Ystyr Bedydd
Dywed yr Efengylau wrthym fod Iesu ei hun wedi cael ei fedyddio, gan Ioan Fedyddiwr yn Afon Iorddonen, a bod Iesu wedi gorchymyn i’w ddisgyblion fynd allan i’r byd a bedyddio. Mae’r bedydd yn sacrament i bob un sydd yn dymuno dod yn ddisgyblion iddo. Croesawa’r Eglwys bawb sydd am ddatgan eu ffydd yn Iesu Grist i’w bedyddio, gan gynnwys babanod a phlant, a’u rhieni a’u rhieni bedydd yn gwneud y datganiad hwnnw ar eu rhan. Mae Iesu’n dysgu ei bobl fod yn rhaid i bob un sydd am fynd i mewn i’w deyrnas gael genedigaeth newydd drwy ddŵr a’r Ysbryd. Y bedydd yw arwydd yr enedigaeth newydd hon.
Dynodir y broses o dderbyn y ffydd Gristnogol gan dair seremoni bwysig yn yr Eglwys yng Nghymru. Y Bedydd sy’n nodi dechrau’r daith yn y ffydd Gristnogol. Cadarnheir hyn gan unigolion adeg Conffyrmasiwn wrth iddynt ddatgan addunedau’r Bedydd drostyn nhw eu hunain. Yn ogystal, gwahoddir pob Cristion i rannu yn Sacrament y Cymun wrth i’r Eglwys ufuddhau i orchymyn Iesu i dorri bara a rhannu gwin, sydd yn gyfranogiad yng nghorff a gwaed Crist.
Mae rhieni a rhieni bedydd sy’n cyflwyno eu plant i’w bedyddio yn addo meithrin eu plant yn y ffydd, eu cynnal trwy weddi, eu galluogi i gymryd rhan ym mywyd yr Eglwys wrth iddi addoli a gwasanaethu a, phan ddaw’r amser, bod yn barod i ddatgan eu ffydd drostyn nhw eu hunain drwy gael eu conffyrmio (gan yr Esgob). O ran plant hŷn neu oedolion, gellir eu bedyddio a’u conffyrmio yn yr un gwasanaeth.
Beth bynnag y bo oedran yr ymgeisydd, mae bedydd yn golygu:
- troi cefn ar dywyllwch a phechod er mwyn wynebu Iesu Grist, yr un y cawn ynddo oleuni a maddeuant;
- cael ein golchi yn nyfroedd y bedydd yn arwydd allanol o’n hadnewyddiad, ein haileni drwy ddŵr a’r Ysbryd;
- cymryd ein lle o gwmpas bwrdd teuluol yr Eglwys lle mae Iesu’n ein maethu â bwyd y bywyd tragwyddol.
Fel arfer, dylid bedyddio mewn eglwys yn ystod addoliad. Taenellir dŵr deirgwaith dros ben y sawl sy’n cael ei fedyddio, yn Enw Duw: y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân. Gellir bedyddio’r rhai sy’n hŷn trwy fedydd trochiad mewn croniad o ddŵr, fel a geir mewn bedyddfan. Mae’r weithred o fedyddio yn arwydd ein bod yn cymryd rhan ym marwolaeth ac atgyfodiad Iesu. Fel y bu iddo farw a chael ei gladdu, felly rydyn ni’n suddo i ddŵr y bedydd gydag ef. Ac fel y bu iddo godi o farw’n fyw, felly rydyn ninnau’n codi o’r dŵr yn ei rym atgyfodol ef, wedi ein hadnewyddu.
Pan fydd plant yn cael eu bedyddio, bydd eu rhieni a’u rhieni bedydd yn ymrwymo i gyfrifoldebau penodol. Dyna pam y mae rhieni a rhieni bedydd fel rheol yn cael eu helpu ymlaen llaw i ddeall eu cyfrifoldebau. Mae gan yr Eglwys leol rôl bwysig hefyd drwy eu cynorthwyo i feithrin eu plentyn yn y ffydd Gristnogol a’r bywyd newydd a ddaw i ni drwy’r Bedydd.
Mae’r Eglwys yn bedyddio plant gan obeithio ac ymddiried y bydd rhieni, rhieni bedydd a’r eglwys leol gyda’i gilydd yn eu hamgylchynu â ffydd fyw a fydd yn eu cynnal gydol eu hoes. Mae’r Eglwys yn cefnogi pob Cristion bedyddiedig drwy eu dysgu a’u hannog wrth iddynt dderbyn gras yr Ysbryd Glân i ymdebygu i Iesu.
Mae’n rhaid paratoi’n gywir ar gyfer bedydd. Anogir rhieni a rhieni bedydd plant iau i lwyr ddeall eu dyletswyddau: i ddarllen y Beibl, gweddïo, ac addoli’n gyson, fel y bydd eu plentyn yn tyfu yn y ffydd. Disgwylir i blant hŷn ac oedolion sy’n cael eu bedyddio ymbaratoi drwy gymryd rhan mewn cwrs, yn aml gydag eraill. Disgwylir y bydd aelodau o’r eglwys leol yn annog a helpu pawb sy’n dod yn ddilynwyr i Iesu. Efallai y byddant yn bresennol yn ystod pob cam o’r broses hon, i groesawu a chynnwys y rhai sydd newydd gael eu bedyddio a’u conffyrmio yng nghymdeithas yr Arglwydd Iesu Grist.