Rhagfyr 2022 - Teithio, Adfent, Nadolig
Croeso i Weddi Rhagfyr, a’r bedwaredd mewn cyfres o 12. Pob mis fe fyddwn ni’n archwilio gwahanol themâu a gwahanol ffyrdd o weddïo a fydd, gobeithio, yn profi’n gymorth ichi fel ffyrdd i gyfarfod â Duw.
Y Grŵp Ysbrydolrwydd Taleithiol yn yr Eglwys yng Nghymru.
Cyflwyniad
Wrth i fis Rhagfyr agor o’n blaenau, fe’n tywysir ni ar daith gyda Mair a Joseff i Fethlehem a geni’r Iesu. Mae i bob siwrne, waeth pa mor fyr neu hir, fan cychwyn, cyrhaeddiad, a dychweliad, er mae’n bosib nad ydy’r rhain yn digwydd i gyd ar yr un diwrnod. Hyd yn oed heb adael ein cartrefi ein hunain, rydyn ni’n dal i deithio trwy oriau, a phrofiadau’r dydd. Thema ein gweddi ydy taith fewnol, ac allanol, o bosib; taith weddi ar droed.
Wrth inni fentro allan o’n tai, fe fyddwn ni, gan amlaf, yn dychwelyd adre ar ddiwedd ein taith. Mae yna batrwm o fynd nôl a ‘mlaen – i’r gwaith, i’r ysgol, i’r siopau, i ymweld â ffrindiau neu berthnasau. Er inni, fel arfer, ddod yn ôl yn y pendraw, ar ddiwedd pob dydd, i’r un lle, fe ddychwelwn i fan cychwyn hwnnw y daith honno gyda’r holl brofiadau a digwyddiadau a ddaeth ar ein traws ar y ffordd. Er enghraifft, mae’n ddigon posib ein bod yn llawn egni a bwrlwm yn y bore ond, efallai’n teimlo’n flinedig erbyn dychwelyd ar derfyn dydd, neu’n gyffrous o fod wedi cyflawni her newydd.
Weithiau efallai nad ydyn ni’n sylweddoli hyn, ond mae pob taith yn brofiad newydd. Waeth beth ydy hyd y siwrne, boed anodd neu hawdd, fe wnawn ni ddarganfod rhywbeth bach amdanon ni’n hunain, ac efallai rhywbeth bach am Dduw hefyd.
Gweddi Agoriadol
Myfyrdod
Yr wythnosau hyn yn Rhagfyr ydy hanfod tymor yr Adfent, sy’n golygu ‘dod’ neu ‘ddyfodiad’ ac, i Gristnogion, dyfodiad Iesu ydy’r hyn yr ydyn ni’n aros amdanowrth inni ymdeithio tuag at ei enedigaeth. Mewn gwasanaethau eglwys rydyn ni’n teithio trwy hanesion o’r Hen Destament sy’n adrodd sut y bu i bobl ddilyn Duw, neu fynd eu ffordd eu hunain, ac fe glywn adlais o addewid Duw y byddai Mab yn cael ei eni.
Mae ein taith yn parhau i mewn i’r Testament Newydd wrth inni weld gwireddu’r addewid hwnnw ac y caiff yr holl bobl ddod i wybod am gariad Duw.
Mae llawer o straeon a theithiau llai i’w darganfod sy’n datgelu’r darlun mawr am siwrne trwy fywyd y gellir eu darllen yn y Beibl, ac mae hyn hefyd yn berthnasol i’n llwybr personol ninnau yn y byd. Dyma daith y byddwn, efallai, yn teithio wrth ein hunain, ond yn aml yn rhannu ag eraill, teyulu a ffrindiau, a dieithriaid y byddwn yn eu cyfarfod ar hyd y ffordd; trwyddyn nhw, medrwn ddarganfod mwy amdanon ni’n hunain ac am ein ffydd.
