Arian
Mae Iesu’n ein dysgu ni i garu pobl a defnyddio pethau – ac nid fel arall.
Roedd Iesu’n adrodd straeon i gynorthwyo pobl i ddeall sut roedd eu hagwedd at arian yn adlewyrchu’r hyn oedd o wir ddiddordeb iddynt. Roedd yn sôn am arian yn aml am ei fod yn gwybod sut y mae’n bywydau’n aml yn troi o’i gwmpas. Mae llawer o’i ddywediadau, yn cynnwys yr un a nodir isod, yn herio pobl i feddwl am y ffordd y maen nhw’n defnyddio’u harian a’u heiddo.
Peidiwch â chasglu ichwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn torri trwodd ac yn lladrata. Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata. Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon.Mathew 6:19-21
Cred Cristnogion fod popeth sydd ganddynt yn dod oddi wrth Dduw. Mae hyd yn oed yr arian yr ydym yn ei ennill yn rhodd gan Dduw. Felly credwn y dylem ni geisio dilyn dysgeidiaeth Duw yn y ffordd yr ydym yn defnyddio arian. Fe’n dysgir bod ein hagwedd at roi yn bwysicach na faint yr ydym yn ei roi. Rydyn ni’n ceisio rhoi yn hael gan wneud hynny’n llon.
Mae rhai pobl yn dweud “mae’r Eglwys byth a hefyd am gael gafael ar eich arian” ac na ddylid trafod arian yn yr eglwys. Gan fod dros 2,350 o adnodau’r Beibl yn cyfeirio at arian ac eiddo, credwn na ellir anwybyddu’r pwnc. Yn wir, mae’r Eglwys yng Nghymru’n argymell i’w haelodau roi 5% o’r cyflog y maen nhw’n mynd adref gyda nhw i’r Eglwys. Credwn fod y ffordd rydyn ni’n trafod ein harian yn dweud llawer am ein hymroddiad i fod yn ddisgyblion. Mae rhoi arian yn rhan o gysegru’ch hunan yn llwyr i Dduw.
Mae gan yr Eglwys yng Nghymru nifer o fuddsoddiadau ac, fel Eglwys Gristnogol, credwn mai ewyllys Duw yw i ni reoli’n buddsoddiadau gan ddilyn meini prawf moesegol.