Awst 2023 - Gwyliau
Croeso i Weddi mis Awst, a’r olaf yn ein cyfres o 12. Mae pob mis wedi cynnig cyfle i archwilio gwahanol themâu a gwahanol ffyrdd o weddïo, a’r gobaith ydy eu bod nhw wedi bod o gymorth fel modd ichi i ganfod Duw. Medi bydd ffilm gan yr Esgob John i gloi'r Flwyddyn Weddi. Y Grŵp Ysbrydolrwydd Taleithiol yn yr Eglwys yng Nghymru.
Cyflwyniad
Mae Gorffennaf yn gyfnod pan welir ein gerddi’n aml ar eu gorau. Mae’n holl blannu a thendio wedi arwain at dwf ac mae’r ffrwyth yn dechrau ffurfio. Rydyn ni ar adeg ‘cyffredin’ yn ein heglwysi. Mae ein hoffeiriaid yn gwisgo gwyrdd – lliw tyfiant. Thema’r mis hwn ydy ffiniant. Fe ofynnwn gwestiynau megis, ‘Sut all ein bywydau ffynnu go iawn a dwyn ffrwyth?’ ‘Beth sydd arnon ni ei angen i dyfu yn ein bywydau ysbrydol?’
Dydy’r dull o weddi a gyflwynwn y mis hwn ddim yn gymaint yn ffordd o weddïo ond, yn hytrach, yn ffordd o fyw. Mae’n anogaeth inni feddwl am gael ‘rheol bywyd’, patrwm bwriadol i’n bywydau – yn enwedig ein bywydau ysbrydol – sy’n gymorth inni ffynnu.
Myfyrdod
Ceir y saboth fel dydd o orffwys yn Genesis pan orffwysodd Duw o’i holl waith yn llunio’r greadigaeth:
‘Ar y seithfed diwrnod dyma Duw yn gorffwys, am ei fod wedi gorffen ei holl waith. Bendithiodd Duw y seithfed diwrnod a'i wneud yn ddiwrnod arbennig, am mai dyna'r diwrnod roedd e wedi gorffwys ar ôl gorffen y gwaith o greu.’ (Genesis 2. 2-3)
Fe roddir y saboth hefyd fel amser i’r Israeliaid gofio iddyn nhw gael eu rhyddhau o gaethwasiaeth yn Yr Aifft. Darllenwn am hyn yn Deuteronomium:
‘Cofia dy fod ti wedi bod yn gaethwas yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD dy Dduw wedi defnyddio'i nerth rhyfeddol i dy achub di oddi yno; Dyna pam mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi gorchymyn i ti gadw'r dydd Saboth yn sbesial.’ (Deuteronomium 5. 15)
Ceir hefyd sôn am sawl gŵyl - dyddiau sanctaidd – yn y Beibl lle byddai pobl yn ymatal o’u gwaith a gwneud lle i Dduw. Mae llawer ohonon ni’n gyfarwydd â darllen am Ŵyl y Bara Croyw, a roddwyd yn yr Hen Destament ac a gadwyd gan Iesu a’i ddisgyblion yn y Testmant Newydd. Felly, mae dyddiau saboth, dyddiau sanctaidd, gwyliau, yn adeg pan y gallwn ni gydnabod y rhyddid a roddir inni gan Dduw, ymlacio o’n gweithgareddau arferol a mwynhau gorffwys. Mae modd inni dorri’n rhydd o’r pethau hynny sy’n bygwth ein caethiwo.
