Tachwedd 2022 - Cofio, Gollwng Gafael ac Atgofion
Croeso i Weddi Mis Tachwedd, a’r trydydd un mewn cyfres o 12. Pob mis byddwn yn archwilio gwahanol themâu a gwahanol ffyrdd o weddïo y gobeithiwn y byddwch yn eu canfod o gymorth fel ffyrdd o gyfarfod â Duw.
Y Grŵp Ysbrydolrwydd Taleithiol yn yr Eglwys yng Nghymru.
Cyflwyniad
Rydym yn Cofio
Y mis hwn byddwn yn myfyrio ar y ffordd rydym yn cael ein hannog i ‘gofio’ wrth i ni symud trwy fis Tachwedd. Byddwn yn cyflwyno gweddi cofio - yr Examen.
Mae Tachwedd yn fis o gofio. Mae’n hatgofion yn codi cymaint o emosiynau ynom. Fe allen nhw fod yn ffynhonnell o ddiolchgarwch, o wên a chwerthin ac o ddagrau. Gallwn gofio jobyn wedi’i wneud yn dda gyda balchder haeddiannol a’n geiriau angharedig i rywun gyda chywilydd.
Mae’n hatgofion wedi’u gweu i mewn i wead ein hadnabyddiaeth wrth i ni gael ein ffurfio a’n siapio gan ein profiadau. Maen nhw hefyd wedi’u gwau i mewn i’n perthynasau wrth i ni adeiladu atgofion wedi’u rhannu gyda’r rhai rydym yn eu caru a chyda’r cymunedau rydym yn rhan ohonynt. Gallwn hefyd ‘gofio’ digwyddiadau nad ydym ni wedi’u profi’n uniongyrchol – megis digwyddiadau o hanes.
Gweddi Agoriadol
Myfyrdod
Rydym yn mynd i mewn i fis Tachwedd gyda ‘Diwrnod yr Holl Saint’. Rydym yn cofio holl Saint Duw sydd wedi’u cydnabod gan yr Eglwys fel arbennig o sanctaidd. Pobl sydd wedi byw’n agos at Dduw neu, efallai, sydd wedi talu pris arbennig o uchel am eu disgyblaeth, yn aros yn ffyddlon er ei fod wedi costio eu bywydau. Maen nhw’n anogaeth ac yn ysbrydoliaeth i ni. Mae’n heglwysi'n atseinio gyda'r emyn, 'Am rif y saint'.
- Ydych chi’n adnabod unrhyw un rydych yn teimlo sy’n berson sanctaidd a duwiol?
Mae hynny’n cael ei ddilyn gan ‘Ddydd yr Holl Eneidiau’. Mae’r hwyliau’n distewi wrth i ni gofio’r seintiau hynny, yr eneidiau hynny, rydym wedi’u hadnabod yn bersonol. Efallai byddwn yn golau cannwyll. Mae’u henwau’n cael eu siarad yn uchel yn ein heglwysi. Rydym yn eu cofio gyda chariad, efallai gyda hiraeth neu hyd yn oed galar. Rhown ddiolchi Dduw am eu cariad, eu bywyd. Gallen nhw hefyd wedi bod yn anogaeth ac yn ysbrydoliaeth i ni ar ein taith Gristnogol.
Wrth gofio’r Holl Saint a’r Holl Eneidiau, rydym yn cydnabod fod yr eglwys wedi’i greu o bobl ar draws yr oesoedd. Mae fel petai’r llen rhyngom ni a nhw’n tyfu ychydig yn fwy tryloyw. Rydym yn cael persbectif gwahanol arnom ni ein hunain fel Cristnogion fel rydym yn cydnabod ein bod ninnau hefyd yn rhan o’r grŵp enfawr o bobl o bob rhan o’r byd ac ar draws y canrifoedd. Pob un yn dilyn Iesu’r gorau gallwn.
Mae’r dyddiau’n parhau a chyn bo hir mae’r rhigwm plentyndod yn atseinio, ‘Cofiwch, cofiwch y pumed o Dachwedd’ - ac mae noson Guto Ffowc wedi cyrraedd. Rydym yn clywed y rhigwm hwnnw’n llai'r dyddiau yma ac efallai ei bod hi’n well gennym anghofio’r gwrthdaro treisgar rhwng y Protestaniaid a’r Catholigion mae’n cyfeirio ato. Mae cofio’n gallu bod yn anghyfforddus. Mae’n gallu ein herio ni.
Wrth i’r misoedd symud ymlaen, deuwn at Sul y Cofio. Rydym yn cofio’n lluoedd arfog, yn enwedig y rhai a roddodd eu bywydau mewn cymaint o wrthdaro ar draws yr oesoedd. Rydym yn cofio pris rhyfel ac yn gweddïo am heddwch. I rai ohonom bydd y cofio’n bersonol iawn, os ydym wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog neu wedi colli aelodau o’r teulu mewn gwrthdaro. Yn aml mae yna densiwn ynom wrth i ni anrhydeddu’r rhai sydd wedi marw mewn rhyfel ond ein bod ninnau’n dyheu am ddiwedd i ryfel. Weithiau rydym yn tybio pam nad yw Duw yn ymyrryd mewn rhyw ffordd amlwg i roi diwedd ar ddioddefaint o’r fath.
