Mai 2023 - Dathlu
Croeso i Weddi mis Mai, a’r nawfed yn y gyfres o 12. Pob mis fe fyddwn ni’n archwilio gwahanol themâu a gwahanol ffyrdd o weddïo gan obeithio y bydden nhw’n gymorth fel modd i ganfod Duw.
Grŵp Ysbrydolrwydd Taleithiol yn yr Eglwys yng Nghymru .
Cyflwyniad
Mae’r gair dathlu neu ddathliad, yn y Saesneg, sef celebration, yn tarddu o’r Lladin ...
celebrare
... sydd â nifer o wahanol ystyron gan gynnwys dod ynghyd i anrhydeddu, cydgyfarfod i addoli, pob un yn addas iawn i’r mis hwn wrth inni ddathlu gyda’n gilydd sawl gŵyl bwysig ym mlwyddyn ein Heglwys, gan gynnwys Sul y Gweddïau, y Dyrchafael a Phentecost. Mae ganddon ni hefyd y cyfle i gofio, gyda diolchgarwch, yr unigolion hynny fu’n cyfrannu at ddyfnhau’r ffydd trwy eu gwaith a’u haddoliad, gan gynnwys Asaff Sant (Mai 5ed), Julian o Norwich (Mai 8fed) a Santes Melangell (Mai 28ain).
Mae’r mis hwn hefyd yn amser lle medrwn gofio’n llawen a diolchgar am y bendithion rydyn ni’n hunain wedi’u derbyn a’u profi yn ein bywydau, yn cynnwys y doniau a’r talentau unigryw a roddwyd i ninnau. Efallai mai un o’r heriau i ni rwan ydy myfyrio ar y ffyrdd rydyn ni wedi ac y dylen ni ddefnyddio’r rhoddion hyn a gawson ni, ym mhob agwedd o’n bywydau. ein hunain.
Myfyrdod
Sut allen ni ganu caneuon yr ARGLWYDD ar dir estron myfyriodd y salmydd ac, efallai, y gallen ni hefyd holi beth sydd yna i’w ddathlu ar yr adeg hyn pan fo ni’n wynebu gymaint o heriau yn ein bywydau. Fodd bynnag, mae’r cysyniad o ddathlu yn fwy na dim ond cynnal parti da (er nad oes rhaid gwahardd y rhain ‘chwaith!) ac mae’n cynnwys y gydnabyddiaeth lawen, ond sobr efallai, ein bod, waeth beth ydy’n hamgylchiadau allanol, yn ddiogel yng ngafael cariadus Duw.
Mae ein gwyliau mawr yn cynnig gwreichio o oleuni mewn byd sy’n ymddangos mor dywyll. Mae Pentecost, er enghraifft, yn ddathliad o ddyfodiad yr Ysbryd Glân, yn dod â chymaint o roddion inni gan Dduw. Gall adeg y Gweddïau, a welir yn aml yn gyfle i gerdded ffiniau’r plwyf, fod yn amser inni gerdded ffiniau ni’n hunain – i ailedrych ar gwestiynau am ein hunaniaeth ac i ddatod y cysyniad heriol a chyffrous o “wybod pwy ydyn ni yng Nghrist”. Gall hyn gynnwys neilltuo amser i ddod yn ymwybodol o’r rhoddion a’r doniau a roddwyd inni gan Dduw.
Mae gan bawb ohon ni (waeth beth ein hoed, iechyd, ayyb!) o leiaf un o’r doniau hyn a chan bod Duw yn roddwr hael, mae’n bosib i rai pobl eu bendithio â mwy nag un rhodd. Mae Duw’n rhoi rhoddion inni er mwyn i ninnau helpu a chefnogi eraill, nid er mwyn ein lles ein hunain.
Mae’r mis hwn yn amser i ddiolch i Dduw am y rhoddion mae wedi’u rhoi ichi ac i archwilio beth mae Duw am ei roi yn eich meddiant ar gyfer y dyfodol. Efallai dy fod yn wrandäwr da – rwyt ti’n un sy’n mwynhau sgwrio gyda phobl, yn gadael i’r person arall siarad heb darfu ac yn ceisio go iawn i ddeall beth maen nhw’n ceisio’i ddweud. Neu, efallai fod gen ti’r ddawn i annog – rwyt ti’n medru rhoi anogaeth i eraill sydd, o bosib, yn ei chael hi’n anodd. Nid rhyw optimistiaeth ffals ydy hyn ond yn gwir allu i helpu eraill i weld ffordd ymlaen.
Dathlwch eich doniau!
Darlleniad o’r Beibl
Fe’n bendithiwyd â chyfoeth o drysorau i fyfyrio arnyn nhw yn ystod y mis hwn, ac felly, dyma ni’n dechrau gydag rhai adnodau o’r Beibl:
Philipiaid 4. 4-7
Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i'r Arglwydd. Dw i'n dweud eto: Byddwch yn llawen! Gadewch i bawb weld eich bod yn bobl garedig. Mae'r Arglwydd yn dod yn fuan. Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. Byddwch chi'n profi'r heddwch perffaith mae Duw'n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a'ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.
