Côd ymarfer
Côd Ymarfer mewn perthynas â Gweinidogaeth Esgobion yn dilyn y Canon i alluogi Ordeinio Merched yn Esgobion
Egwyddorion
- Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo’n llawn ac yn ddigamsyniol i agor pob urdd o weinidogaeth i bawb, waeth beth eu rhyw. Deil fod pawb y mae’n eu hethol yn briodol, yn eu hordeinio’n ganonaidd ac yn eu penodi i swydd yn ddeiliaid gwir a chyfreithiol y swydd honno a’u bod yn haeddu dyledus barch ac ufudd-dod canonaidd.
- Rhaid i bawb sy’n gweinidogaethu yn yr Eglwys yng Nghymru fod yn barod i dderbyn bod yr Eglwys yng Nghymru wedi dod i benderfyniad clir ar y mater.
- Gan fod yr Eglwys yng Nghymru yn dal i rannu’r hen olyniaeth esgobol ag Eglwysi eraill, yn cynnwys Eglwysi eraill yn y Cymundeb Anglicanaidd, yr Eglwys Gatholig Rufeinig a’r Eglwysi Uniongred, sy’n parhau i ordeinio dynion yn unig yn offeiriaid ac esgobion, mae Mainc yr Esgobion yn cydnabod bod y penderfyniad hwn ar weinidogaeth a rhyw yn perthyn i broses ehangach o ddirnad a derbyn oddi mewn i’r Cymundeb Anglicanaidd a holl Eglwys Dduw.
- Mae’r rhai hynny yn yr Eglwys yng Nghymru na allant, ar sail argyhoeddiad diwinyddol a chydwybod, dderbyn gweinidogaeth sacramentaidd esgobion neu offeiriaid sy’n ferched, yn parhau i fod oddi mewn i sbectrwm dysgeidiaeth a thraddodiad y Cymundeb Anglicanaidd. Deil yr Eglwys yng Nghymru, felly, i fod yn ymrwymedig i alluogi ei holl aelodau i ffynnu yn ei bywyd a’i strwythurau fel pobl a dderbynnir ac a werthfawrogir. Gwneir darpariaeth briodol iddynt mewn modd a fwriedir i gynnal y raddfa uchaf bosibl o gymundeb a chyfrannu at gyd-ffyniant ledled yr Eglwys yng Nghymru.
- Gan fod yn rhaid i’r Côd Ymarfer fod yn ddigon cryf a hyblyg i ymateb i sefyllfa a fydd yn newid yn y dyfodol, a chan fod y Corff Llywodraethol wedi ymddiried i Fainc yr Esgobion y gwaith o gytuno ar Gôd a fydd yn rhwymo’r Fainc i wneud darpariaethau ar gyfer holl aelodau’r Eglwys yng Nghymru, mae’r Fainc yn cadw’r hawl i ddiwygio darpariaethau’r Côd hwn fel y bo angen yn y dyfodol.
Darpariaethau
- Os daw merch yn Esgob cadeiriol yn yr Eglwys yng Nghymru, cydnabyddir yn ddiamod a diymatal ei hawdurdod fel Esgob cadeiriol, fel y traethir ef yng Nghanonau a Chyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru.
- Ni fydd disgwyl i aelodau unigol o’r Eglwys yng Nghymru sydd, ar sail cydwybod, yn methu â derbyn gweinidogaeth sacramentaidd Esgob cadeiriol sy’n ferch, wneud hynny yn groes i’w cydwybod, ac fe wneir darpariaeth arall ar eu cyfer.
- Bydd yr Esgobion cadeiriol yn trefnu bod i’r cyfryw aelodau yn eu hesgobaethau bob darpariaeth resymol at weinidogaeth esgobol sacramentaidd briodol arall ar achlysuron pan fydd angen hynny, yn dilyn cais ysgrifenedig oddi wrth yr unigolion dan sylw gyda chefnogaeth eu hoffeiriad plwyf.
- Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru’n ymrwymo i fod ar gael i gynorthwyo’i gilydd i hwyluso darpariaeth o’r fath.
- Ni fydd yn rhaid i unrhyw Esgob ddwyn achos yn erbyn unrhyw aelod o’r Eglwys yng Nghymru am fod yr aelod hwnnw’n anghydweld, ar sail cydwybod, â darpariaethau’r Canonau i alluogi Ordeinio Merched yn Esgobion neu’n Offeiriaid.