Gweddi ar gyfer Dydd Coffáu’r Holocost
27 Ionawr yw’r dydd i bawb gofio am y chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn yr Holocost a’r miliynau o bobl a laddwyd gan ormes y Natsïaid, ynghyd â’r hil-laddiadau a ddigwyddodd wedyn yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Mae 27 Ionawr yn nodi gwaredigaeth Auschwitz Birkenau, gwersyll marwolaeth mwyaf y Natsïaid.
Eleni, y thema ar gyfer Dydd Coffáu’r Holocost yw ‘bregusrwydd rhyddid’.
Mae‘r Cyngor Cristnogion ac Iddewon wedi ysgrifennu’r weddi isod i adlewyrchu’r thema hon ac felly, gan ddilyn yr arweiniad hwn, mae’r Eglwys yng Nghymru yn annog Cristnogion i nodi Dydd Coffáu’r Holocost drwy arfer y geiriau hyn.
Bregusrwydd Rhyddid
Dduw tragwyddol, deuwn ger dy fron, yn ymwybodol bod rhyddid yn beth bregus, er mwyn cofio am bawb a ddioddefodd yn yr Holocost.
Galarwn y golled o’r chwe miliwn o Iddewon a laddwyd yn yr Holocost, y miliynau o bobl eraill a ddioddefodd dan ormes y Natsïaid, ynghyd â phawb sydd wedi dioddef yn sgil hil-laddiadau eraill.
Wrth i ni gofio am y gorffennol, cynorthwya ni heddiw i arfer y rhyddid sydd gennym i amddiffyn y rhai y cymerir eu rhyddid oddi arnynt.
Gweddïwn am ddydd pan fydd pawb yn rhydd i fyw mewn tangnefedd, undod a chariad.
Amen.