Priodasau a Bendithio Priodas
Doedd yr un ohonon ni’n mynd i’r eglwys, ac roedden ni wrthi’n ystyried ein hopsiynau o ran lleoliad ar gyfer ein priodas. Fe aethom ni i weld ficer Eglwys Sant Denys, Llys-faen ac fe syrthion ni mewn cariad â’r eglwys. Roedden ni’n teimlo’n gyffyrddus hefyd gyda’r ficer a’r broses o briodi mewn eglwys. Doedden ni ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl felly fe benderfynon ni ymuno ag un o’u Cyrsiau Alffa cyn diwrnod ein priodas. Roedd pawb yn yr eglwys yn gyfeillgar a chefnogol iawn ac roedden ni’n teimlo’n gyffyrddus. Yn nes at y diwrnod mawr, fe fu’r ficer yn ein helpu i lunio’r gwasanaeth priodasol, ac roedd y diwrnod ei hun yn berffaith. Rydyn ni nawr yn mynychu Eglwys Sant Denys yn rheolaidd ac yn teimlo’n gymaint o ran o deulu’r eglwys.Mark a Laura Aherne (Eglwys Sant Denys, Llys-faen)
Eich priodas
Rydym ni’n credu bod priodas yn rhodd gan Dduw a bod priodi yn ymrwymiad hardd, personol ac ysbrydol. Byddem wrth ein bodd yn eich helpu i wneud diwrnod eich priodas mor gofiadwy â phosibl.
Mae diwrnod eich priodas yn debyg o fod yn un o ddigwyddiadau hapusaf a mwyaf cofiadwy eich bywyd, ac ym mywydau eich teulu a’ch ffrindiau. Byddem wrth ein bodd pe baech chi’n dewis cynnal eich seremoni briodasol yn un o’n heglwysi hardd, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud eich priodas mor arbennig â phosibl.
Yn yr adran hon, gallwch ddysgu beth ddylech chi ei ystyried wrth i chi ddechrau cynllunio a pharatoi ar gyfer eich priodas yn yr Eglwys yng Nghymru.
Bydd priodi yn un o’n heglwysi, llawer ohonyn nhw’n adeiladau rhestredig, nid yn unig yn golygu y bydd eich seremoni’n cael ei chynnal mewn rhai o leoliadau mwyaf hardd ac unigryw Cymru, ond bydd hefyd yn golygu y bydd eich seremoni briodasol yn llawn dyfnder ac ysbrydolrwydd. Fel rhan o’r gwasanaeth priodas byddwn yn gofyn i Dduw eich bendithio chi a’ch tywys wrth i chi ddechrau ar eich bywyd priodasol, ac yn gweddïo y bydd Duw yn gwmni i chi ar eich taith drwy fywyd.
Bydd ein ficeriaid a’u timau’n treulio amser yn dod i’ch adnabod cyn eich diwrnod mawr fel y gallan nhw eich helpu i wneud eich dathliad priodas yn un unigryw. Mae yna sawl ffordd o wneud hynny, ac mae amrywiaeth eang o weddïau, darlleniadau, emynau, caneuon a cherddoriaeth ar gael i chi. Rydym wedi cynnwys rhai awgrymiadau i chi isod. Yn ogystal ag elfennau penodedig y seremoni gallwch ychwanegu rhai geiriau ac addewidion ychwanegol i rannu gyda’ch gilydd - chi piau’r dewis.
Mae yna rai gofynion cyfreithiol ar gyfer priodi yn un o eglwysi yr Eglwys yng Nghymru ond peidiwch â phoeni, fe drafodwn ni bopeth gyda chi.
Mae llawer o eglwysi’n cynnig cyrsiau paratoi i’ch helpu i fod yn barod am briodas. Weithiau maen nhw’n cynnwys cyfarfod â’ch ficer, neu aelodau eraill o dîm yr eglwys. Yng nghyd-destun ein bywydau prysur, mae cyrsiau paratoi o’r fath yn ein helpu i neilltuo amser pwysig i ystyried bywyd priodasol a pharatoi ar ei gyfer.
Diolch am ystyried yr Eglwys yng Nghymru wrth i chi baratoi ar gyfer eich diwrnod arbennig. Gweddïwn y bydd yn gwireddu’ch holl obeithion.
Bendithio Priodas
Byddai'n bleser gan yr Eglwys yng Nghymru eich helpu chi ar achlysur bendithio eich priodas.
Mae llawer o gyplau sydd wedi cael priodas sifil, boed yn y DU neu dramor, hefyd yn dewis cysegru eu priodas i Dduw.
Fel arfer mae gwasanaeth bendithio priodas yn syml ac yn cydnabod yr ymrwymiad y mae’r pâr priod eisoes wedi ei wneud yn eu seremoni sifil. Mae'n gofyn am fendith Duw arnyn nhw, ac am arweiniad ar gyfer eu bywyd newydd gyda'i gilydd.
Os hoffech chi drefnu bendith ar gyfer eich priodas sifil, does yna ddim gofynion cyfreithiol, ac mae’n agored i bawb, gan gynnwys cyplau o'r un rhyw. Gan nad yw'n wasanaeth priodas, does dim angen gostegion, a does dim gwaith papur na chofrestr gyfreithiol i'w llofnodi.
Gall gwasanaeth i fendithio priodas deimlo’n debyg i briodas gydag emynau a chaneuon, darlleniadau, blodau a chlychau hefyd os oes rhai ar gael. Mae’n well gan rai gael bendith sy’n debyg iawn i briodas draddodiadol, gydag eraill yn ffafrio gwasanaeth llai ffurfiol.
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch eglwys neu eich ficer lleol. Bydd pob croeso i chi ddod i gael sgwrs am yr hyn sy’n bosib, a thrafod pa fath o fendith priodas y gallech ei chael.
Cynllunio’ch priodas
Dilynwch y dolenni hyn i gael rhagor o gymorth a chyngor am eich priodas.