Efallai nad ydyn ni’n gaethweision yng ngwir ystyr y gair, ond mae ein cymdeithas gyfoes yn llawn o bethau sy’n barod i ddwyn ein rhyddid, ein llonyddwch a’n tawelwch meddwl. Hawdd inni ddatblygu’n gaeth i’n gwaith, yn gaeth i’n technoleg, neu hyd yn oed yn gaeth i ofynion pobl eraill. Mae hanes Mair a Martha, a welir yn efengyl Luc, yn ein hatgoffa mai eistedd wrth draed Iesu, yn gwrando ac yn sgwrsio yn ei gwmni, ydy’r un peth sy’n hanfodol:
‘Wrth i Iesu deithio yn ei flaen i Jerwsalem gyda'i ddisgyblion, daeth i bentref lle roedd gwraig o'r enw Martha yn byw. A dyma hi'n rhoi croeso iddo i'w chartref. Roedd gan Martha chwaer o'r enw Mair, ac eisteddodd hi o flaen yr Arglwydd yn gwrando ar yr hyn roedd e'n ei ddweud. Ond roedd yr holl baratoadau roedd angen eu gwneud yn cymryd sylw Martha i gyd, a daeth at Iesu a gofyn iddo, “Arglwydd, wyt ti ddim yn poeni bod fy chwaer wedi gadael i mi wneud y gwaith i gyd? Dwed wrthi am ddod i helpu!” “Martha annwyl,” meddai'r Arglwydd wrthi, “rwyt ti'n poeni ac yn cynhyrfu am y pethau yna i gyd, ond dim ond un peth sydd wir yn bwysig. Mae Mair wedi dewis y peth hwnnw, a fydd neb yn gallu ei gymryd oddi arni hi." [Luc 10. 38-42]
Felly, fe’ch gwahoddir chithau, gyda Mair, i orffwys o’r hyn sydd ganddoch chi i’w ‘wneud’ a dechrau ‘bod’, gan adael eich gweithgarwch o’ch hôl ac hyd yn oed i roi baich geiriau o’r neilltu am gyfnod. Y mis yma, fe’ch gwahoddir i weddi o dawelwch astud.
Gweddi Tawelwch
Mae sawl ffordd o helpu’n calonnau i ganfod lle tawel ym mhresenoldeb Duw, a neb na dim arall. Fe fyddwn yn dilyn patrwm sydd â llawer yn gyffredin â rhai arferion gofalgar seciwlar ond sydd wedi;i wreiddio’n ddwfn yn y traddodiad Cristnogol, ac sy’n ôl-ddyddio’r defnydd modern, seciwlar. Mae’r patrwm a gynigiwn yn un a welwch yn cael ei ddefnyddio gan Gymuned Fyd-eang Myfyrdod Cristnogol (gweler isod o dan ‘Adnoddau Pellach’ am eu gwefan ac ap). Mae’r dull hwn o weddïo’n gallu cymryd amser i’w ddatblygu, felly, os fedrwch chi, mae hi’n gymorth neilltuo ychydig amser i weddïo yn y modd yma bob dydd. Anelwch at rhwng 20-30 munud ond dechreuwch gyda 5-10 munud os ydy’r amser hirach yn teimlo’n heriol.
Dewiswch amser a man lle nad ydych chi’n debygol o gael eich ‘styrbio. Gwnewch eich hunan yn gyfforddus ond yn effro – gall ymlacio mewn cadair esmwyth arwain at bendwmpian! Am yr un rheswm, mae’n bosib y byddai’n well osgoi ceisio gweddïo wedi pryd bwyd mawr. Ond os digwydd ichi deimlo eich hunan yn llithro i freichiau cwsg, peidiwch â beio’ch hunan – yn hytrach, dychwelwch at weddi gan ddiolch i Dduw am y rhodd o gwsg! Efallai y byddai o gymorth gosod amserydd ar waith fel nad oes rhaid ichi edrych ar gloc bob hyn a hyn. Dewiswch sŵn tyner, tawel i’r larwm fel nad oes diweddglo swnllyd i’ch cyfnod o fyfyrio.
Dewiswch air sy’n dynodi eich ymddiriedaeth yn Nuw (megis ‘Ie’; ‘Cariad’; ‘Presenoldeb’; ‘Iesu’). Gair arall traddodiadol i’w ddefnyddio yn y modd yma ydy ‘Maranatha’, sy’n golygu ‘Tyrd, Arglwydd’. Cyflwynwch eich cyfnod o weddi i Dduw gyda’r geiriau canlynol, neu eich geiriau eich hunan:
Fy Nuw, tyner a chryf, ymddiriedaf fy hun i ti.
Helpa fi i synhwyro ac adnabod dy bresenoldeb, gan roi heibio popeth sy’n dwyn fy sylw oddi arnat ti. Amen.
