Yr Archesgob Andrew John yn talu teyrnged i’r Arglwydd Elis-Thomas
![](https://churchinwales.contentfiles.net/media/images/Dafydd_Elis-Thomas.width-1200.jpg)
Daw'r ffotograff yn y stori newyddion hon o wefan swyddogol Llywodraeth Cymru ac fe'i hatgynhyrchir o dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored v3.0.
Wrth sôn am farwolaeth yr Arglwydd Elis-Thomas, dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John:
"Gyda thristwch mawr y clywais am farwolaeth yr Arglwydd Elis-Thomas. Roedd yn ffigwr o arwyddocâd hanesyddol ac yn un o brif benseiri y Gymru fodern. Yr oedd yn wleidydd o weledigaeth, gyda meddwl disglair ac annibynnol, yn eofn yn wyneb pob her ac yn ddi-flino yn ei ymrwymiad i'r wlad y treuliodd ei fywyd yn ei gwasanaethu. Gyda'i farwolaeth, mae Cymru wedi colli un o'i ffigyrau mwyaf dylanwadol ac un a fydd yn cael eu cofio nid yn unig am y pethau mawr a gyflawnodd ym mywyd cyhoeddus, ond hefyd am ei gynhesrwydd, ei ddeallusrwydd a'i hiwmor personol. Rwy'n gwybod y bydd pawb yn yr Eglwys yng Nghymru, y bu ef yn aelod ffyddlon ohoni, yn ymuno â mi i anfon ein cydymdeimlad dwysaf at Mair a'r teulu, a'u sicrhau o'n gweddïau parhaus."