Cwestiynau cyffredin
Ydi. Mae’r gair bedyddio yn golygu derbyn rhywun yn Gristion trwy fedydd. Yn draddodiadol, mae pobl yn tueddu i gysylltu hyn â bedyddio babanod.
Mae’ch eglwys leol yn ddelfrydol ar gyfer bedyddio’ch plant. Ond efallai bod cysylltiadau teuluol cryf gydag eglwys mewn plwyf arall. Dylech ofyn am ganiatâd eich Ficer/Rheithor lleol cyn cysylltu â phlwyf arall.
Mae llawer o’r addewidion y mae rhieni a rhieni bedydd yn eu gwneud mewn Bedydd yn awgrymu eich bod yn cymryd o ddifrif yr addewidion yr ydych chi’n eu gwneud o ddifrif. Mae’n bwysig, felly, teimlo’n rhan o’r gymuned Gristnogol leol y mae’ch plentyn yn cael ei fedyddio iddi. Efallai y bydd eich Ficer/Rheithor yn gofyn am ryw arwydd o’r ymroddiad hwnnw a dylech drafod y mater gydag ef/hi. Mae’r rhan fwyaf o blwyfi’n rhoi croeso cynnes i’r rhai sy’n dod â’u plant i gael eu bedyddio ac yn addo eu cefnogi i feithrin eu plant yn y Ffydd Gristnogol.
Nid oes rhaid talu am Fedydd. Fodd bynnag, mae teuluoedd yn aml am gynnig rhodd fel symbol o’u diolchgarwch a’u gwerthfawrogiad.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis teulu neu ffrindiau arbennig iawn y maen nhw’n teimlo y byddent yn Rhieni Bedydd da. Mae’r Eglwys yn gofyn bod Rhieni Bedydd yn Gristnogion wedi’u bedyddio ac, os yn bosibl, wedi’u conffyrmio fel aelodau o’r Eglwys. Unwaith eto, mae’r addewidion yn awgrymu bod y rhieni a’r Rhieni Bedydd wedi cael eu bedyddio eu hunain. Gallai hwn fod yn adeg o fyfyrio ac ystyriaeth ddwys ym mywyd y teulu. Siaradwch â’r clerigwyr lleol neu aelodau’r gynulleidfa a fydd am eich cefnogi a’ch annog. Byddai oedolion sydd am gael eu bedyddio’n cael eu paratoi i gael eu conffyrmio ar yr un pryd.
Bydd y gynulleidfa leol yn hapus i awgrymu Rhieni Bedydd o’r Gymuned Gristnogol a fydd yn ymdrechu i fod yn gefn i’ch plentyn yn ystod ei fywyd Cristnogol.
Mae’n bwysig bod Bedydd yn cael ei gynnal ar ôl paratoi a chynllunio trylwyr. Dylid cynnal bedydd yng nghyd-destun addoliad cyhoeddus, er mwyn mynegi’r syniad o fod yn perthyn i’r Teulu Cristnogol. Gallai hyn fod yng Nghymun y Plwyf neu mewn gwasanaeth Bedydd cyhoeddus misol y gwahoddir aelodau’r gymuned iddo.
Bydd eich clerigwyr lleol yn ystyriol iawn o’ch ymholiad ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’ch cynorthwyo, eich croesawu a’ch annog.
Trafodwch y mater gyda’ch offeiriad Plwyf a fydd yn eich cynghori. Bydd yn deall ac yn gwneud ei g/orau i’ch helpu.
Mae’r Eglwys yn hapus i’ch croesawu chi a’ch plentyn / plant i wasanaeth o ddiolchgarwch am eu bywydau. Gellir cynnal y diolchgarwch hwn hefyd yng nghyd-destun addoliad cyhoeddus. Gall fod yn ddathliad o fywyd y plentyn a’ch cariad teuluol. Fodd bynnag, mae’n rhaid ei gwneud yn glir nad yw’n cyfleu’r aelodaeth Gristnogol a’r ymroddiad gydol oes sy’n digwydd yn nyfroedd y Bedydd.
Esgob yr Esgobaeth sy’n penderfynu ar yr oedran ieuengaf ar gyfer conffyrmasiwn. Fodd bynnag, mae mwy a mwy yn tueddu i gael eu Conffyrmio’n ddiweddarach pan yn hŷn. Mae nifer cynyddol o blwyfi’n darparu ar gyfer derbyn plant i’r Cymun Bendigaid cyn Conffyrmasiwn, ar ôl y paratoad cywir. Bydd angen i chi ofyn i’ch Ficer/Rheithor. Mae Conffyrmasiwn diweddarach yn aml yn mynegi mwy o ymroddiad i Grist ar ran yr unigolyn.
Mae gan lawer o Eglwysi stondinau llyfrau ac anrhegion lle gallech ddewis llyfr neu Feibl. Cewch hefyd yno gasgliadau o weddïau i blant, hanesion o’r Beibl, croesau, croesluniau a phosteri deniadol, teganau symudol a llawer o eitemau eraill. Gofalwch eich bod yn dilyn anrheg o’r fath trwy annog bywyd Cristnogol newydd y plentyn. Os hoffech chi wybod lle i chwilio am anrhegion a deunydd, siaradwch â’r clerigwyr lleol.
Mae Bedydd eich plentyn yn gyfle gwych i chi wneud ymroddiad ac addewidion i’ch plentyn ac i chi’ch hunain. Trafodwch y mater gyda’ch Ficer/Rheithor a fydd yn falch i’ch helpu a’ch cynorthwyo.