Waith
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn treulio cyfran helaeth o’u bywyd yn y gwaith – p’un ai mewn swyddfa, ffatri, sefydliad cyhoeddus, yr awyr agored neu gartref. Mae’r gwahanol leoedd hyn yn dangos amrywiaeth fendigedig creadigaeth Duw ac amrywiaeth y rhoddion a’r galluoedd y mae Ef yn eu rhoi.
I Gristnogion, byd gwaith yw lle ceisiant ddarganfod beth mae’n ei olygu i fod yn ddisgybl i Iesu.
Wrth ofalu am eraill, trin adnoddau naturiol y ddaear neu weithio dros gyfiawnder cymdeithasol, mae ein hymdrechion dyddiol yn llawn cymaint rhan o’n disgyblaeth ag yw addoli mewn eglwys ar ddydd Sul. Beth bynnag yw’n safle yn y gwaith, rydym yn gyfrifol am y penderfyniadau a wnawn, y camau gweithredu a gymerwn a’r ffordd y byddant yn effeithio ar bobl eraill, un ai’n lleol neu’n fyd-eang. Credwn y bydd ein hymddygiad yn siarad cyfrolau am yr hyn a gredwn.
Mae’r rhannau dilynol o’r Beibl yn siarad am waith:
1 Corinthiaid 12:12-26
Mae Sant Paul yn ysgrifennu am amrywiaeth rhoddion a galluoedd sy’n ffurfio’r eglwys; mae ei ddisgrifiad yr un mor berthnasol i fyd gwaith. Meddyliwch pa roddion neilltuol y deuwch â hwy i’r gwaith a’u cymharu gyda rhai eich cydweithwyr. Nid oes angen i bawb gael yr un rhoddion; mae pawb ohonom yn cyfrannu rhywbeth gwahanol; mae pob rhodd yn werthfawr ac mae angen i ni gyd ddysgu gweithio gyda’n gilydd er budd pawb.
2 Corinthiaid 4: 6-10
Yma mae Sant Paul yn ysgrifennu am yr heriau yn ei waith fel pregethwr yn teithio o amgylch Môr y Canoldir. Nid yw’n ceisio rhedeg i ffwrdd oddi wrth yr anawsterau y mae’n eu hwynebu, ond y mae’n cymryd y da gyda’r drwg gan ddynodi’r tensiynau hyn gyda phatrwm marwolaeth ac atgyfodi. Beth yw’r heriau sy’n eich wynebu chi yn y gwaith? Fedrwch chi forio’r don?
Colosiaid 3:12-17
Nid yw ymagwedd y Cristion yn ymwneud â dydd Sul yn unig; mae’n effeithio ar bopeth a wnawn a phob diwrnod o’r wythnos. Gall popeth ddod yn destun gweddi. Mae pob gwaith o werth i Dduw. Mae angen i ni gynnig byd gwaith i Dduw.
Nid ydym yn credu …
- y bydd gweithio’n galetach yn ein cael i’r nefoedd. Cawn ein hachub gan rodd rad Duw o ras a dderbyniwn drwy ffydd, nid drwy ein hymdrechion ein hunain.
- fod ennill mwy neu fod yn fwy llwyddiannus o reidrwydd yn arwydd ein bod wedi ein bendithio gan Dduw. Medrir ennill a defnyddio llwyddiant a’i ddefnyddio mewn ffyrdd da a gwael, ac mae gan Dduw fwy o ddiddordeb yng nghyflwr ein calonnau nag yng nghyflwr ein cyfrifon banc.
- fod bod yn Gristion yn golygu y dylem ynysu ein hunain o weddill y byd. Fel Cristnogion, gelwir arnom i gymryd rhan lawn mewn bywyd, nid i wahanu ein hunain oddi wrtho.