Canllawiau arfer da
Mae’r weinidogaeth iacháu a ymddiriedodd gweinidogaeth Crist i ni bob amser i’w defnyddio gyda pharch, cariad a thrugaredd. Y brif egwyddor yw cydnabod presenoldeb Duw yn y rhai sy’n derbyn y weinidogaeth hon ac anrhydeddu ei bresenoldeb ynddynt.
- Gweddïo a Pharatoi
Seiliwyd y weinidogaeth iacháu ar weddi yn enw Iesu Grist; dylai’r rhai sy’n ymwneud â’r weinidogaeth hon fod yn Gristnogion sy’n gweddïo yn rheolaidd ac yn cydnabod ei gariad iachaol, ac sy’n barod i weddïo a gwrando am arweiniad er mwyn gweini’n addas ar eraill. - Diogelwch
Dylid cymryd pob cam rhesymol i sicrhau diogelwch y person sy’n derbyn y weinidogaeth hon. Mae gan bobl hawl i wybod yr hyn a gaiff ei ddarparu a sut y gweinir iddynt. - Atebolrwydd a rheoliadau esgobaethol
Mae ar bawb sy’n ymwneud â’r weinidogaeth iacháu angen llinellau clir o atebolrwydd i wybod pwy sydd ag awdurdod perthnasol o fewn eu heglwys blwyf. Dylai’r rhai sy’n cymryd rhan gymryd pob cam rhesymol i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r gyfraith gyfredol yng nghyswllt yr weinidogaeth hon, e.e. diogelu data, cydsyniad gwybodus. Rhaid ystyried materion atebolrwydd cyfreithiol o safbwynt yswiriant. Dylid hefyd ddilyn rheoliadau presennol yr esgobaeth. - Hyfforddiant
Dylai unigolion dderbyn hyfforddiant addas yn y weinidogaeth hon a chael eu hysbysu am ddatblygiadau ac am hyfforddiant eciwmenaidd. Rhaid i arweinwyr tîm iacháu sicrhau fod aelodau yn cael cyfle i hyfforddi ac i ddod i ddeall arfer da. - Cymhwysedd a ffiniau
Dylai pobl yn y weinidogaeth hon fod yn ymwybodol o’u cyfyngiadau personol a sicrhau eu bod wedi paratoi’n gywir a’u bod yn addas i gymryd rhan. Os yw ffitrwydd yn amheus neu’n isel, neu bod gwrthdaro buddiannau, dylent dynnu’n ôl o weini i eraill. Dylid cadw ffiniau proffesiynol gyda swyddogion proffesiynol gofal iechyd a chaplaniaethau. - Ymddygiad Personol
Mae’r weinidogaeth iacháu yn rhan o neges yr efengyl: dylai ymddygiad personol pawb sy’n cymryd rhan annog hyder yn y weinidogaeth hon a pheidio â’i thanseilio. Dylai iaith, glanweithdra personol, ymddangosiad cyffredinol, ystum corff a chyffyrddiad y rhai sy’n gweini fod yn briodol, yn ystyriol ac yn gwrtais i’r derbynwyr. Ni ddylid gweini i neb yn erbyn eu hewyllys. - Cyfrinachedd a datganiadau personol
Dylid parchu a diogelu preifatrwydd ac urddas pobl. Dylid esbonio unrhyw gyfyngiadau ar gyfrinachedd ymlaen llaw a dylid cyfyngu unrhyw ddatgelu i wybodaeth berthnasol. Dim ond i’r bobl briodol y dylid rhoi gwybodaeth, fel arfer gyda chydsyniad y plwyfolyn, ac ni ddylid ei chamddefnyddio mewn unrhyw ffordd. - Cwnsela a Seicotherapi
Dim ond cwnselwyr a therapyddion gydag achrediad sy’n cadw at godau etheg eu sefydliadau rheoleiddio ac y mae ganddynt yswiriant proffesiynol ddylai ddarparu’r triniaethau penodol hyn, sy’n wahanol i ofal a gwrando bugeiliol. - Partneriaeth
Dylid cynnal y weinidogaeth iacháu, lle bo’n briodol, gyda chaplaniaid a chynrychiolwyr ein partneriaid eciwmenaidd a’r rhai sy’n ymwneud â gofal iechyd proffesiynol a gwirfoddol, tra’n cydnabod y gall y byddant hwy wedi eu rhwymo gan godau eraill o ymddygiad.