Rali fawr dros gyfiawnder hinsawdd
Sicrhewch fod eich llais yn cael ei glywed ar gyfiawnder hinsawdd trwy ymuno â rali gyda miloedd o bobl eraill mewn dinasoedd ledled y byd ar Dachwedd 6, meddai Dyfed Roberts o Gymorth Cristnogol yng Nghymru.
Yr argyfwng hinsawdd yw pwnc pwysicaf ein dydd. Mae mynd i’r afael ag ef yn fater o frys a does dim amser i’w golli. Gall pob ohonom wneud ein rhan - yn wir, RHAID i bob un ohonom wneud ein rhan. Ond rhaid i’n llywodraeth weithredu’n sylweddol hefyd. Mae angen arnom gyfiawnder hinsawdd i’r gwledydd tlawd sy wedi gwneud cyn lleied i greu’r argyfwng sydd yn eu hwynebu nawr.
Ar 6 Tachwedd cynhelir ralïau mewn dinasoedd o amgylch y byd. Bydd sawl un yng Nghymru hefyd ac mae Cymorth Cristnogol yn galw ar i’w gefnogwyr fod yn bresennol. Cynhelir prif raliau Cymru yng Nghaerdydd a Bangor.
Ynghyd â Tearfund a CAFOD, bydd Cymorth Cristnogol yn cynnal cwrdd gweddi a pharatoi cyn y ddwy rali a bydd cefnogwyr yn cyfarfod yn Eglwys Dewi Sant yng Nghaerdydd ac Eglwys Emaus, Bangor. Bydd hyn yn gyfle i Gristnogion ymgasglu, gweddïo a chasglu eu placardiau ar gyfer y rali.
Mae amser yn treulio. Ond gallwn wneud gwahaniaeth cadarnhaol o hyd.
Os am fwy o wybodaeth am y rali ym Mangor, cysylltwch â swyddfa Cymorth Cristnogol os gwelwch yn dda ar 029 2084 4646 neu e-bostio cymru@cymorth-cristnogol.org