Caethwasiaeth Fodern
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i archwilio pob cyfle i gyfrannu at fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern drwy atal, canfod a chynnig cymorth i'w ddioddefwyr. Rydym yn gweithio gydag eglwysi ehangach a rhwydweithiau eraill i godi ymwybyddiaeth, gwneud yr hyn a allwn i fynd i'r afael â'r broblem yn y ffynhonnell, a helpu i ddarparu cymorth a gofal i ddioddefwyr.
Ym mis Medi 2018 pasiodd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru y cynnig canlynol yn unfrydol:
Bod y Corff Llywodraethol yn:
(i) ystyried pob ffurf ar gaethwasiaeth a masnachu pobl yn drosedd yn erbyn dynoliaeth, ac yn gresynu at barhad eu bodolaeth yn y byd modern;
(ii) cymeradwyo ymdrechion y gymuned ryngwladol, ein llywodraethau ni, awdurdodau gorfodi’r gyfraith a chymdeithasau gwirfoddol i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl;
(iii) gresynu at fethiant ein cymdeithas i roi diwedd ar bla caethwasiaeth fodern, a chydnabod bod anwybodaeth a difaterwch yn ffurfiau ar oddef a chyfrannu at hynny;
(iv) cefnogi a gweddïo dros ein partneriaethau traws-sector, mentrau gwirfoddol, grwpiau busnes ac addysg, a phob ymdrech i gydweithredu a harneisio ewyllys da i roi diwedd ar gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl;
(v) ymrwymo i archwilio pob cyfle i wneud ein rhan o ran gweithio i drechu caethwasiaeth fodern, ei hatal, ei chanfod a chynnig cymorth i’w dioddefwyr.