Priodas Cyplau un-rhyw
Deddf Priodas (Cyplau Un-Rhyw) 2013
Er 29 Mawrth 2014, dan ddarpariaethau’r Ddeddf hon, caniateir priodasau un-rhyw yng Nghymru a Lloegr ac, o ganlyniad, fe all y caiff clerigion ymholiadau oddi wrth gyplau un-rhyw sydd am briodi yn yr eglwys.
Fel y saif y gyfraith ar hyn o bryd, ni all yr Eglwys yng Nghymru weinyddu priodasau un-rhyw. Fodd bynnag, yn dilyn cymeradwyaeth o fil gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ym mis Medi 2021, awdurdodwyd gan yr esgobion Litwrgi ar gyfer Bendithio Priodas Sifil Dau Berson o’r un Rhyw / Partneriaeth Sifil Dau Berson o’r un Rhyw, i’w arfer ym mhob esgobaeth. Gellir defnyddio’r litwrgi o 1 Hydref 2021 ymlaen a gellir dod o hyd i destun y gwasanaeth yma.