau mewn rhannau eraill o’r byd. Cysylltu cefnogaeth eglwys y plwyf â chenhadaeth a gweinidogaeth dramor a chanfod pa brosiectau y dylid eu cefnogi.
Gweddïo, adolygu a bod yn agored i arweiniad yr Ysbryd Glân i adfywio a datblygu’r weinidogaeth iacháu.