Negeseuon Nadolig gan ein hesgobion
Archesgob Cymru ac Esgob Bangor
Mae'r Archesgob Andrew John yn cydnabod y gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd a phoenus i'r rhai sy'n unig neu'n galaru. Ond mae neges Duw yn un o obaith ac mae'n ein hannog ni i chwilio am arwyddion o oleuni, cariad a llawenydd
Esgob Llanelwy
Mae’r Esgob Gregory Cameron yn ein hannog i fynd i’r afael â ‘rhannau ystyfnig’ ein bywydau, trwy fyw yn fwy caredig a hael, fel gwnaeth Scrooge newid yn ‘A Christmas Carol’ gan Dickens.
Esgob Mynwy
Y weithred fach o garedigrwydd a thrugaredd, yr arwydd dinod o haelioni dihunan, y bywyd o ddaioni a ffyddlondeb, ac o addoliad a gweddi. Yn y pethau ymddangosiadol amherthnasol hyn y mae Duw yn datgelu ei hun ac yn cyffwrdd y byd mewn cariad a bendith, meddai’r Esgob Cherry Vann.
Esgob Abertawe ac Aberhonddu
Gall popeth newid ar amrantiad os clywn y curo ar y drws ac yn agor ein calonnau i'r Un a fydd yn gwneud ein Nadolig yn wirioneddol gyflawn, meddai'r Esgob John.
Esgob Llandâf
Ein galwad adeg y Nadolig yw bod yn gwbl fyw i bresenoldeb Duw, meddai’r Esgob Mary Stallard. Nid pacio Crist i ffwrdd ar ôl y dathliadau yw ein her ond ei gadw gyda ni bob amser.
Esgob Tyddewi
Mae Iesu’n cynnig inni heddwch, llawenydd, gobaith a bywyd ei hun – rhinweddau sydd eu hangen yn fawr ar y byd ar yr adeg hon, meddai’r Esgob Dorrien Davies.
Esgob Enlli
Yr Esgob David Morris yn talu teyrnged i griwiau ambiwlans Cymru, swyddogion heddlu, diffoddwyr tân a gwirfoddolwyr sy'n aberthu eu dathliadau Nadolig i gadw cymunedau'n ddiogel. Mae stori'r Nadolig yn siarad â'r rhai sydd dan bwysau, meddai.