Eich adborth
Blwyddyn Weddi
Daw’r Blwyddyn Weddi i ben; a ddyfnhaodd neu sbardunodd weddios felly, beth ddaw nesaf?
Fel aelodau’r Grŵp Ysbrydolrwydd Taleithiol, hoffen ni ddiolch ichi am weddïo gyda’n myfyrdodau, darlleniadau beiblaidd a gweddïau. Fe ddaethon nhw i fod trwy ein gweddïau a’n perthynas ni ein hunain â Duw, gan na fyddai modd eu llunio heb ymwybyddiaeth ddofn o’n gweddigarwch ein hunain. Os nad ydych chi eto wedi gweld y ffilm fer gan Esgob John, ceisiwch ei wylio.
Mae popeth a sgwennwyd ar gyfer y Flwyddyn Weddi hon yn dal ar gael ar wefan yr Eglwys yng Nghymru, felly gobeithio y caen nhw’u defnyddio fel adnodd i weddi unigol neu breifat, mewn grwpiau gweddi neu astudiaeth eglwysi, ar ddiwrnodau o dawelwch neu sut bynnag yr hoffech eu defnyddio. Dydy’r adnoddau hyn ddim yn dyddio a gellir eu defnyddio dro ar ôl tro.
Un cwestiwn y buon ni’n pendroni yn ei gylch ydy, ‘beth i’w wneud nesaf?’. Ein gobaith ydy y byddwch chithau’n medru ein helpu ateb y cwestwin hwn; beth oeddech chi’n ei feddwl am y deunydd yn y Flwyddyn Weddi?
Trwy gydol y mis hwn, fe hoffen ni eich gwahodd i fyfyrio ar y cwestiynau canlynol ac anfon eich ymatebion aton ni. Does dim rhaid ichi gynnwys eich enw, ond os fedrwch chi gynnwys pa esgobaeth ydych chi, fe fydd yn gymorth inni lunio darlun ehangach o leoliadau’r gweddïo.
- Ble wnaethoch chi glywed am y Flwyddyn Weddi?
- Sut fuoch chi’n defnyddio’r adnoddau misol, e.e. yn aml, yn achlysurol, wrth eich hunan, gydag eraill?
- A oes unrhyw beth nad oeddech chi’n ei ddeall neu heb fod yn ddigon eglur i’w ddilyn?
- A oedd unrhyw ddulliau gweddi a oedd yn newydd ichi, neu’n arbennig o ddefnyddiol ichi?
- Ydy e wedi newid y ffordd rydych chi’n gweddïo neu wedi eich annog i weddïo’n amlach?
- Pe byddai mwy o adnoddau ar weddi yn cael eu cynnig ar wefan yr Eglwys yng Nghymru, a fasech chi’n gwneud defnydd ohonyn nhw a beth hoffech chi ei weld?
Diolch i bawb ohonoch chi sy’n anfon eich sylwadau.
-Y Grŵp Ysbrydolrwydd Taleithiol
Dduw’r weddïgar bererin, rwyt yn cyd-deithio â ni trwy adegau llawen ac annisgwyl gweddi ddyrchafol. Rwyt yn gwmni inni ar adegau sych a chrin y weddi wag. Cydymaith wyt, pob eiliad o bob dydd, yn dyfnhau gweddi’r galon a’n taith bywyd gyda thi. AmenBlwyddyn Weddi