Medi 2022 - Creadigaeth, Cynhaeaf, Creadigrwydd
Croeso i Weddi Mis Medi, a’r gyntaf un mewn cyfres o 12. Pob mis byddwn yn archwilio gwahanol themâu a gwahanol ffyrdd o weddïo y gobeithiwn y bydd y rhain o gymorth i chi fel ffyrdd o gyfarfod â Duw. Y Grŵp Ysbrydolrwydd Taleithiol yn yr Eglwys yng Nghymru.
Cyflwyniad
Gweddi yw ein sgwrs ddwy ffordd gyda Duw. Mae treulio amser mewn gweddi yn gallu ein tynnu’n agosach at Dduw, er ar adegau fe allwn amau a yw Duw yn gwrando arnom. Ond mae ffydd yn dweud wrthym fod Duw yn gwrando arnom hyd yn oed os nad yw pob amser yn ymateb yn y ffordd rydym yn ei disgwyl! Fe allai fod bod y ffordd rydym yn synhwyro bod ein gweddi’n cael ei ateb yn ein gadael yn teimlo ychydig yn anghyfforddus neu’n ansicr. Gallai ateb i weddi ddod oddi wrth bobl annisgwyl, neu rywbeth rydym yn ei glywed ar y radio sy’n ein cyffwrdd.
Yn ystod y mis Medi hwn, mae’r eglwys yn canolbwyntio ar greadigaeth Duw a'n creadigrwydd ni ein hunain, ac mae'n adeg pan fyddwn yn dechrau meddwl am wyliau'r cynhaeaf. Y dull o weddi a awgrymir ar gyfer y mis hwn yw ffurf o fyfyrdod a fydd yn canolbwyntio ar Greadigaeth Duw a rhyfeddodau popeth sy’n cael ei ddarparu a’i roi i ni ar gyfer ein byw o ddydd i ddydd.
Mae hynny’n cynnig y cyfle i ni fod yn ddiolchgar ac i ryfeddu am haelioni toreithiog Duw, ac am ein gallu i greu pethau gyda’r cyfan sydd wedi’i ddarparu at ein defnydd.
Gweddi Agoriadol
Darn o’r Beibl
Daw'r darn o’r Beibl y mis hwn o’r Hen Destament - Deuteronomium 28: 1-6. Darllenwch trwy’r darn a chymerwch amser i ystyried beth ydych chi’n teimlo mae hwn yn ei olygu i chi a sut y gallu fod yn berthnasol i’r byd heddiw a thema’r greadigaeth.
Os byddi'n gwrando’n astud ar lais yr Arglwydd dy Dduw, ac yn gofalu cadw popeth y mae’n ei orchymyn iti heddiw, yna bydd yr Arglwydd dy Dduw yn dy osod yn uwch na holl genhedloedd y byd. Daw’r holl fendithion hyn i’th ran ac i’th amgylchu, dim ond iti wrando ar lais yr Arglwydd dy Dduw.
Byddi’n derbyn bendith yn y dref ac yn y maes. Bydd bendith ar ffrwyth dy gorff, ar gnwd dy dir a’th fuches, ar gynnydd dy wartheg ac epil dy ddefaid. Bydd bendith ar dy gawell a’th badell dylinio. Bydd bendith arnat wrth ddod i mewn ac wrth fynd allan.
Myfyrdod
Cymerwyd y darn hwn o ffordd o fyw a gweddïo ar Dduw sydd o ganrifoedd lawer oed. Mae’n weddi o fendith i Dduw ac mae’n cynnwys holl wrthrychau beunyddiol bywyd a gwaith. Yn y blynyddoedd cynnar Cristnogol cadwyd at y ffordd hon o weddïo, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf Celtaidd - Cymru, yr Alban a Chernyw er enghraifft. Byddai bendith yn cael ei weddïo ar gyfer yr aelwyd fel yr oedd y tân yn cael ei gynna, cyn paratoi pryd bwyd, ar gyfer gwaith y dydd; byddai unrhyw beth a phopeth yn cael gweddi o fendith.
