100 mlynedd o wasanaethu Cymru
Mae’r Eglwys yng Nghymru’n paratoi i ddathlu can mlynedd o wasanaethu Cymru iddi nesáu at flwyddyn ei chanmlwyddiant.
Yn 1920, daeth yr Eglwys yng Nghymru yn rhan annibynnol o’r Cymundeb Anglicanaidd ar ôl canrifoedd o fod yn rhan o Eglwys Loegr. Yr enw ar y broses oedd ‘datgysylltiad’ gan ei fod yn torri’r cyswllt rhwng eglwysi Cymru a’r wladwriaeth trwy ddeddf hanesyddol, Deddf yr Eglwys yng Nghymru.
Bydd blwyddyn y canmlwyddiant yn dechrau eleni ar Sul yr Adfent (1 Rhagfyr 2019), dechrau’r flwyddyn Gristnogol. Ymysg y digwyddiadau i nodi’r garreg filltir bydd gwasanaethau dathlu ym mhob un o chwe chadeirlan yr Eglwys ar 7 Mehefin ac ymweliad gan Archesgob Caergaint ym mis Ebrill. Mae Apêl y Canmlwyddiant hefyd wedi ei lansio gyda’r nod o godi £100,000 ar gyfer dwy elusen dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd Archesgob Cymru, John Davies, “Yr Adfent yw dechrau’r flwyddyn Gristnogol, ac i’r Eglwys yng Nghymru mae 2020 yn flwyddyn bwysig iawn gan mai dyma’n canmlwyddiant fel talaith yn y Cymundeb Anglicanaidd. Byddwn yn dathlu’r pen-blwydd hanesyddol trwy gydol y flwyddyn mewn eglwysi a chymunedau ledled Cymru ac rwy’n gwahodd pawb i ymuno â ni i ddatgan diolch a chanmoliaeth am y brawdgarwch y buom yn ei rannu dros y blynyddoedd gan ymrwymo ar yr un pryd i ddyfodol wedi ei adnewyddu gyda gobaith a hyder.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Taleithiol, Simon Lloyd, “Mae’r Eglwys yng Nghymru’n ymwneud â bywyd cymunedol ym mhob rhan o Gymru – mewn dinasoedd, trefi a phentrefi, yn y ddwy iaith ac ymhlith pobl o bob oed. Rydym yn croesawu pawb. Mae’r canmlwyddiant yn gyfle i rannu’n stori a’n bywyd gyda’n ffrindiau, ein cymdogion a’n cenedl.”
Dathliadau
O gân gan rapiwr ac ymgyrch ddigidol i waith corawl newydd a gwasanaethau dathlu, mae canfed pen-blwydd yr Eglwys yn cael ei ddathlu mewn llu o wahanol ffyrdd.
Bydd pob un o chwe chadeirlan yr Eglwys yn cynnal gwasanaeth dathlu ar un pryd, ar 7 Mehefin. Am y tro cyntaf yn hanes yr Eglwys yng Nghymru bydd yn cynnwys gwasanaeth - y litwrgi - a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn Gymraeg ac yna'i gyfieithu i’r Saesneg, gan alluogi elfennau o’r traddodiad barddonol Cymraeg i gael ei blethu drwyddo. Bydd gwaith newydd o gerddoriaeth gorawl, a gomisiynwyd gan gyfansoddwr Cymreig, hefyd yn cael ei ganu yn ystod y gwasanaeth.
Un arall o uchafbwyntiau’r flwyddyn fydd taith trwy Gymru gan Archesgob Caergaint, Justin Welby. Bydd yn bresennol yng nghyfarfod Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn Llandudno ym mis Ebrill, ymweld â menter esgobol newydd, Stryd Gobaith, yn Wrecsam, gwneud pererindod i allor Dewi Sant yng Nghadeirlan Tyddewi a gweld canolfan deuluol sy’n cael ei rhedeg gan yr Eglwys - Ffydd mewn Teuluoedd - wrth ei gwaith yn Abertawe.
Trwy gydol y flwyddyn, bydd eglwysi lleol yn trefnu digwyddiadau ac arddangosfeydd y canmlwyddiant tra bod adnoddau print a ffilm yn cael eu gwneud i ddangos y cyfraniad y mae ffydd yr Eglwys a’i gweithgaredd yn eu gwneud i fywyd yng Nghymru.
Caiff y canmlwyddiant ei nodi yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda thrafodaeth panel ar sut y mae'r Eglwys wedi gwasanaethu Cymru ers 2910 a pha wersi sydd gan yr eglwys ddatgysylltiedig ar gyfer llywodraeth ddatganoledig heddiw. Mae'r Eglwys hefyd yn noddi Gwobr Celfyddydau Gŵyl Coda am waith newydd yn rhoi sylw i newid hinsawdd, Cenedl Noddfa a gwaith Cymdeithas y Cymod yng Nghymru.
Mae cynlluniau ar droed ar gyfer derbyniad yn y Senedd i arddangos agweddau o fywyd yr Eglwys.
Bydd efengyliaeth yn thema allweddol i’r canmlwyddiant. Ceir ymgyrch cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys rap Beiblaidd gan gerddor Cristnogol, Guvna B. Mae’r Eglwys hefyd wedi cydweithio gyda’r elusen Gristnogol GOBAITH Ynghyd / HOPE Together i gynhyrchu llyfryn efengylu dwyieithog, am ddim, i’r eglwysi ei ddosbarthu. Bydd pobl sy’n dymuno darganfod mwy am ffydd a gwasanaethau'r eglwys yn cael cymorth gwefan â’i phwyslais ar genhadaeth sy’n cael ei lansio gan yr Eglwys yng Nghymru ym mis Rhagfyr.
Yn y cyfamser, bydd llyfr carreg filltir sy’n rhoi hanes diweddaraf yr Eglwys yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi. Mae A New History of the Church in Wales yn cael ei olygu gan Norman Doe, Athro’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ac arbenigwyr ar y gyfraith ganonaidd. Mae’n cynnwys penodau gan glerigwyr sy’n gwasanaethu a rhai wedi ymddeol yn ogystal ag arbenigwyr lleyg a bydd yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Caergrawnt.
Bydd codi arian ar gyfer Apêl y Canmlwyddiant, a lansiwyd ym mis Medi, yn parhau. Mae’r Apêl yn ariannu dau brosiect penodol dros bum mlynedd, un gartref a’r llall dros y môr: bydd Cyfiawnder Tai Cymru yn gweithio gydag eglwysi i ddatblygu llochesi nos ar gyfer pobl ddigartref ym misoedd y gaeaf; bydd Cymorth Cristnogol yn cefnogi gwaith adeiladu-heddwch Eglwys Esgobol De Sudan. Yr apêl hon yw ymgyrch ddigidol gyntaf yr Eglwys i godi arian, sy’n galluogi pobl i gyfrannu ar eu ffonau symudol trwy Instagiv.
Gallwch gael cipolwg hynod ddiddorol ar ddechrau bywyd yr Eglwys yng Nghymru mewn dwy ffilm o orseddu Archesgob cyntaf Cymru, Alfred George Edwards, yng Nghadeirlan Llanelwy ar 1 Mehefin 1920. Maen nhw’n dangos y Prif Weinidog ar y pryd, David Lloyd George, Cymro oedd wedi ymgyrchu’n hir dros ddatgysylltu ac a helpodd i i sicrhau Deddf yr Eglwys yng Nghymru yn 1914 a ddaeth a hyn i fodolaeth. Edrychwch ar y dolenni canlynol: