Beth yw Cristion?
Cristion yw rhywun sydd nid yn unig yn credu yn Nuw ond sy’n ymrwymo i fod yn ddilynwr i Fab Duw, Iesu. Gall dilyn Iesu olygu llawer o bethau, ond mae’n dechrau gyda pherthynas. Yn gyntaf, mae’n ymwneud â’n buddsoddiad personol ni mewn amser a gweddi i ddod i adnabod Iesu, ond hefyd â sut mae’r berthynas honno’n effeithio ar ein perthynas ni ag eraill. Mae Cristnogion yn credu bod dod i berthynas â Iesu yn ein trawsnewid ac yn rhoi ystyr i fywyd.
Mae Duw am gael perthynas bersonol â ni
Dysgodd Iesu fod Duw am i’n perthynas ag ef fod yn ddwfn, yn ystyrlon ac yn bersonol. Mae’n berthynas sydd o’r pwys pennaf, yn y byd hwn a’r nesaf.
Creodd Duw y byd, ac rydym yn credu ei fod yn dal wrth ei waith ym mhrydferthwch y bywyd rydym yn ei weld ym mhobman o'n cwmpas. O ddechrau’r Beibl, rydym yn darllen fod dynoliaeth wedi troi cefn ar y berthynas gariadus roedd Duw’n ei dymuno. Byth ers hynny, nid yw Duw wedi peidio â’n galw yn ôl ato’i hun ac yn Iesu mae wedi gweithredu’n benodol i adfer y berthynas honno.
Iesu, y bont at Dduw
Carodd Duw y byd gymaint fel iddo, 2,000 o flynyddoedd yn ôl, anfon Iesu i’r ddaear i weithredu fel pont i’n cysylltu’n ôl â Duw. Trwy gydol ei fywyd, cafodd llawer o bobl eu denu at Iesu oherwydd ei fod yn arddangos daioni, cyfiawnder, cynwysoldeb, cariad, a charedigrwydd Duw. Roedd yn iachau’r cleifion, yn porthi’r newynog ac yn cynnig gobaith i’r diobaith.
Yn ail ran y Beibl Cristnogol, y Testament Newydd, darllenwn am fywyd Iesu ar y ddaear, ei farwolaeth ar y groes, ei atgyfodiad a'r dylanwad a gafodd ar ei ddisgyblion. Honiad unigryw Cristnogaeth yw fod Iesu yn fyw heddiw.
Trwy farwolaeth ac atgyfodiad Iesu, darparodd Duw ffordd i sicrhau na chawn ein dal yn gaeth mwyach gan bethau drwg neu bethau sydd wedi torri. Dywedodd y byddai ei ddilyn ef yn ein galluogi i gael bywyd yn ei holl gyflawnder, ac i wybod am ei gariad a’i faddeuant.
Addawodd Iesu i’w ddilynwyr, pan fyddai ein bywyd ar y ddaear drosodd, y byddai’r berthynas rydym wedi ei phrofi gyda Duw yn y byd hwn yn para y tu hwnt i farwolaeth ac am byth.
Sut alla i ddilyn Iesu?
Mae marwolaeth ac atgyfodiad Iesu yn darparu ffordd i ni gael perthynas ddofn a phersonol gyda Duw. Mae Cristnogion yn gwneud penderfyniad ymwybodol i fod yn y berthynas hon trwy ddewis dod yn ddilynwyr Iesu.
I rai, bydd gweddïo gweddi ar ddechrau’r bennod newydd hon yn eu bywyd yn help. Dyma weddi rydym yn ei hawgrymu i chi ei gweddïo; gall eich helpu i ddechrau ar eich taith fel Cristion:
Arglwydd Iesu Grist
Diolch i ti am dy garedigrwydd cariadus.
Mae’n ddrwg gen i am y pethau rydw i wedi eu gwneud a’m harweiniodd i ffwrdd oddi wrthyt ti
(efallai y byddwch am enwi rhai o’r pethau hynny).
Plîs maddau i mi.
Diolch i ti am farw ar y groes i bontio’r bwlch rhyngof i a Duw fel y gallaf gael maddeuant a rhyddhad.
Trwy dy Ysbryd Glân, tyrd i mewn i fy mywyd i a bydd gyda mi am byth.
Diolch i ti, Arglwydd Iesu.
Amen
Mae angen buddsoddi ym mhob perthynas – siarad a threulio amser gyda’ch gilydd, ac nid yw ein perthynas â Duw yn ddim gwahanol. Dyma rai awgrymiadau a all eich helpu i feithrin eich perthynas â Duw wrth i chi ddechrau dilyn Iesu.
Gweddi
Yn syml, siarad â Duw a gwrando arno yw gweddi. Does dim rhaid defnyddio geiriau mawr hir, byddwch yn gwbl agored a gonest. Os nad ydych chi’n gyfarwydd â gweddïo, gall y ddolen ganlynol fod o help:
Darllen y Beibl
Mae darllen y Beibl yn help i ddyfnhau ein perthynas â Duw. Mae’r Beibl nid yn unig yn gasgliad rhyfeddol ac ysbrydoledig o lyfrau, ond gall Duw siarad â ni yn bersonol a’n calonogi trwy ei eiriau.
Os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r Beibl, beth am ddechrau gydag un o’r Efengylau (Mathew, Marc, Luc, neu Ioan) sydd ar ddechrau’r Testament Newydd. Mae’r pedwar llyfr hwn yn adrodd stori bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu.
Weithiau gall y Beibl fod yn anodd i’w ddeall. Mae digon o lyfrau, gwefannau ac apiau a all eich help i’w ddarllen a’i ddeall yn well. Gall y ddolen isod fod yn lle da i ddechrau:
Ymuno ag Eglwys
Mae’n bwysig treulio amser gyda Christnogion eraill fel y gallwch chi addoli a dysgu am Dduw gyda’ch gilydd. Gall yr eglwys fod yn lle cyffrous ble y gallwch chi ddyfnhau eich perthynas â Duw a gwneud ffrindiau newydd. Mae’r eglwys hefyd yn lle y gallwch chi garu ac annog eich gilydd trwy brofiadau pleserus a thrist bywyd a rhannu cariad a gweithredodd da Iesu gyda’r byd ehangach.
I gael manylion eich eglwys leol a gwybod sut i gysylltu â’ch ficer lleol:
DOD O HYD I EGLWYS A CHYSYLLTU Â FICER