Mae St Francis o Assisi’n cael ei gofio yn yr eglwys ar 4 Hydref, ond mae’n cael ei gynnwys yma oherwydd ei gysylltiad â natur a’r cread. Ymysg ei ysgrifau y mae Cantigl [cân neu emyn] sy’n cysylltu’n bywydau gyda Duw a’r Greadigaeth a’r byd naturiol.
Yn y Cantigl, rydym yn darganfod gweddi sy’n cynnwys ‘y Brawd Haul’ yn dod â goleuni; ‘y Chwaer Leuad’ a sêr y nos; ‘y Brodyr Gwynt, Aer a Thân’; ‘y Chwaer Ddŵr a’r Farwolaeth Gorfforol’ ; 'y Fam Ddaear' sy'n maethu ac yn cynnal y greadigaeth.
Wrth ddefnyddio rhai o’r themâu'r Cantigl gallwn ysgrifennu’n cân ein hunain sy’n gweu rhywbeth o’n bywydau ni ein hunain i un y greadigaeth:
Bendithion y Greadigaeth
Daw’r holl fendithion oddi wrthyt ti, Duw'r Greadigaeth,
blodau natur o dan y Brawd Haul,
yn cynhesu’r ddaear o dan ein traed, ac
yn cael eu maethu gan y Fam Ddaear a’r Chwaer Ddŵr.
Mae’r Chwaer Leuad yn llenwi awyr y nos gyda sêr
a gorffwys cwsg ac adnewyddiad,
Nes bod y tymhorau’n dod a mynd
A’r holl greaduriaid yn gorffwyso yn Chwaer Marwolaeth Gorfforol.
Y Brawd Gwynt a’r Brawd Tân,
addfwyn fel awel, cryf mewn gwynt mawr,
tawelwch ac anrhefn wrth ochr y Brawd Aer,
bywyd i holl natur a’r greadigaeth.
I Dduw, rhown ein diolch. Amen.
- Petaech yn ysgrifennu cantigl am y greadigaeth, beth fyddwch chi’n ei gynnwys ynddo?
Gweddi’r Mis: Gweddi Myfyrdod
Mae myfyrio yn ffordd dawel, fyfyriol o weddi; meddwl mewnol trwy weddi yn hytrach nag un llafar allanol. Gallwch ddefnyddio pennill neu ymadrodd o ddarn o’r Beibl neu emyn, neu wrthrych i afael ac edrych arno. Y mis hwn wrth i ni ystyried harddwch y greadigaeth, mae’n fyfyrdod gyda gwrthrych neu eitem. Gallai fod yn rhywbeth o’ch cwpwrdd cegin [bagiad o flawd, banana neu focs o greision ŷd] neu gallwch edrych ar rywbeth yn tyfu yn eich gardd; gallai fod yn rhywbeth y gallwch fynd ag ef i wasanaeth diolchgarwch.
Darnau o’r Beibl
Dewis bychan o rai darnau sy'n berthnasol i'r greadigaeth:
- Genesis 1 a 2:1-4 – ‘Yn y dechreuad’
- Genesis 41:46-49 a 53-57 – newin yn yr Aifft
- Salm 65 – diolchgarwch am haelioni’r ddaear
- Eseia 35:1-10 – yr anialwch a’r tir fydd yn falch
- Mathew 13: 1 – 9 – dameg yr heuwr
- Luc 8: 22 – 25 – Iesu’n tawelu’r storm
- Luc 12:22 – 31 – ‘peidiwch â phryderi’
Rhywbeth i’w Archwilio
- Chwiliwch am ‘Cantigl yr Haul’ gan St Francis
Mis Nesaf
Gobeithio bod y myfyrdodau a gweddïau hyn wedi bod o gymorth i chi. Wrth gwrs, efallai bydd angen ychydig o feddwl a gweddïo fwy nag unwaith. Y mis nesaf, bydd ein thema a gweddïau’n edrych ar gyfanrwydd ac iachau.