Mae’r Archesgob yn galw am dosturi wrth i Brif Weinidog Cymru ymddiswyddo
Mae Archesgob Cymru yn galw am dosturi a pharch tuag at wleidyddion yn dilyn ymddiswyddiad Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething.
Mewn datganiad, Archesgob Andrew John yn sicrhau’r rhai sy’n gwasanaethu Cymru o’i weddïau.
Mae ei ddatganiad llawn yn dilyn.
Datganiad yr Archesgob
Mae pobl sy’n barod i ysgwyddo cyfrifoldebau, a risgiau, bywyd gwleidyddol yn haeddu ein parch am eu parodrwydd i wasanaethu’r cyhoedd. Er bod angen beirniadu weithiau, mae trugaredd bob amser yn hanfodol, ac yn yr ysbryd hwnnw byddwn yn gweddïo dros bawb sy’n ymwneud â’r profiad poenus hwn wrth iddynt geisio gwasanaethu pobl Cymru.