Rydym yn chwilio am y dydd pan fydd pobl,
‘yn curo’u cleddfau’n geibiau,
a’u gwaywffyn yn grymanau;
ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl,
ac ni ddysgant ryfel mwyach'. (Eseia 2:4)
Gallwn hefyd gydnabod y gwrthdaro yn ein calonnau ni’n hunain – hadau ein rhyfeloedd personol mewn dicter a chwerwder, casineb a'r awydd i ddangos ein hunain yn iawn ac eraill yn anghywir. Rydym yn hiraethu am heddwch yn ein calonnau. Yn y tymor hwn o Hydref, efallai byddwn yn penderfynu gollwng gafael ar rai o’n hatgofion niweidiol fel mae’r coed o’n cwmpas yn gadael i’w dail disgyn i’r ddaear, yn paratoi eu hunain am y Gaeaf ac am dwf newydd y Gwanwyn.
Gweddi: Yr Examen – Gweddi o Gofio neu Ail Ymweld
Yr awgrym o weddi ar gyfer y mis hwn yw gweddi o gofio – yr Examen. Mae’i gwreiddiau yn Ymarferion Ysbrydol St Ignatius o Loyola (g1491 – m1556) ond mae wedi’i haddasu at ddefnydd modern, felly mae yna nifer o amrywiaethau. Mae llawer o bobl yn defnyddio’r weddi hon pob nos i edrych yn ôl dros y diwrnod.
Ond profwch dros eich hunan!!
- Eisteddwch yn dawel, mewn distawrwydd. Os yw’n eich helpu i ganolbwyntio, goleuwch gannwyll. Cofiwch fod Duw gyda chi ac yn eich caru chi gyda chariad enfawr. Rydych yn eistedd yng nghynhesrwydd a goleuni Duw, yn ddiolchgar am y diwrnod.
- Gofynnwch i Dduw ddangos i chi'r hyn rydych angen ei weld ac yna, gadewch i’ch meddwl gofio'ch diwrnod - ble oeddech chi, beth wnaethoch chi, pwy welsoch chi. Peidiwch â phoeni am drefn - mae beth bynnag a ddaw i’r meddwl yn iawn.
- Ystyriwch ble yn eich diwrnod y gwnaethoch nesáu at Dduw? Weithiau, mae’n haws gofyn ble y cawsoch hyd i gariad neu oleuni? Neu, ble wnaethoch chi roi cariad neu oleuni? Neu, efallai bod yna rhywbeth rydych yn ddiolchgar amdano, rhywbeth a wnaeth i chi teimlo’n dda.
Gallwn ganfod Duw mewn lleoedd pob dydd:
- gwên plentyn
- gair caredig
- cerddoriaeth yn chwarae yn y car ar y ffordd i’r gwaith
- heulwen yn disgyn ar wlith
- mewn synnwyr annisgwyl o dangnefedd
- Ystyriwch hefyd a oedd unrhyw adeg pan oedd Duw yn ymddangos yn bell – pan oedd y diwrnod yn ymddangos yn dywyll, neu’n ddi-gariad. Efallai bod cyfarfod ble roeddech yn anghariadus neu ddim ond wedi methu â sylwi ar Dduw. Os ydych angen gofyn am faddeuant, gofynnwch, yn gwybod ei fod eisoes wedi’i roi.
Gallwn dynnu i ffwrdd o Dduw mewn pethau bach:
– gair angharedig
– rhagdybiaeth negyddol am rywun
neu efallai bod Duw yn ceisio eich procio tuag at newid:
– mae rhai gweithgareddau a oedd yn arfer rhoi pleser yn ymddangos yn faich - beth mae hynny'n ei ddweud wrthych chi?
– Efallai bod sylweddoli eich pryder am ffrind yn awgrymu eich bod yn cysylltu â nhw
- Rydym yn bobl o ffydd a gobaith. Mae heddiw’n dod i ben felly, edrychwch ymlaen at yfory. Gofynnwch am beth bynnag yr ydych ei angen gan Dduw wrth i chi ystyried y diwrnod o’ch blaen.
Does dim rhaid i’r Examen cael ei gweddïo gyda'r nos. Os ydych yn rhy gysglyd neu ei bod yn well gennych y bore, gallwch edrych yn ôl dros y diwrnod blaenorol yn lle. Gallai’r Examen hefyd gael ei defnyddio am gyfnodau hirach (edrych yn ôl dros dymor, neu flwyddyn neu wyliau neu swydd rydych yn ei gadael).
Mae rhai pobl yn ei chael hi o gymorth cadw dyddiadur o’r pethau sy’n dod â nhw’n agosach at Dduw. Wrth edrych yn ôl dros amser, mae patrymau’n gallu ymddangos a chyfeiriadau newydd awgrymu eu hunain. Pan fo amseroedd yn anodd mae’ch dyddiadur yn gallu bod yn ffynhonnell o obaith fel rydych yn cofio pan oedd amseroedd yn fwy llawen.
Awgrymiadau gweddi eraill ar gyfer thema cofio Tachwedd
Adnoddau llyfrau
- Sleeping with bread: Holding what gives you life gan Dennis Linn, Sheila Fabricant Linn a Matthew Linn. (Llyfr hardd, syml ar yr Examen, wedi’i ddarlunio gan y darlunydd plant, Francisco Miranda).
- Listening to your life gan Julia Mourant (Llyfr o ymarferion myfyriol sy’n ein helpu i dalu sylw i lais Duw y tu fewn i ni)
Adnoddau ar gyfer yr Examen
- Apiau Pray as you Go (o dan y tab ‘prayer tools’ ) or Gweddi Iesüwr
Tudalennau Gwefan:
Mis Nesaf
Gobeithio eich bod wedi canfod y myfyrdodau a’r gweddïau hyn o gymorth. Wrth gwrs, efallai y bydd angen ychydig o feddwl, a gweddïo fwy nag unwaith.
Y mis nesaf bydd ein thema a’n gweddïau’n ystyried y teithiau rydym yn eu gwneud, y daith at y Nadolig a thaith gerdded gweddi.