Achos Llys Anthony Pierce
Mae Anthony Pierce, oedd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu rhwng 1999 a 2008, wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ac wedi cyfaddef pump achos o ymosodiad anweddus ar blentyn gwrywaidd o dan 16 oed. Mae'r troseddau'n dyddio o’r cyfnod rhwng 1985 a 1990 pan oedd Mr Pierce yn offeiriad plwyf yn West Cross, Abertawe.
Y mae Mr Pierce wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ac y mae Mawrth 7fed wedi cael ei benodi, yn amodol fel dyddiad ar gyfer ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.
Daeth yr honiadau at sylw'r Eglwys yng Nghymru yn 2023 pan wnaeth y goroeswr ddatgelu gwybodaeth i Swyddog Diogelu'r Eglwys yng Nghymru. Cafodd y datgeliad ei basio i'r Heddlu ar unwaith, a gweithiodd yr Eglwys yng Nghymru yn agos gyda'n partneriaid statudol wrth i'r achos gael ei ymchwilio a'i erlyn. Yn dilyn dedfrydu troseddol, bydd Tribiwnlys Disgyblu'r Eglwys yng Nghymru yn ystyried camau priodol pellach.
Rydym yn cydnabod dewrder y goroeswr wrth ddod ymlaen ac rydym yn diolch i'r Heddlu, I Wasanaeth Erlyn y Goron ac i'r Awdurdod Lleol am eu gwaith gofalus yn yr achos hwn.
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi'i brawychu gan y troseddau sydd wedi dod i’r golwg yn yr achos hwn, ac yn mynegi ei chydymdeimlad dwysaf â'r dioddefwr am y cam-drin y maent wedi'i ddioddef. Mae'n achos y cywilydd dwysaf bod offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru yn euog o droseddau mor ysgytwol. Gweddïwn dros y goroeswr a thros bob dioddefwr camdriniaeth, y mae'n rhaid i'w lles fod wrth wraidd ein gwaith bob amser. Gobeithiwn y bydd y modd y cafodd y datgeliad ei drin pan ddaeth i'r amlwg yn 2023 yn rhoi hyder bod yr Eglwys o ddifrif ynglŷn â delio'n gadarn ac yn bendant ag unrhyw achosion o'r fath.
Mae ymchwiliad mewnol a ysgogwyd gan y datgeliad yn awgrymu bod nifer fechan o aelodau'r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn ymwybodol o honiad arall yn erbyn Mr Pierce yn 1993, ond na chafodd hyn ei rannu gyda'r Heddlu tan 2010. Mae Pwyllgor Diogelu'r Eglwys yng Nghymru bellach wedi comisiynu adolygiad allanol annibynnol o'r modd y gwnaeth yr Eglwys yng Nghymru ymdrin â'r ail honiad hwn. Bydd yr adolygiad yn cychwyn ar unwaith ac fe fydd yn cael ei gyhoeddi ar ôl ei gwblhau. Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried sut mae honiadau diogelu yn cael eu trin yn systemau presennol yr Eglwys ar gyfer penodi Archddiaconiaid ac Esgobion ac a oes angen unrhyw newidiadau i'r prosesau hyn.
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn benderfynol o ddangos ei fod yn lle diogel, ac y bydd pryderon neu ddatgeliadau unrhyw un sy'n dod ymlaen yn cael eu cymryd o ddifrif, yn cael eu trin â thosturi, ac yn cael eu gyrru ymlaen yn unol â'r safonau cyfredol uchaf. Os yw ein pobl a'n prosesau wedi methu dioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth yn y gorffennol, rydym yn bwriadu cymryd cyfrifoldeb am y ffaith honno a chymhwyso'r gwersi a ddysgwyd yn llawn.
Nid oes lle i unrhyw fath o gamdriniaeth yn yr Eglwys yng Nghymru. Rydym yn rhoi'r flaenoriaeth uchaf i ofal ac amddiffyniad plant a phobl agored i niwed yn ein cymunedau. I'r perwyl hwn rydym yn adolygu'n rheolaidd I'r perwyl hwn rydym yn adolygu ein gweithdrefnau diogelu yn rheolaidd ac yn darparu hyfforddiant helaeth i staff a gwirfoddolwyr.
Rydym yn annog unrhyw un sydd â phryderon diogelu i gysylltu ag aelod o'n tîm drwy wefan yr Eglwys yng Nghymru:
- Gwefan: https://www.churchinwales.org.uk/cy/safeguarding/reporting-safeguarding-concern/
- Ffôn: 02920 348200
Fel arall, mae Safe Spaces yn wasanaeth cymorth annibynnol am ddim, sy'n darparu gofod cyfrinachol, personol a diogel i unrhyw un sydd wedi cael ei gam-drin trwy eu perthynas ag Eglwys Loegr, yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru.
Gallwch gysylltu â'r tîm Mannau Diogel drwy:
- Gwefan: www.safespacesenglandandwales.org.uk
- Ffôn: 0300 303 1056 (ffôn ateb ar gael y tu allan i'r oriau agor)
- E-bost: safespaces@firstlight.org.uk
Dylai unrhyw un sydd â phryderon neu wybodaeth am yr achos hwn gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101.
Gallwch ddod o hyd i Gylch Gorchwyl yr adolygiad o ymdriniaeth yr Eglwys yng Nghymru â honiad o gam-drin yn erbyn Anthony Pierce isod:
Cylch Gorchwyl - Adolygiad Achos Annibynnol Anthony Pierce (PDF)