Adran o’r Beibl
Mae’r darlleniad o’r Beibl yn dod o efengyl Luc, 1. 39-41a; 2. 4-5 [,7], yn sôn wrthon ni am ddwy daith wahanol. Y gyntaf ydy Mair ar ymweliad ag Elisabeth, a’r ail pan fo Mair a Joseff yn gorfod mynd i Fethlehem lle cafodd Iesu ei eni.
Cyn gynted ag y gallai dyma Mair yn mynd i'r dref yng nghanol bryniau Jwda lle roedd Sachareias ac Elisabeth yn byw. Pan gyrhaeddodd y tŷ dyma hi'n cyfarch Elisabeth, a dyma fabi Elisabeth yn neidio yn ei chroth hi.
Felly gan fod Joseff yn perthyn i deulu'r Brenin Dafydd, gadawodd Nasareth yn Galilea, a mynd i gofrestru yn Jwdea – yn Bethlehem, hynny ydy tref Dafydd. Aeth yno gyda Mair oedd yn mynd i fod yn wraig iddo, ac a oedd erbyn hynny'n disgwyl babi... a dyna lle cafodd ei phlentyn cyntaf ei eni – bachgen bach. Dyma hi'n lapio cadachau geni yn ofalus amdano, a'i osod i orwedd mewn cafn ar gyfer bwydo anifeiliaid. Doedd dim llety iddyn nhw aros ynddo.
- A oes taith arbennig y gwnaethoch chi a’ch llenwodd â chariad a llawenydd?
- Sut deimlad gewch chi wrth ei dwyn i gof?
Myfyrdod
Mae’r darlleniad cyntaf yn adrodd rhan o’r stori am Mair a’i hymweliad ag Elisabeth. Mae Mair wedi ei synnu gan yr angel Gabriel a’i neges ac mae hi wedi ildio’n fodlon i Dduw (Luc 1: 26-38) ac felly’n dod yn feichiog, yn cludo Duw ei hun. Mae Elisabeth hefyd yn feichiog, a phan maen nhw’n cwrdd, mae ei babi hithau’n llamu yn y groth, yn cydnabod presenoldeb Mab Duw ym Mair.
Mae ymweliad Mair ag Elisabeth yn ein helpu i ddeall fod rhai o’r teithiau a wnawn a’r profiadau a gawn yn ein bywydau, gan gynnwys profiadau ysbrydol, weithiau y tu hwnt i eiriau. Wrth geisio eu mynegi mewn geiriau, an aml does dim modd cyfleu’n llwyr yr hyn rydyn ni wedi’i brofi; fe deimlwyd y profiad o’n mewn ac mae mynegi’r teimladau hynny ar lafar yn gallu bod yn anodd.
Pan ddewn ni at yr ail ddarlleniad a chyrraedd Bethlehem, rhaid inni gofio mai nid diwedd y daith ydy hyn. Mae’r hanes a’r siwrne yn un barhaus i Mair a Joseff, ac i Iesu. Pa mor aml y gwnaethoch chi ddarganfod nad oedd yr hyn roeddech chi’n ei feddwl oedd diwedd y daith yn ddim mwy nag oediad, gan ei fod yn arwain yn syth at gychwyn un arall; a thaith a fydd, efallai, yn cynnwys sawl cyfeiriad a dargyfeiriad annisgwyl!
Does dim rhaid inni ddeall pob cam a gymerwn neu bod yn gwbl sicr o’r daith rydyn ni arni. Pwy sydd heb ofyn am gyfarwyddiadau ar hyd y ffordd? Gall fynd ar goll fod yn rhan o’r siwrne! Mewn bywyd ac yn y ffydd, mae’n rhaid inni weithiau ddibynnu ar gyfarwyddiadau a chyngor eraill er mwyn cyrraedd lle rydyn ni’n dymuno mynd. Fe drown atyn nhw oherwydd eu dealltwriaeth a’u profiad.
- At bwy fasech chi’n troi am gymorth a chefnogaeth ar hyd taith bywyd?
