Archesgob Andrew yn cynrychioli'r Eglwys yng Nghymru yn Niwrnod Cenedlaethol Coffau'r Holocost
Datganiad gan yr Archesgob Andrew John
"Eleni, bydd arwyddocâd arbennig i Seremonïau Coffau’r Holocost. Mae'n 80 mlynedd ers i Auschwitz-Birkenau gael ei ryddhau o reolaeth y Natsïaid a 30 mlynedd ers yr hil-laddiad yn Srebrenica. Bydd goroeswyr a'u teuluoedd yn chwarae rôl arbennig wrth inni gofio'r digwyddiadau erchyll a dewrder y rhai a'u dioddefodd.
Ac mae ein cyfarfodydd yn achlysuron dwys i bob un ohonom hefyd. Gwyddom fod rhyfel a gwrthdaro yn dominyddu’r dirwedd ryngwladol o hyd. Mae'n ymddangos ein bod naill ai'n analluog neu'n amharod i ddysgu gwersi o'r dioddefaint a achosir gan gynifer ac i ddilyn y llwybr caled a phoenus o ddysgu beth mae cyfiawnder a heddwch yn ei olygu i'n byd. Gallai cofio'r amseroedd hyn beri i bawb ohonom oedi o'r newydd a meddwl sut y gallwn greu etifeddiaeth goffa barhaol, yn ffynhonnell gobaith ar gyfer ein dyfodol ni oll."
