Cwestiynau cyffredin
Yr arfer yw ymgynghori ag Ymgymerwr Angladdau, a fydd yn rhoi cyngor ar holl agweddau ymarferol yr Angladd, yn gwneud y cysylltiad cyntaf ag offeiriad neu weinidog ar eich rhan, ac yn trefnu’r holl daliadau sydd angen eu gwneud. Yna, bydd yr offeiriad neu weinidog yn ymweld â chi i drafod manylion yr Angladd a chynnig gofal bugeiliol i chi a’ch teulu. Efallai y bydd y sawl sydd wedi marw wedi gadael cyfarwyddiadau ar gyfer yr Angladd yn ei ewyllys neu ar wahân. Os felly, dylid hysbysu’r Ymgymerwr Angladdau a’r offeiriad neu weinidog beth yw ei ddymuniadau.
Gan fod y tir sydd ar gael ar gyfer claddedigaethau yn gynyddol brin, mae’n debyg y bydd eich dewis wedi’i gyfyngu. Mae llawer o fynwentydd yn llawn, ac nid yw’n bosibl claddu unrhyw un arall yno. Os oes lle, cynigir yr hawl i gladdedigaeth i’r rhai sy’n preswylio neu’n marw yn y Plwyf. Gall yr Offeiriad Plwyf roi caniatâd i rywun gael ei gladdu yn y fynwent os oes rhesymau da dros wneud hynny. Yr un yw’r broblem i gladdfeydd trefol ac maen nhw’n cyflwyno rheoliadau tebyg. Mae’r sefyllfa o ran gweddillion a amlosgwyd (ar ôl amlosgi’r corff mewn amlosgfa o’ch dewis) yn haws. Bydd a oes lle ar gael yn dibynnu ar bob mynwent yn unigol a gall yr Offeiriad Plwyf eich cynghori.
Os bydd Gweinidog neu Ddarllenydd trwyddedig yn cymryd yr Angladd, dim ond y gwasanaeth a gymeradwyir gan yr Eglwys yng Nghymru y caniateir iddo gymryd. Fodd bynnag, mae’n bosibl yn aml ychwanegu ato ar gais y teulu, e.e. trwy gynnwys hoff ddarlleniad nad yw o’r Beibl, trwy roi teyrnged bersonol, trwy ychwanegu emynau a chaneuon o’ch dewis, a thrwy ddod â gwrthrychau neu symbolau sy’n gysylltiedig â’r ymadawedig. Hefyd, mae’r gwasanaeth yn cynnwys sawl dewis, a gall y teulu drafod pa ddarlleniadau, gweddïau ac ati y dylid eu defnyddio gyda’r gweinidog.
Cyngor Eglwys y Plwyf sy’n gyfrifol am gadw’r ardal yn daclus a diogel yn gyffredinol, ac mae’n rhaid i’r Cyngor ddefnyddio’r arian a delir pan fydd bedd yn cael ei dorri neu pan fydd carreg fedd yn cael ei gosod ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y fynwent. Mae’n rhaid i deulu a ffrindiau’r ymadawedig ofalu am feddau penodol. Os bydd carreg fedd yn ansad, bydd y Cyngor yn ceisio dod o hyd i deulu’r ymadawedig i’w thrwsio. Os na all y Cyngor ddod o hyd i’r teulu, mae’n rhaid iddo sicrhau bod y bedd yn ddiogel – gallai hyn olygu ei rhoi i orwedd yn wastad, ond cyfrifoldeb y teulu wedyn yw cael gwared ar y garreg neu ei hailosod yn ddiogel. Gall y Cyngor godi ar y teulu am y gwaith hyn.
Mae Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru’n diffinio pa fath a maint o gofeb y gellir ei gosod i nodi claddfa a safle gweddillion. Mae’r rhain yn nodi’r cyfyngiadau y gall yr Offeiriad Plwyf neu’r Archddiacon eu hawdurdodi. Ni ellir codi unrhyw gofeb sydd y tu hwnt i’r cyfyngiadau hyn heb ganiatâd y Canghellor Esgobaethol. Gall yr Offeiriad Plwyf eich cynghori ar y cyfyngiadau hyn a rhoi’r ffurflen gais berthnasol i chi godi neu addasu cofeb, yn ogystal â’ch cynghori ar drefn y Gyfadran, os oes angen. Yn gyffredinol, ni anogir cofebion sydd y tu allan i’r cyfyngiadau arferol.
Ni ellir cadw llain ar gyfer cael eich claddu yn y dyfodol heb ganiatad y Canghellor Esgobaethol. Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y gellir cadw llain fel hyn, ac nid yw’n gwarantu pa fath o gofeb y gellir ei chodi.
Dewis personol yw pa fath o arch a ddewisir, ac felly mae arch sy’n ystyriol o’r amgylchedd sydd wedi’i gwneud o bren helyg neu gardfwrdd wedi’i ailgylchu’n dderbyniol. Mae rhai Plwyfi’n dewis dynodi rhannau o’u mynwentydd yn ardaloedd ‘gwyrdd’ lle na fydd beddau’n cael eu nodi gyda cherrig beddau ac ati (er y bydd angen rhyw ffordd o ddod o hyd i’r lleoliad). Ni chaiff nodi bedd trwy blannu coeden ei annog oherwydd y cyfrifoldebau hirdymor sydd ynghlwm wrth ofalu am y coed hynny.