Galw adfent i weddi dros Gymru
Mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn gwahodd pobl i ymuno â nhw mewn gweddi dros y genedl bob diwrnod yn Adfent.
Gwahoddant bobl o bob ffydd a thraddodiad i weddïo gyda nhw bob nos am 6pm o ddydd Sul yr Adfent, ar 29 Tachwedd, i Ddydd Nadolig.
Mae eu gweddi yn gofyn am iachâd a bendith Duw ar Gymru yn ystod cyfnodau tywyll, megis y pandemig.
Mewn llythyr ar y cyd i’r genedl, dywed y chwe esgob: “Mae Cristnogion yn credu fod goleuni Duw (goleuni gwirionedd, goleuni cyfiawnder, goleuni cariad) yn disgleirio yn y byd, a pha bynnag mor dywyll y gall bethau ddod, p’un ai oherwydd COVID neu drafferthion ac anawsterau eraill, mae bob amser obaith yn naioni a chariad Duw.”
Gan gydnabod nad yw pawb yng Nghymru yn rhannu’r gred hon a gan barchu eu credoau, mae’r esgobion yn gwahodd pobl i addasu eu gweddi neu ddim ond uno yn ei hysbryd.
Dywedant, “Rydym yn sicr fod yr iachâd, y nerth, y tosturi a’r dewrder y byddwn yn gweddïo amdanynt yn bwysig i bawb, p’un ai ydynt yn bobl o ffydd ai peidio. Beth bynnag ein credoau, gallwn i gyd ddymuno llawenydd a lles i bawb yng Nghymru y tymor hwn.”