Anadlwch yn ysgafn a dechreuwch ddefnyddio eich dewis air, un ai yn dawel glywadwy, neu yn ddistaw yn y galon. Os (pan!) bydd meddyliau neu deimladau’n tynnu’ch sylw, dychwelwch yn dawel bwyllog at eich dewis air gweddi. Bydd pob tro y caiff eich sylw ei dynnu oddi ar y myfyrio yn cynnig cyfle gwerthfawr ichi ddychwelyd at Dduw! Wedi ichi gyrraedd diwedd eich amser, oedwch am ennyd, cyn cynnig gweddi i ddod â’ch cyfnod tawel i ben. Defnyddiwch y geiriau hyn, neu eich geiriau eich hunan:
Gad i mi glywed am dy gariad ffyddlon di yn y bore,achos dw i'n dy drystio di.
Gad i mi wybod pa ffordd i fynd — dw i'n dyheu amdanat ti!
(Salm 143 ad.8)
Dim ond un ffordd ydy hon o gyrraedd y man tawel hwnnw lle gawn gwrdd â Duw a ni’n hunain. Weithiau mae hyn yn digwydd yn ddigymell wrth inni ddod ar draws rhywbeth hardd neu drawiadol iawn – mawredd y mynydd-dir, ehangder y moroedd, darn o gelfyddyd neu gyfansoddiad cerddorol. Gall ffyrdd eraill o weddïo ein dwyn i’r un fan o dawelwch dwfn. Gweler, er enghraifft, Lectio Divina (y cafwyd sôn amdano ym mis Chwefror). Gall darllen yr ysgrythur mewn modd pwyllog fel hynn hefyd ein dwyn i fan tawel, llonydd.
Mae’r weddi draddodiadol, ‘Gweddi Iesu’, yn un arall – ‘Arglwydd Iesu, Mab Duw, trugarha wrthyf, bechadur’. Gellir adrodd hon i rhythm eich anadlu nes bod eich anadlu’n troi’n weddi. Efallai yr hoffech wybod mwy am Weddi Iesu a’r ffyrdd o’i defnyddio trwy chwilio ar-lein, neu cymerwch olwg isod ar yr awgrym o lyfr i’w ddarllen.
Gweddi i Gloi
Dduw Sanctaidd,
boed i’r tymor gwyliau hwn fod, i mi, yn dymor sanctaidd.
Helpa fi i ymlonyddu.
Helpa fi i ymdawelu.
Tynn fi’n ddyfnach i mewn i’th dosturi
lle y medraf gyfarfod â’th bresenoldeb cariadlon
a syllu ar dy wedd a’th wyneb tirion mewn addoliad tawel.
Amen.
Adnoddau Pellach:
Gwefannau:
The World Community for Christian Meditation
Contemplative Outreach
https://www.contemplativeoutreach.org
Ap:
Centering Prayer (Contemplative Outreach)
Llyfrau :
Into the Silent Land: The Practice of Contemplation gan Martin Laird
[Darton,Longman & Todd Ltd 2006]
The Jesus Prayer gan Kallistos Ware
[Catholic Truth Society 2017]
Cerdd :
‘Let your God love you’ by Edwina Gateley
https://www.journeywithjesus.net/PoemsAndPrayers/Edwina_Gateley.shtml
Beth Nesaf?
Ein gobaith ydy eich bod wedi cael y myfyrdodau a’r gweddïau hyn dros y 12 mis dikwethaf yn gymorth fel modd o ddyfnhau eich bywyd gweddi a chanfod Duw. Mae’r gweddմau’n dal ar gael ar y wefan os hoffech eu myfyrio arnyn nhw eto.
Os ydych chi’n teimlo yr hoffech gael y cyfle i sgwrsio gyda rhywun am eich gweddïo, eich ffydd a’ch bywyd, mae gan bob esgobaeth nifer o bobl sy’n gweinidogaethu fel cyfarwyddwyr ysbrydol neu gydymaith ar y ffordd; maen nhw’n fodlon gwrando arnoch chi wrth ichi geisio dyfnhau eich gweddïo a’ch cyfarfyddiad â Duw. Ceir mwy o wybodaeth ynglŷn â hyn ar y wefan trwy chwilio ‘cyfarwyddyd ysbrydol’. Fe fydd hyn yn eich arwain at ‘cynullwyr cyfarwyddyd ysbrydol’ a rhestr o bobl, cynullwur, un i bob esgobaeth, a fydd yn gallu eich helpu ac ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddoch chi.