Cynhadledd Imagine Peace 2024
Beth fyddai'n ei gymryd i ni greu dyfodol lle mae heddwch a chyfiawnder yn realiti i bawb?
Mae Archesgob Cymru yn mynychu cynhadledd Imagine Peace 2024 ym Mharis, a gynhelir gan y gymuned Sant'Egidio, sefydliad Cristnogol sydd wedi ymrwymo i feithrin heddwch.
Bydd yr Archesgob yn cyflwyno sgwrs ar Foeseg a Deallusrwydd Artiffisial, gan archwilio ei oblygiadau ar gyfer democratiaeth.