Mae’r darlleniad hwn yn llawn anogaethau, sawl un ohonyn nhw’n ymddangos braidd yn heriol, ond mae’n diweddu gyda sicrwydd bywiol o bresenoldeb Duw yn ein bywydau. Efallai y byddai treulio ychydig funudau yn myfyrio ar bob un o’r adnodau hyn o gymorth ichi:
Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i'r Arglwydd. Dw i'n dweud eto: Byddwch yn llawen! – Treuliwch ychydig o funudau’n dwyn i gof y pethau hynny yn eich bywyd sy’n eich gwneud chi’n llawen. Peidiwch â chyfyngu eich hunan i’r achlysuron mawr a cheisiwch cynnwys pethau bach megis gweld planhigion yn eu blodau neu fwytho’r gath.
Gadewch i bawb weld eich bod yn bobl garedig. Mae’r Arglwydd yn dod yn fuan – Beth mae “caredigrwydd” neu hynawsedd neu bod yn glên yn ei olygu i chi? Ym mha ffyrdd ydych chi, neu dydych chi ddim, yn glên?
Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi – sut ydych chi’n ymateb i’r anogaeth hwn? Ydy hyn yn ymddangos yn amhosib, yn bosib, neu efallai’n bosib? Mae gweddi’n cynnwys rhannu ein teimladau a’n hemosiynau dyfnaf, gan gynnwys pan fyddwn ni’n bryderus ac yn poeni; felly mae hi wrth sgwrsio â Duw, fel tasech chi’n gwneud gyda ffrind.
Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser – Ai dyma eich ymateb naturiol i bob swfyllfa? A oes yna rai digwyddiadau/sefyllfaoedd nad ydych chi am eu dwyn o flaen Duw?
Byddwch chi'n profi'r heddwch perffaith mae Duw'n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a'ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu – Dyma’r alwad i orffwys ym mhresenoldeb Duw a bod yn ymwybodol o Dduw llawn cariad yn syllu’n annwyl arnoch.
Gweddi am y Mis: Cerdded Labrinth
Yng Nghymru, mae cerdded fel ffurf ar weddi wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ein hanes gan i gymaint o’n seintiau Celtaidd deithio o amgylch, yn ymweld ag amryw o leoliadau wrth iddyn nhw ddod â neges y newyddion da am Iesu Grist i Gymru. Mae ein gweddi’r mis hwn yn ein gwahodd, nid i grwydro milltiroedd fel y seintiau gynt, ond i gerdded labyrinth.
Llwybrau ysbrydol hynafol ydy labrinthau sydd i’w canfod ledled y byd ac sy’n cael eu coleddu gan yr eglwys Gristnogol fel llwybrau cerdded i weddi a myfyrdod. Os nad ydy hi’n gyfleus ichi gyrraedd labyrinth go iawn, medrwch ddefnyddio labyrinth bys neu dynnu llun un eich hunan. I ganfod mwy am labrinthau, lle mae cael hyd i un o fewn cyrraedd i chi, labyrinth bys neu sut i dynnu llun un, gweler yr adran ‘adnoddau eraill’.
Mae labyrinth yn wahanol i ddrysfa. Gall drysfa fod yn dipyn o hwyl ond mae’n llawn troadau camarweiniol a sawl man lle nad oes ffordd trwodd. Mewn labyrinth, ceir llwybr clir i mewn ac allan ac fe gewch stopio a gadael unrhyw adeg. Hefyd, does dim ffordd cywir neu anghywir i ddilyn wrth gerdded labyrinth, a dim brys i’w gyflawni. Dim ond dilyn y llwybr a fydd pob amser yn eich arwain at y canol – neu’r allanfa ar y daith allan..
Wrth ichi gerdded y llwybr yn bwyllog, mae’n cynnig amser ichi feddwl a myfyrio ar y rhoddion a roddwyd ichi ar hyd eich taith trwy fywyd a sut fyddai modd ichi eu defnyddio. Os ydych chi’n defnyddio llun a dynnwyd o labyrinth, olrheiniwch y llwybr gyda’ch bys.
Does dim angen brysio.
Awgrymiadau am sut i gerdded labyrinth
Cyn ichi fynd i mewn i’r labyrinth, oedwch am eilaid i ystyried dros beth i feddwl a gweddïo.
Efallai yr hoffech ddychmygu fod Iesu’n cerdded yn gwmni ichi neu chithau’n cerdded tuag ato yng nghanol y labyrinth.
Defnyddiwch yr amser yn cerdded o amgylch y labyrinth i slofi a myfyrio. Dewch yn ymwybodol o bopeth a welwch, a’r synau a’r arogleuon a’r pethau y gellir eu cyffwrdd.
