Conffyrmasiwm – cwestiynau cyffredin
Gofynnwch i’ch offeiriad lleol. Bydd yn gallu rhoi gwybod i chi pryd y cynhelir grwpiau paratoi.
Nac oes, byddwch yn gallu penderfynu os ydych chi am gael eich conffyrmio ai peidio. Mae’n rhaid i chi fod yn sicr yn eich meddwl eich hun eich bod yn barod i wneud yr ymroddiad a bod yn rhan o’r eglwys leol.
Siaradwch â’ch offeiriad. Hwyrach y gall wneud trefniadau arbennig i gyd-fynd â’ch amserlen waith.
Mae’n iawn i chi fod ag amheuon ac nid oes rhaid i chi gredu popeth! Gallwch rannu’ch amheuon gyda’ch offeiriad a thrafod a ydych chi’n barod i gael eich conffyrmio neu a ddylech chi bwyllo. Pan fyddwn ni’n adrodd y Credo, rydyn ni’n disgrifio’r hyn mae’r Eglwys yn ei gredu ac rydyn ni i gyd yn tyfu i mewn i’r ffydd honno. Nid prawf personol yw diben conffyrmasiwn, ond yn hytrach cydnabyddiaeth o’r ffydd a drosglwyddwyd o oes i oes.
Nac oes.
Fel rheol, mae oedolion yn cael eu bedyddio a’u conffyrmio ar yr un pryd. Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod bod angen i rai wneud pethau un cam ar y tro, felly trafodwch y mater gyda’ch offeiriad.
Efallai y bydd eich offeiriad yn gallu’ch helpu i wirio’r cofnodion bedydd. Os na allwch chi brofi eich bod wedi cael eich bedyddio, gellir eich bedyddio’n ‘amodol’ ac mae hyn yn digwydd yn breifat cyn y Conffyrmasiwn fel rheol.
Na, ni allwch chi gael eich conffyrmio eto, ond gallwch fynychu’r cwrs paratoi ar gyfer conffyrmasiwn ac adnewyddu’ch addewidion bedydd yn y Gwasanaeth Conffyrmasiwn a bydd yr Esgob yn gweddïo drosoch.
Mae croeso bob amser i chi addoli gyda ni heb gael eich conffyrmio, ond os ydych chi’n bwriadu addoli gyda ni’n rheolaidd, efallai y teimlwch chi fod conffyrmasiwn yn rhoi mwy o deimlad o berthyn i chi.
Oes. Gall rhywun ymweld â chi yn eich cartref i’ch cynorthwyo i baratoi ar gyfer Conffyrmasiwn. Bydd yr Esgob yn eich conffyrmio yn eich cartref eich hun a bydd rhywun o’ch eglwys leol yn dod â Chymun Sanctaidd i chi’n rheolaidd.
Yr Esgob yw prif weinidog ac athro’r esgobaeth ac yn draddodiadol, nid yw’n dirprwyo conffyrmasiwn i’r clerigwyr eraill. Mae’n rhoi cyfle i chi gyfarfod yr esgob sy’n gysylltiedig â’r apostolion yn sgil ei ordeiniad a’i swydd.