- At bwy fasech chi’n troi am gymorth a chefnogaeth ar daith gweddi a ffydd?
Mae adegau, wrth gwrs, lle nad ydyn ni’n dychwelyd at ein man cychwyn. Gall hynny fod trwy symud at ran arall o’r wlad, pan fo oedran neu salwch yn gofyn cael gofal llawn-amser, pan fo trychineb yn taro gan orfodi pobl o’u cartrefi. Gall teithiau fod yn annisgwyl a di-ofyn-amdano.
- Ydy hyn yn rhywbeth rydych chi, neu rywun rydych chi’n eu nabod, wedi’i brofi?
Wrth inni edrych yn ôl at yr amrywiaeth o deithiau a ddigwyddodd yn ein bywydau, rydyn ni’n darganfod, ochr yn ochr â’r daith go iawn, fod hefyd taith fewnol yn digwydd; mae ein hymennydd, ein meddyliau, ein teimladau hefyd wedi teithio gyda ni, yn ein mowldio i’r person rydyn ni ar hyn o bryd. Mae’n bosib fod gweddi a ffydd hefyd wedi bod yn rhan o’r siwrne. Os oedd hynny’n wir yn eich profiad chi, ystyriwch sut mae hynny wedi eich newid dros y blynyddoedd, ac ydy eich ffordd o edrych ar weddi bellach yn wahanol? Mae gweddi hefyd yn daith o ddarganfod ar hyd llwybrau o amheuaeth, o gwestiynu, o geisio, o sylweddoli, o hadau ffydd yn tyfu dros amser, o estyn allan, o fod ymysg eraill sy’n teithio’r un llwybr.
- Sut wnewch chi deithio trwy’r wythnosau hyn o Adfent – beth mae’n ei olygu i chi?
- Sut wnewch chi ddathlu’r Nadolig a dyfodiad Iesu – beth mae hynny’n ei olygu i chi?
Gweddi’r Mis: Am Iachâd a Llesiant
Gall taith neu dro gweddi ein tywys ni i’r awyr agored o amgylch ein hardal leol, yn y wlad, ar hyd traeth, mewn eglwys; gall hefyd fod yn o ddedwyddwch eich cartref eich hunan. Gweithred ydy hon i ddwyn o flaen Duw, yn dawel yn ein calonnau, popeth sy’n dal ein sylw ac sy’n weladwy, ynghyd â phopeth sy’n anweladwy.
Does dim ffordd cywir nag anghywir o weddïo ar dro gweddi ac felly, efallai mai gweddi fyddai hon o ddwyn i gof cyswllt â’ch hanes chi’ch hunan a’ch taith bywyd; efallai mai amser ydy hi i oedi a rhyfeddu at ysblander creadigaeth Duw, neu i ofyn i Dduw i fod gyda’r rhai hynny a welwn a’r lleoedd rydyn ni’n mynd heibio wrth gerdded. Lle bynnag rydyn ni’n cerdded, mae Duw gyda ni - gall hefyd olygu bod yn barod i gael ein synnu at ba gyfeiriad mae’n gweddïau’n ein tywys.
Pethau i Chwilio amdanyn nhw
Chwiliwch am ‘The Disciples Peter and John Running to the Sepulchre’ gan Eugene Bernand.
Chwiliwch am ‘O Sing a Song of Bethlehem’ gan Louis F Benson.
Chwiliwch am ‘Pererin wyf mewn anial dir’ gan William Williams.
Awgrym i ddarllen
The Way Under Our Feet: A Spirituality of Walking gan Graham B Usher
Chwiliwch am ‘Footsteps in the Sand’.
Mis Nesaf
Gobeithio ichi brofi’r myfyrdodau a’r gweddïau hyn yn gymorth ac, efallai, y bydd gofyn myfyrio a gweddïo drostyn nhw fwy nag unwaith. Y mis nesaf, bydd ein thema yn ymwneud â chynhwysiant, y flwyddyn newydd, a gweddïo dros eraill; gweddi o eiriolaeth.