Wrth ichi gerdded y labyrinth, efallai yr hoffech fyfyrio ar eich taith o ffydd o’ch atgofion cynharaf hyd at y presennol. Neu i fyfyrio ar y rhoddion lawer rydych chi wedi’u cael ar hyd y daith, rhai sydd i’w dathlu. Pa ddelweddau, profiadau, pobl ddaw i’r cof?
Wrth ichi gerdded, byddwch yn ymwybodol o’r:
- Adegau hynny pryd y cawsoch ymdeimlad o gariad, gobaith, heddwch, neu lawenydd (ffrwythau’r Ysbryd).
- Adegau hynny lle buoch chi’n teimlo’n flinedig, lluddedig, rhwystredig... wedi llwyr ymlâdd. Ymhle oedd Iesu yng nghanol hyn i gyd?
Pan gyrhaeddwch chi’r canol, oeddwch am ennyd ac edrych o’ch cwmpas. Dewch yn ymwybodol o bresenoldeb Iesu gyda chi yn y foment. Beth ydy’r rhoddion sydd i’w dathlu ar y foment hon? Beth ydy’r rhoddion a gawsoch y gellir eu rhannu ag eraill?
Wrth ichi gerdded allan o’r labrinth, myfyriwch ar y ffyrdd y bydd y cyfnod hwn o fyfyrio a weddïo’n dylanwadu ar eich bywyd-bob-dydd, a’r modd y gwnewch chi wneud defnydd o’ch rhoddion, eich doniau.
Wedi ichi gwblhau eich labyrinth, mae’n bosib y byddwch eisiau treulio ychydig amser yn nodi ar bapur unrhyw fyfyrdodau a ddaeth ichi. Sgwennwch, tynnwch lun, sgriblwch, neu defnyddiwch symbolau a delweddau – beth bynnag sy’n cymryd eich bryd.
Myfyrdod i Gloi a Gweddi
Mae gwyliau mawr ein heglwys yn ein galw i ddathlu gyda’n gilydd rhoddion a gras Duw. Fodd bynnag, beth am y pethau bychain, er yn ddim llai pwysig, y gallen ni eu dathlu yn ein bywydau ein hunain? Hyd yn oed os ydy hwn yn amser caled ichi, beth ydy’r pethau cyffredin bob dydd a dinod y gellwch eu dathlu? Wrth ichi fyw eich diwrnod, sylwch ar y pethau bychain y mae modd ichi roi diolch amdanyn nhw ac unrhyw ddigwyddiadau neu achlysuron lle roeddech chi’n teimlo’n cael eich tynnu’n agosach at Dduw. Mae’r rhain yn achos dathlu hefyd!
Dduw pob haelioni,
edrychaist ti ar yr oll a greaist a datgan ei fod yn ‘dda’.
Rhoddwr rhoddion gwerthfawr ac achlysuron bendigedig inni eu dathlu,
Helpa ni i fod yn ddiolchgar am y rhoddion a dderbyniwn gan eraill
ac i fod yn fwy hael yn ein defnydd o’n doniau er lles i bawb.
Mae’r oll sydd ganddon ni wedi dod gen ti,
cymorth ni i gerdded llwybr bywyd gan ddefnyddio’r rhoddion hyn er daioni.
Amen.
Adnoddau Ychwanegol:
Darnau o’r Beibl yn ymwneud â dirnad doniau:
Rhufeiniaid 12. 6-8
1 Pedr 4. 9-11
1 Corinthiaid 12. 7-14, 27
Cerddi:
The Way through the Woods – Rudyard Kipling. Ar gael yn: https://www.kiplingsociety.co.uk/poem/poems_woods.htm
The Road not taken – Robert Frost. Ar gael yn: https://www.poetryfoundation.org/poems/44272/the-road-not-taken
Awgrymiadau am gerddoriaeth
Llyfrau
Mourant, J. 2016. Listening to Your Life: 30 ways to discern direction for your future. Norwich: Canterbury Press.
Welsh, S., 2020. Journey to Contentment: Pilgrimage principles for everyday life. London: BRF.
Williams, D., 2011. Labyrinth: Landscape of the Soul. Glasgow: Wild Goose Publications.
Adnoddau eraill
Chwiliwch am labyrinth yn agos atoch chi:
Darganfyddwch mwy am Asaff Sant y byddwn yn ei gofio ar Fai 5ed yn
Darganfyddwch mwy am Julian o Norwich y byddwn yn ei gofio ar Fai 8fed yn
Darganfyddwch mwy am Santes Melangell y byddwn yn ei chofio ar Fai 28ain yn
Arweiniad Gweddi Labrinth Bys:
Y labrinth yn Chartres:
Mis Nesaf
Gobeithio eich bod wedi cael y myfyrdodau a’r gweddïau hyn o gymorth; wrth gwrs, mae’n ddigon posib y bydd gofyn meddwl dros a gweddïo’r rhain fwy nag unwaith. Mis nesaf, bydd ein thema a’n gweddïau’n edrych ar ddelweddau o Dduw a gweddïo gyda chelf.