Archesgob yn cyhoeddi buddsoddiad o £100M yng ngweinidogaeth yr eglwys
Cafodd buddsoddiad sylweddol yng ngweinidogaeth yr eglwys ei gyhoeddi heddiw (7 Medi) gan Archesgob Cymru.
Bydd yr Eglwys yng Nghymru yn gwario mwy na £100M o’i chronfeydd cyfalaf dros y degawd nesaf i helpu ei heglwysi i wasanaethau eu cymunedau yn fwy effeithlon. Gwneir buddsoddiad mewn datblygu gweinidogaethau a chynlluniau newydd, yn ogystal â chryfhau gwaith presennol.
Gwnaeth yr Archesgob, Andrew John, y cyhoeddiad yn ei Anerchiad Llywyddol i aelodau Corff Llywodraethol yr Eglwys ar ddechrau’r cyfarfod deuddydd heddiw. Dyma, meddai, oedd y buddsoddiad “mwyaf difrifol ac arwyddocaol” a wnaeth yr Eglwys ers 1920.
Talodd deyrnged i ymddiriedolwyr yr Eglwys, Corff y Cynrychiolwyr am eu “harweinyddiaeth weledigaethol” wrth gytuno i fuddsoddi’r arian. “Roedd yn gam dewr o ffydd. Mae’n seiliedig ar yr argyhoeddiad fod gan yr eglwys yr ewyllys a'r galon i dyfu ac i wneud pethau newydd. Ar draws yr esgobaethau, ac fel talaith, bydd yr arian newydd hwn yn adeiladu'r gallu ac yn creu momentwm: sef yn union beth ydym ei angen ac rwy'n canmol y cam eofn”
Dywedodd yr Archesgob fod ymgynghoriadau’n mynd rhagddynt gydag eraill ar y mathau o ddatblygiadau sy’n debygol o fod yn fwyaf ffrwythlon.
“Dim ond unwaith y gallwn wario’r arian hwn ac mae gofyn cynllunio’n ofalus sut y bydd yn cael ei ddyrannu a sut y byddwn yn dal ein gilydd y gyd-atebol am sut mae’n cael ei ddefnyddio.”
Ychwanegodd, “Os byddwn yn gadael i’r cyfnod hwn fynd heibio, a’r cyfle hwn chwalu, y canlyniadau fydd Cymru sy’n gwybod llai am gariad Crist nag ar unrhyw adeg arall yn ein hanes modern. Os gallwn ni ymrwymo’n hunain i’r argyhoeddiad fod Duw yn ein galw ni fod yn gludwyr gobaith mewn ffordd newydd, byddwn wedi gwneud rhywbeth dwfn, hardd a pharhaol. Y dasg yw peidio â cheisio gwario ein hunain allan o drwbl ond buddsoddi mewn lleoedd ble mae’n calonnau ar dân gydag egni a gobaith newydd. Mae buddsoddiad fel hyn yn talu ar ei ganfed ac yn llawn potensial.”
Cyhoeddodd yr Archesgob y rhoddir £37M arall dros y 10 mlynedd nesaf i sicrhau y caiff gweinidogaeth greiddiol yr eglwys ei rhoi ar sylfeini ariannol cadarn yn arbennig esgobaethau mwy newydd Trefynwy ac Abertawe ac Aberhonddu, nad oes ganddynt gronfeydd hanesyddol.
Costau Byw
Wrth siarad am yr argyfwng mewn costau byw, cyhoeddodd yr Archesgob yr Eglwys yn ymgyrchu dros weithredu dros y misoedd nesaf. dywedodd ei bod yn “warth” fod cynifer o blant yn y Deyrnas Unedig yn byw mewn tlodi a bod teuluoedd yn dibynnu ar fanciau bwyd er mwyn goroesi. “Y realiti i lawer mwy o bobl ar draws Cymru a thu hwnt yw, oni bai y gweithredir yn bendant yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd pobl yn llwgu ac yn oer - ac yn eu miloedd. Bydd y gaeaf hwn yn annioddefol a bydd y gost i fywiolaethau, ein llesiant, yr effaith ar ddyledion mewn cartrefi, yr effaith ar drosedd a thrais domestig yn sylweddol.
“Mae’n warth bod gennym ni yn y 6ed economi fwyaf yn y byd, gymaint o blant yn byw mewn tlodi cymharol a chymaint yn dibynnu ar fanciau bwyd i oroesi. Mae’r hyn a fwriadwyd unwaith fel gwasanaeth argyfwng erbyn hyn wedi’i wreiddio’n gadarn yng ngwead ein bywyd cenedlaethol ble mae teuluoedd, a llawer sydd mewn cyflogaeth (ond ar gyflogau isel), yn methu â goroesi heb y banc bwyd lleol. Mi wn fod y niferoedd dirifedi sy’n helpu mewn banciau bwyd (ac rwy’n diolch am eu gwaith o waelod calon) yn cytuno na ddylai hyn fod”.
Galwodd yr Archesgob ar archfarchnadoedd i wneud mwy i helpu siopwyr, megis treblu eu dewis o fwydydd sylfaenol i gynnwys mwy o fwyd ffres. Gwahoddodd eglwysi i fod yn “ymarferwyr haelioni”. Gofynnodd i bob cynulleidfa i gyfrannu 10 blwch o eitemau sylfaenol ar gyfer y rhwydwaith dosbarthu Banciau Bwyd yn ystod Adfent.
“Byddai hynny’n golygu tua 10,000 o focsys. Pe byddem yn dechrau cyn yr Adfent ac yn canolbwyntio ar hynny, byddwn yn gallu lliniaru, i rai, y gwaethaf o effeithiau'r gaeaf. Bydd rhai eglwysi’n gallu gwneud llawer mwy na 10 bocs ac mae hynny’n wych. I eraill, gall 10 bocs fod yn anodd. Y peth pwysig yw, er mwyn eirioli am newid mewn cymdeithas, y dylem fodelu'r haelioni rydym yn credu sy'n byw yng nghalon yr efengyl.”
Cynhelir cyfarfod y Corff Llywodraethol ar 7-8 Medi yn y Ganolfan Gynadleddau Ryngwladol yng Nghasnewydd.
Caiff y cyfarfod hefyd ei ffrydio’n fyw drwy ddolen ar wefan yr Eglwys yng Nghymru asianel YouTube
Anerchiad Llywyddol
Lawrlwythwch yma