Gofynion cyfreithiol
Mae gennych hawl i briodi yn eich eglwys blwyf leol. Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i briodi mewn plwyfi eraill lle mae gennych chi neu eich teulu gysylltiad.
Mae’r gyfraith yn mynnu bod o leiaf un o’r rhai sy’n priodi:
- yn byw yn y plwyf lle cynhelir y briodas; neu
- wedi ei gofrestru ar rôl etholwyr yr eglwys (sef rhestr aelodaeth y bobl sy’n addoli’n gyson yn y plwyf); neu
- â ‘chysylltiad cymwys’.
Yn ôl Deddf Priodas (Cymru) 2010 mae’n rhaid sicrhau un (neu fwy) o’r canlynol er mwyn dangos ‘cysylltiad cymwys’:
- eich bod wedi cael eich bedyddio neu eich conffyrmio yn y plwyf;
- eich bod chi wedi byw yn y plwyf am o leiaf chwe mis ar unrhyw adeg;
- bod un o’ch rhieni wedi byw yn y plwyf am o leiaf chwe mis ar unrhyw adeg yn ystod eich bywyd chi;
- eich bod chi wedi mynychu addoliad yr Eglwys yng Nghymru yn y plwyf am o leiaf chwe mis ar unrhyw adeg yn ystod eich bywyd chi;
- bod un o’ch rhieni chi wedi mynychu addoliad yr Eglwys yng Nghymru yn y plwyf am o leiaf chwe mis ar unrhyw adeg yn ystod eich bywyd chi;
- bod un o’ch rhieni neu dad-cu neu fam-gu wedi priodi yn y plwyf.
Mae’n rhaid bod o leiaf yn un deg deunaw mlwydd oed er mwyn priodi.
Mae canllawiau arbennig ar briodi mewn eglwys os ydych chi wedi ysgaru a’ch cyn-briod yn fyw o hyd.
Yn achos y rhan fwyaf o barau sydd am briodi yn yr Eglwys yng Nghymru darllenir eu gostegion ychydig amser cyn i’r seremoni ddigwydd. Mae hon yn broses seml pan fydd yr offeiriad yn gwneud datganiad cyhoeddus am eich bwriad i briodi mewn gwasanaethau ar dri Sul canlynol. Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau sy’n golygu bod rhyw fath o drwydded, fel Trwydded Gyffredin neu Drwydded Arbennig, yn fwy addas. Bydd eich offeiriad lleol yn eich cynghori ar hyn. Ceir rhagor o wybodaeth am y camau cyfreithiol ynghylch priodas ar wefan y Swyddfa Hawlebau.
Os ydych chi’n ystyried priodi mewn eglwys, dylech gysylltu â’ch offeiriad plwyf yn y lle cyntaf. Fel rheol mae manylion cyswllt yr offeiriad ar hysbysfwrdd yr eglwys. Gallwch hefyd ddod o hyd i’r manylion hyn drwy’r teclyn ‘Dod o hyd i Eglwys’.
Mae'r gofynion cyfreithiol ar gyfer priodas yn y Gadeirlan yn wahanol (ac yn llymach). Cysylltwch â Swyddfa’r Gadeirlan berthnasol am ragor o wybodaeth.