Archesgob yn galw am ymateb gweithredol i’r argyfwng hinsawdd
Mae’r byd yn wynebu argyfwng hinsawdd ac mae angen i ni i gyd newid ein ffyrdd i gyfyngu ar gynhesu byd-eang, dywedodd Archesgob Cymru mewn anerchiad heddiw (19 EBRILL).
Roedd adroddiad diweddaraf yr IPCC (Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd), a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, yn “ddarllen sobreiddiol” dywedodd yr Archesgob Andrew John.
Rhybuddiodd yr eglwysi i beidio â syrthio i’r trap o feddwl nad oes fawr y gallant ei wneud, gan alw arnynt, yn hytrach, i fod yn “broffwydol weithredol” – yn eu dewisiadau personol, eu gweinidogaeth a’u heiriolaeth tuag at lywodraethau i alw am newid.
“Y realiti yw ein bod yn deall erbyn hyn mai nid wynebu her amgylcheddol yr ydym, ond yn hytrach mae’n argyfwng ac y bydd angen newid pob rhan o weithgaredd pobl os ydym am leihau allyriadau a chyfyngu ar gynhesu byd-eang. Mae cymaint yn dibynnu ar hyn,” dywedodd.
Wrth gyflwyno ei Anerchiad y Llywydd i aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ar ddechrau ei gyfarfod deuddydd yn Llandudno, cyhoeddodd yr Archesgob y byddai’r Eglwys yn cynnal Uwchgynhadledd Amgylcheddol y flwyddyn nesaf i ddwyn rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd gyda’r nod o wneud Cymru yn “batrwm o arfer da”.
“Fy ngobaith yw y bydd gwleidyddion, rhai o’r byd amaethyddol, y rhai sy’n monitro ein hafonydd a’n priddoedd, academyddion ac amgylcheddwyr yn bresennol i gychwyn sgwrs o fath gwahanol - fydd yn ymwneud llai â beio a mwy am ddod o hyd i’r mannau lle gall cydweithredu ddigwydd. Rydym ni i gyd yn hyn gyda’n gilydd a bydd yr atebion yn gofyn am gydlynu a gwaith cwrtais, deallus ac agored,” dywedodd.
Galwodd yr Archesgob Andrew ar bobl i wneud ymrwymiad parhaus i “ailddefnyddio, lleihau ac ailgylchu” yn eu bywydau personol.
“Er gall y newidiadau yma ymddangos yn fychan, mae eu prif effaith ar y ffordd y mae marchnadoedd yn gweithio. Rydym yn gallu siapio blaenoriaethau grwpiau rhyngwladol sy’n gwerthu nwyddau a gwasanaethau trwy wneud dewisiadau personol.”
Fe wnaeth hefyd annog yr holl eglwysi i ymuno â chynllun Eco Eglwys A Rocha a gwneud mynwentydd yn fannau lle gall bioamrywiaeth ffynnu.
Yn genedlaethol, roedd yr Eglwys yn lansio Offeryn Ôl Troed Ynni ac yn sefydlu Hyb Hinsawdd i gefnogi eglwysi a monitro’r cynnydd tuag at ei nod o net sero carbon erbyn 2030.
'Ffydd fywiog'
Soniodd yr Archesgob hefyd am dwf yr eglwys, yn dilyn y cyhoeddiad y llynedd bod buddsoddiad o £100m o gronfeydd wrth gefn hanesyddol. Mae cymunedau eglwysig ar draws pob traddodiad yn tyfu lle mae arweinyddiaeth ragorol, ffydd fywiog ac eglurder o ran diben. Disgrifiodd y twf yn Eglwys Sant Thomas yn Abertawe fel enghraifft.
“Pan fyddwn wedi ein hamgylchynu gan weinidogaeth sydd â’i phwyslais am allan, ychydig o sefydliadau all gymharu â ni a’r twf yr ydym yn ei weld,” dywedodd.
Wrth droi at atebolrwydd ac asesiad risg, dywedodd yr Archesgob Andrew bod datblygiadau arwyddocaol wedi digwydd dros y tair blynedd diwethaf, gan gynnwys sefydlu Panel Diogelu Annibynnol i sicrhau “nad ydym yn syrthio i’r trap o farcio ein gwaith cartref ein hunain”.
“Mae hygrededd a dilysrwydd yn ganolog i’n bywyd eglwysig. Rydym yn anelu at wneud a bod yn union yr hyn y mae’n ei ddweud ar y tun,” dywedodd.
Cefnogodd y Siarter Urddas yn y Gwaith, gan ddweud bod yr Eglwys yn edrych ar ymwneud yn fwy trylwyr â hi. Rhoddodd anogaeth i bob Cyngor Ardal Weinidogol i’w gwneud yn rhan o’u patrwm blynyddol.
Canmolwyd yr Adolygiad Allanol Cyfnodol ar Athrofa Padarn Sant fel “cefnogaeth gref o ansawdd a chyfeiriad yr hyfforddiant a ddilynir”. Ond roedd angen gwaith i ddatblygu lled y gweinidogaethau a’u cyfuno “o fewn dealltwriaeth hael o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Anglicanaidd”.
Yn y cyfamser byddai ‘cynulliad’ 24 awr o arweinwyr o bob rhan o’r Dalaith yn hwyrach eleni yn “strategol arwyddocaol” dywedodd yr Archesgob Andrew.
“Camp y synod yw dysgu cerdded gyda’n gilydd ac mae angen i hyn ddod yn normadol os ydym am weld ein bywyd fel Eglwys yng Nghymru yn ffynnu.”
Clôdd yr Archesgob ei anerchiad gyda galwad i ymddiried yn Nuw, hyd yn oed pan fydd y byd yn wynebu materion mor ddyrys.
“Yr Arglwydd sy’n ein hadnabod ni i gyd wrth ein henwau, sy’n ein caru yn ddiamod, sy’n gofyn i ni wneud y penderfyniad i beidio â gadael i’n calonnau gael eu pryderu ac i ymateb i’w alwad gyda ffydd a hyder.”
Mae’r Corff Llywodraethol yn cyfarfod yn Venue Cymru, Llandudno, ar 19-20 Ebrill. Agenda a’r papurau
Anerchiad y Llywydd llawn
Lawrlwythwch yma