Apêl am gymorth ar gyfer ffoaduriaid
Ffoaduriaid adref a thramor yw ffocws apêl yn yr Wythnos Ffoaduriaid ar gyfer Cronfa Canmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru.
Mae’r Gronfa, a sefydlwyd i nodi canmlwyddiant yr Eglwys y llynedd, yn cefnogi dau brosiect sy’n helpu ffoaduriaid – mae un, a gaiff ei redeg gan Cymorth Cristnogol, yn Ne Sudan er mwyn helpu adeiladu heddwch mewn cymunedau a rwygwyd gan flynyddoedd o ryfel, a’r llall yng Nghymru, a gaiff ei redeg gan Cyfiawnder Tai Cymru, i helpu pobl ddigartref a bregus yng Nghymru i sicrhau tenantiaethau.
Mae’r Gronfa yn anelu i godi o leiaf £100,000 ar gyfer y ddwy elusen erbyn 2025.
Mae Andy John, Esgob Bangor, uwch esgob yr Eglwys, yn annog pobl i gefnogi’r Gronfa a gweddïo dros waith y ddau brosiect i nodi’r Wythnos Ffoaduriaid.
Dywedodd, “I fi, roedd ymweld â’r ‘Jyngl’ yn Calais yn 2016 yn brofiad poenus a hefyd swreal. Swreal oherwydd fod pobl ar eu gwyliau o Brydain yn llythrennol yn mynd heibio gwersyll oedd yn orlawn gyda phobl mewn cyflwr enbyd yn byw mewn amodau aflan, llawer ohonynt wedi ffoi o’u cartrefi i achub eu bywydau. Poenus oherwydd wrth i bobl fynd heibio dros y misoedd, fe wnaethant gyfarwyddo â’r sefyllfa – fe ddaeth yn normal. Cafodd y Jyngl ei chwalu, neu ei wasgaru, a gan nad ydym mwyach yn gweld adroddiadau am gychod yn llawn pobl yn ceisio cyrraedd Prydain, mae tueddiad anffodus i feddwl y cafodd yr argyfwng ffoaduriaid ei ‘ddatrys’.
“Fodd bynnag, mae’r ystadegau diweddaraf gan Asiantaeth Ffoaduriaid y Comisiwn Unedig yn dangos fod yr argyfwng yn gwaethygu, gyda mwy na 80 miliwn o ffoaduriaid yn fyd-eang ganol y llynedd, sefyllfa a waethygwyd ymhellach gan bandemig Covid a thoriadau i gymorth. Mae’r rhain yn bobl sydd ag angen dirfawr am ein cefnogaeth.
“Mae ein Cronfa Canmlwyddiant yn cefnogi gwaith hanfodol i adeiladu heddwch yn Ne Sudan fydd yn helpu i arafu’r llif o ffoaduriaid sy’n gadael y wlad. Mae hefyd yn cefnogi ffoaduriaid yng Nghymru sy’n wynebu digartrefedd. Mae’r Gronfa yn un ffordd y gallwn gerdded wrth ochr ein brodyr a’n chwiorydd, ymhell ac agos, sydd mewn cymaint o angen. Rwy’n eich annog i gyfrannu’r hyn a fedrwch a hefyd i weddïo dros y rhai a gafodd eu halltudio o’u cartrefi, wrth i ni nodi Wythnos Ffoaduriaid.”
Cymorth Cristionogol
Mae gwrthdaro treisgar yn Ne Sudan a’r pandemig parhaus wedi gorfodi pobl o’u cartrefi ac mae llawer yn awr yn byw yn llociau’r eglwys er mwyn diogelwch.
Dywedodd James Wani, cyfarwyddwr gwlad Cymorth Cristionogol yn Ne Sudan, “Mae’r sefyllfa yn enbyd a’r pandemig yn gwaethygu hynny. Mae’r rhai a gafodd eu halltudio o’u cartrefi yn brin o hanfodion bywyd tebyg i gysgod, bwyd, dŵr a meddyginiaeth. Mynediad gwael sydd i ddŵr a sebon i weithredu mesurau ymatal COVID ac mae bron yn amhosibl cadw pellter cymdeithasol. Mae partneriaid Cymorth Cristnogol yn gweithio gydag eglwysi ar lawr gwlad i roi cymorth i’r rhai a alltudiwyd ac yr effeithiodd y trais arnynt, gyda bwyd a chysgod a chefnogaeth seico-gymdeithasol. Gofynnwn am eich cefnogaeth barhaus i’r apêl hon i’n galluogi i ymateb yn yr amgylchiadau heriol yma. Mae cymorth yn hanfodol i wireddu urddas, cydraddoldeb a chyfiawnder i bobl sy’n byw realaeth tlodi eithafol yn Ne Sudan lle mae gwrthdaro yn gwaethygu tlodi a’r argyfwng dyngarol.”
Cyfiawnder Tai Cymru
Caiff ffoaduriaid a ffodd i Gymru eu cefnogi gan Cyfiawnder Tai Cymru sydd eleni yn ehangu ei wasanaethau iddynt.
Dywedodd Bonnie Navarra, cyfarwyddwr Cyfiawnder Tai Cymru, “Gall bywyd fod yn anodd tu hwnt nes bod pobl yn derbyn statws ffoadur, gan na allant weithio na chael mynediad i fuddion a gallant ddod yn ddiymgeledd.
“Eleni byddwn yn dechrau ar brosiect ledled Cymru i wella ac ehangu llety a gwasanaethau cymorth i bobl sy’n ceisio lloches. Byddwn yn datblygu cyfleoedd partneriaeth newydd gyda sefydliadau i ffoaduriaid a’r digartref, gan wella darpariaeth bresennol a chydweithio i ddarparu dull cydlynol i atal pobl rhag bod yn ddiymgeledd a digartref yng Nghymru.
“Byddwn hefyd yn dechrau cynllun lletya yn seiliedig ar yr un a gaiff eisoes ei redeg yn llwyddiannus yn Llundain. Gallwch ddysgu mwy am hyn yma."
I gyfrannu at ein Cronfa Canmlwyddiant, llenwch y Ffurflen Rhoi*
Cyfrannu nawr*Os ydych yn rhoi rhodd personol ac yn talu’r dreth yn y Deyrnas Unedig, llenwch y Datganiad Rhodd Cymorth a'i e-bostio at: giftdirect@churchinwales.org.uk